Fersiwn Graffig Isel - WAI lefel AA a Bobby 508
Pwy a beth - amdanom ni, sut y gallwn eich helpu chi Canllawiau ar-lein - Canllawiau manwl ar sut all eFasnach eich helpu chi Busnesau Bach a Chanolig eu Maint yng Nghymru - Newyddion, nodweddion a storïau llwyddiant busnes
Adnoddau - cymorth cynhwysfawr, cyfleusterau chwilio, a mwy Forum
Cyfle Cymru - tudalen cartref
Gwefan a ddatblygir mewn partneriaeth â BT
 English Version Dangos y tudalen yma mewn testun fwy  Gwneud yr tudalen yma yn gyfaddas â phapur Portread A4 Cymorth a'r y we Cysylltu â Chyfle Cymru  Map o'r Wefan  Cliciwch yr linc yma am archwiliad uwch. Am archwiliad syml, defnyddiwch yr bocs testun i'r dde.
Cyfle Cymru
Cysylltiad partner As featured on NewsNow.co.uk


Rhydych chwi yma: Home > Cyfle Cymru > Pwy ydym ni

 

Cyfle Cymru
Pwy ydym ni

Mae pëer cynyddol y Rhyngrwyd yn gweddnewid y ffordd y mae pobl a chwmnïau yn masnachu yn aruthrol. Mae Cyfle Cymru yn bodoli i helpu busnesau i dyfu drwy ddefnyddio'r Rhyngrwyd, ac yn enwedig, eFasnach. Mae gan y term 'eFasnach' amrywiaeth o ystyron, ond yn y cyd-destun hwn ystyriwn ei fod yn golygu trafodyn masnachol a wnaethpwyd drwy ddefnyddio'r Rhyngrwyd - megis cysylltu â chwmni i brynu nwyddau ar ôl eu darganfod drwy eu gwefan.

Mae busnesau yng Nghymru yn ymwybodol o bwysigrwydd eFasnach, ond amlygodd ymchwil a wnaethpwyd ym mis Ebrill 2000 gan NOP gyn lleied o bobl a oedd yn ei ddefnyddio. Nododd yr ymchwil, er bod busnesau yn ymwybodol, nid oeddent yn sicr o sut i sicrhau mantais i'w busnes, a sut i ddiffinio beth yw'r manteision yn y lle cyntaf. Caiff ymwybyddiaeth isel ei ategu gan gysylltedd isel â'r Rhyngrwyd, fel y canfu'r Adran Masnach a Diwydiant drwy ei hymchwil ei hun, a nododd mai Cymru sydd â'r nifer isaf o bobl sy'n cysylltu â'r Rhyngrwyd yn y DU.

Bartondale Engineering & Nigel Packer

Darparodd y canfyddiadau hyn y catalydd ar gyfer creu rhaglen i helpu busnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru i ddeall beth yw eFasnach, sut y gall helpu busnesau i dyfu, a sut y gellir rheoli prif faterion busnes a thechnoleg i sicrhau bod pob busnes yn elwa'n sylweddol. Mae'r wybodaeth a'r cymorth a ddarperir gan Gyfle Cymru ar gael i bob busnes bach a chanolig eu maint  - p'un a ydych yn barod i gymryd y cam cyntaf neu p'un a ydych eisoes wedi gweithredu prosiect eFasnach.

“O fewn 10 mis, aethom o 10 cwsmer allforio i 300 ac rydym yn parhau i leoli a chyflenwi cwsmeriaid newydd trwy gyfrwng yr ymgyrch eFarchnata yr ydym yn ei datblygu gyda chymorth Cyfle Cymru.”
John Hale, Bartondale Engineering, Hirwaun

Mae Cyfle Cymru yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau. Gall ymgynghorwyr personol ymweld â phob busnes i ddarparu adolygiad eFasnach am ddim, a ddilynir gan wasanaethau ymgynghorol ychwanegol a gwerthfawr ac am gost isel. Yn ogystal, gallwn ddarparu cymorth ariannol os bydd busnes yn dymuno prynu cynnyrch a gwasanaethau a nodir drwy'r adolygiad eFasnach. Yn olaf, os bydd busnes yn dymuno dangos arfer gorau ac yn gallu rhannu ei lwyddiant, gallwn ei gefnogi yn ystod y cam hwnnw hefyd.

Cefnogir hyn i gyd gan gyfres o weithdai a seminarau sy’n cylchdroi ledled Cymru, a gyflwynir gan ein hymgynghorwyr a’n partneriaid yn ogystal â chan Gyfle Cymru yn uniongyrchol. I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau hyn a llawer mwy, cofrestrwch er mwyn cael mynediad i’n calendr digwyddiadau cynhwysfawr.

Bydd Cyfle Cymru yn newid agweddau tuag at eFasnach drwy helpu pobl i ddeall a sylweddoli'r manteision sylweddol a ddaw i'w busnes unigol yn ei sgîl o ran effeithlonrwydd, twf ac elw. Ar raddfa ehangach, amcan y rhaglen yw cydnabod cyfraniad sylweddol busnesau bach a chanolig at economi Cymru, a thrwy fabwysiadu eFasnach i gyfrannu at ei ffyniant ac at ymgais Cymru i ddod yn arweinydd yn yr Oes Wybodaeth.


 
In order to use this facility you must LOGON.To use this feature you must first login



Rhan-Ariennir y Prosiect gan yr Undeb Ewropeaidd (Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd) Llywodraeth Cynulliad Cymru © 2001-2007 Gwell Busnes Cymru (Daliadau) Cyf
Cyfarwyddiadur Clieint / Telerau ac Amodau/Polisi preifatrwydd Botymau Mynediad Darnau RSS
W3C - Lefel hygyrchedd A. Fersiwn graffig isel lefel hygyrchedd AA a Bobby 508. W3C - Cysandeb tafenni steil rhaedorol Cyswllt Cryno Gwefan Gyfoethog (RSS)