Fersiwn Graffig Isel - WAI lefel AA a Bobby 508
Pwy a beth - amdanom ni, sut y gallwn eich helpu chi Canllawiau ar-lein - Canllawiau manwl ar sut all eFasnach eich helpu chi Busnesau Bach a Chanolig eu Maint yng Nghymru - Newyddion, nodweddion a storïau llwyddiant busnes
Adnoddau - cymorth cynhwysfawr, cyfleusterau chwilio, a mwy Forum
Cyfle Cymru - tudalen cartref
Gwefan a ddatblygir mewn partneriaeth â BT
 English Version Dangos y tudalen yma mewn testun fwy  Gwneud yr tudalen yma yn gyfaddas â phapur Portread A4 Cymorth a'r y we Cysylltu â Chyfle Cymru  Map o'r Wefan  Cliciwch yr linc yma am archwiliad uwch. Am archwiliad syml, defnyddiwch yr bocs testun i'r dde.
Cyfle Cymru
Cysylltiad partner As featured on NewsNow.co.uk


Rhydych chwi yma: Home > Cyfle Cymru > Beth rydym yn ei wneud > Ymgynghorwyr eFasnach

 

Cyfle Cymru
Ymgynghorwyr Cyfle Cymru

James Stevens, Ymgynghorydd eFasnach

Gallai’r dasg o drawsnewid eich busnes gydag eFasnach fod yn un anodd – ond gall Cyfle Cymru ei gwneud yn haws.

Mae ein hymgynghorwyr eFasnach ar gael i ddarparu cyngor wyneb yn wyneb personol, dibynadwy, diduedd a pharhaus.

Mae defnyddio ymgynghorwyr lleol yn helpu i sicrhau bod gan fusnesau ffynhonnell o gymorth eFasnach y gellir ymddiried ynddi, sydd yn ei dro yn dileu’r rhwystrau gwirioneddol a chanfyddedig sy’n wynebu busnesau wrth iddynt geisio mabwysiadu eFasnach yn effeithiol. Caiff busnesau’r cyfle i gael cyngor a chymorth datblygedig gan ymgynghorwr sy’n deall eu busnes a’r ardal, dau beth sy’n dylanwadu ar sut y dylid mabwysiadu’r dechnoleg er mwyn datblygu’r busnes.

Mae ein hymgynghorwyr i gyd yn wedi’u hyfforddi’n drwyadl. Yn gyntaf oll, maent i gyd wedi’u hyfforddi yn unol â chynllun tystysgrif cenedlaethol y DU ar gyfer ymgynghorwyr technoleg, Technology Means Business. Yna, cânt eu hyfforddi mewn pob agwedd ar wasanaeth Cyfle Cymru, pob mater busnes posibl yn ymwneud â gweithredu a defnyddio eFasnach, ac ar ôl hynny cânt addysg barhaus i sicrhau bod y cyngor y maent yn ei ddarparu i fusnesau yn amserol ac yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf, yn ogystal â bod yn ymarferol.

Mewn oes lle y mae technoleg yn newid o ddydd i ddydd, gellir dibynnu ar ein hymgynghorwyr i ddarparu’r cyngor gorau posibl.

Is-rennir ymgynghorwyr Cyfle Cymru’n sawl grŵp. Mae hyn yn ein galluogi i ddarparu’r ymgynghorydd mwyaf priodol ar gyfer eich anghenion. Mae ein grwpiau  ymgynghorwyr yn cwmpasu ardal awdurdod lleol, sector diwydiant neu angen arbennig (gan gynnwys anableddau).

The Development Company & Rhodri Packman

Eich ymgynghorwr fydd yn rhoi cyngor ar eFasnach i chi, bob cam o’r ffordd. Eich ymgynghorwr fydd yn cynhyrchu’ch adroddiad eFasnach cychwynnol; byddwch yn gallu siarad ag ef ynglŷn â syniadau am ragor o gymorth ac arian, a phan fyddwch yn cael budd o eFasnach, efallai y bydd yn sôn am eich llwyddiant mewn astudiaeth achos eFasnach.

Yn gyffredinol, mae ymgynghorwyr Cyfle Cymru’n darparu gwasanaeth ymgynghorol unigryw o’r radd flaenaf am gost gychwynnol isel i’r busnes, gyda photensial am enillion sylweddol o ran twf, trosiant a gwell effeithlonrwydd.


 
In order to use this facility you must LOGON.To use this feature you must first login



Rhan-Ariennir y Prosiect gan yr Undeb Ewropeaidd (Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd) Llywodraeth Cynulliad Cymru © 2001-2007 Gwell Busnes Cymru (Daliadau) Cyf
Cyfarwyddiadur Clieint / Telerau ac Amodau/Polisi preifatrwydd Botymau Mynediad Darnau RSS
W3C - Lefel hygyrchedd A. Fersiwn graffig isel lefel hygyrchedd AA a Bobby 508. W3C - Cysandeb tafenni steil rhaedorol Cyswllt Cryno Gwefan Gyfoethog (RSS)