Fersiwn Graffig Isel - WAI lefel AA a Bobby 508
Pwy a beth - amdanom ni, sut y gallwn eich helpu chi Canllawiau ar-lein - Canllawiau manwl ar sut all eFasnach eich helpu chi Busnesau Bach a Chanolig eu Maint yng Nghymru - Newyddion, nodweddion a storïau llwyddiant busnes
Adnoddau - cymorth cynhwysfawr, cyfleusterau chwilio, a mwy Forum
Cyfle Cymru - tudalen cartref
Gwefan a ddatblygir mewn partneriaeth â BT
 English Version Dangos y tudalen yma mewn testun fwy  Gwneud yr tudalen yma yn gyfaddas â phapur Portread A4 Cymorth a'r y we Cysylltu â Chyfle Cymru  Map o'r Wefan  Cliciwch yr linc yma am archwiliad uwch. Am archwiliad syml, defnyddiwch yr bocs testun i'r dde.
Cyfle Cymru
Cysylltiad partner As featured on NewsNow.co.uk


Rhydych chwi yma: Home > Cyfle Cymru > Beth rydym yn ei wneud > Cymorth cleientiaid

 

Cyfle Cymru
Cymorth Cleientaid

Bwtwm Help ar cyfrifiadur / Help button on a key board

Cymorth Cleient yw’r enw ar y pecyn ariannu y mae Cyfle Cymru yn darparu i’w gleientiaid ac mae ar gael i gleientiaid sy’n defnyddio’r gwasanaeth Cymorth Gweithredu. Os byddwch yn bwriadu prynu eitemau y diffinnir eu bod yn hanfodol ar gyfer gwella’ch busnes drwy eFasnach, gallwn ddarparu cymorth ariannol i wneud hyn.

Ar ôl derbyn eich adolygiad eFasnach cyntaf ac ar ôl hynny dewis un o’n pecynnau Cymorth Gweithredu, byddwch yna’n gymwys i gael Cymorth Cleient. Eitemau sy’n eich galluogi i ddringo’r ysgol eFasnach yw’r eitemau sy’n gymwys ar gyfer Cymorth Cleient.

Mae’r ysgol yn fethodoleg syml y mae Cyfle Cymru’n ei defnyddio i wahaniaethu rhwng lefelau o ran mabwysiadu eFasnach, mae’n darparu nod realistig i’r cwmni ei gyflawni er mwyn sicrhau y gall eFasnach weithio iddo. Mae cymhwyso hefyd yn amodol ar ymgynghorydd Cyfle Cymru’n gweithio gyda’r cleient, i sicrhau bod y cynnyrch a’r gwasanaethau’n hwyluso’r broses o ddringo cam ar yr ysgol.

Ar ôl neu yn ystod ymweliad â’r cleient, bydd yr ymgynghorwr Cyfle Cymru’n cytuno ar wariant a fydd yn gwireddu canfyddiadau’r adroddiad.

Faint sydd ar gael?

County Uchafswm cymorth cleient sydd ar gael Yn seiliedig ar wariant cleient o 
Bro Morgannwg, Caerdydd, Casnewydd, Sir Fynwy, Powys, Wrecsam £750 bob Adolygiad eFasnach £5,000 cyn TAW 

Ar gyfer Caerdydd, Sir Fynwy, Casnewydd, Powys, Bro Morgannwg a Wrecsam: dim ond busnesau sydd wedi’u lleoli mewn rhannau penodol o’r siroedd hyn sy’n gymwys i dderbyn gwasanaethau Cyfle Cymru. Mae croeso i chi gysylltu â ni i gael gwybod a yw eich busnes yn gymwys.

Am beth y gall Cymorth Cleient dalu?

Mae hyn yn dibynnu ar yr adroddiad eFasnach y bydd eich ymgynghorwr yn rhoi i chi. Nid oes cyfyngiadau o ran mathau neu natur y cynnyrch a’r gwasanaethau y gall Cymorth Client dalu amdanynt, gan fod gan bob cwmni anghenion a gofynion  gwahanol a ffordd wahanol o weithredu.

Bydd eich ymgynghorwr hefyd yn gweithio gyda chi i sicrhau eich bod yn cael yr elw mwyaf posibl o’ch buddsoddiad; eich bod yn mynd i’r afael â’r farchnad cynnyrch eFasnach yn hyderus, gan wybod bod eich ymgynghorwr wedi rhoi’r wybodaeth i chi ynglŷn â beth fyddai’n gweithio orau i’ch cwmni, nawr ac yn y dyfodol.

Mae telerau ac amodau’n gymwys i’r broses Cymorth Cleient. Gallwch gael rhagor o wybodaeth gan eich ymgynghorwr Cyfle Cymru, neu drwy gysylltu â ni’n uniongyrchol.


 
In order to use this facility you must LOGON.To use this feature you must first login



Rhan-Ariennir y Prosiect gan yr Undeb Ewropeaidd (Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd) Llywodraeth Cynulliad Cymru © 2001-2007 Gwell Busnes Cymru (Daliadau) Cyf
Cyfarwyddiadur Clieint / Telerau ac Amodau/Polisi preifatrwydd Botymau Mynediad Darnau RSS
W3C - Lefel hygyrchedd A. Fersiwn graffig isel lefel hygyrchedd AA a Bobby 508. W3C - Cysandeb tafenni steil rhaedorol Cyswllt Cryno Gwefan Gyfoethog (RSS)