 |
 |
Rhydych chwi yma: Home > Cyfle Cymru > Pwy ydym ni > Gwybodaeth am bartneriaid > CLlLC
|
| |
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli pob awdurdod lleol yng
Nghymru. Mae awdurdodau lleol yn hyrwyddo lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol eu
hardaloedd, ac maent yn cyflwyno ystod eang o wasanaethau i ategu'r broses o ddatblygu'r
economi leol. Mae pob awdurdod yn cefnogi busnesau yn eu hardaloedd mewn ffyrdd amrywiol,
ac mae ganddynt ddealltwriaeth dda o anghenion ac amgylchiadau lleol.
Mae pymtheg awdurdod lleol yn dod yn bartneriaid ym menter Gwell Busnes Cymru. Mae
awdurdodau lleol wedi cydnabod pwysigrwydd hanfodol eFasnach wrth ddatblygu busnesau yn
eu hardaloedd. Mae eu cyfranogiad ym menter Gwell Busnes Cymru yn dod ag arbenigedd
partneriaid cenedlaethol a buddsoddiad sylweddol yn ogystal â phroses gyflenwi leol
er mwyn diwallu anghenion lleol. Bydd hyn yn helpu i greu sector busnes egnïol a
dynamig yn rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yn Ewrop.
Ymwelwch â'r wefan ar www.wlga.gov.uk
|
|

|
 |