 |
 |
Rhydych chwi yma: Home > Cyfle Cymru > Pwy ydym ni > Gwybodaeth am bartneriaid > Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru
|
| |
|
Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru
Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru yw un o'r prif sefydliadau gwirfoddol sy'n gwasanaethu Cymru. O fewn Cymru bob blwyddyn mae'n helpu dros 3000 o bobl ifanc sy'n wynebu anfantais i gyrraedd eu potensial llawn. Mae hyn yn bosibl drwy ddatblygu hyfforddiant sgiliau sylfaenol a hunan ddatblygu, mentora a chymorth ariannol. Pan fo pobl eraill wedi dweud na wrth bobl ifanc, mae Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru yn dweud 'fe allwch'.
Mae Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru yn sefydlu dros 400 o bobl ifanc yng Nghymru mewn hunan-gyflogaeth bob blwyddyn drwy ddarparu benthyciadau busnes, grantiau a chymorth mentora parhaus. Mae hyn yn cynrychioli 10 y cant o bob busnes sy'n cychwyn yng Nghymru, ac mae dwy ran o dair yn dal i fasnachu ar ôl tair blynedd. Felly, mae Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru yn falch iawn i gymryd rhan ym menter Gwell Busnes Cymru ac mae'n cydnabod y rôl bwysig y bydd y fenter hon yn ei chwarae wrth wella ymhellach cyfraddau goroesi tymor hir a natur gystadleuol y busnesau y mae'n eu cefnogi.
www.princes-trust.org.uk
|
|

|
 |