|
Undeb Ewropeaidd Arian gan y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd Wedi’i ddarparu yng Nghymru gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru
Noddir gwasanaethau Cyfle Cymru gan y rhaglenni Amcan 1 ac Amcan 2.
Beth yw Amcan 1?
Bydd y rhanbarthau hynny yn yr Undeb sy’n annatblygedig, sy’n cael eu hailstrwythuro neu sy’n wynebu problemau daearyddol, economaidd neu gymdeithasol penodol, yn cael eu rhoi mewn gwell sefyllfa i ddelio â’u hanawsterau ac i elwa’n llawn ar y cyfleoedd a gynigir gan y farchnad sengl. Mae Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn un o’r pedair ardal a ddynodwyd fel ardal Amcan Un ar gyfer y DU (y tair ardal arall yw Cernyw ac Ynysoedd Sili; De Swydd Efrog; a Glannau'r Merswy).

O fewn Dogfen Rhaglennu Sengl (PDF) Amcan Un, mae Cyfle Cymru yn dod o dan fesur 2 (Hybu a chefnogi’r galw am gymwysiadau TGCh) o dan flaenoriaeth 2 (Datblygu arloesedd a’r economi sy’n seiliedig ar wybodaeth).
Beth yw Blaenoriaeth 2?
Nodau ac amcanion Blaenoriaeth 2 yw gwella ysbryd cystadleuol y rhanbarth drwy gaffael a defnyddio gwybodaeth a thechnolegau newydd, gan arwain at bum amcan eang:
- Creu diwylliant o arloesedd
- Amrywio’r sylfaen economaidd drwy greu mwy o gwmnïau sy’n cael eu llywio gan dechnoleg a gwybodaeth a gwella eu cysylltiadau â’r sylfaen wybodaeth.
- Cynyddu buddsoddiad mewn Ymchwil a Datblygiad.
- Hybu’r galw cynyddol am TGCh, a’i fabwysiadu
- Gwella perfformiad amgylcheddol drwy fabwysiadu technolegau glân, a’u defnyddio.
Caiff ei gyflwyno drwy bum mesur, sydd oll wedi’u hariannu gan Y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd, heblaw am fesur 4, sydd wedi’i ariannu drwy Gronfa Gwymdeithasol Ewrop:
- Seilwaith Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
- Hybu a chefnogi’r galw am gymwysiadau TGCh
- Cymorth ar gyfer Datblygu Arloesedd ac Ymchwil a Datblygiad
- Sgiliau ar gyfer Arloesedd a Thechnoleg
- Datblygiadau Sector Ynni Glân
Beth yw Blaenoriaeth 2 Mesur 2?
Blaenoriaeth 2 Mesur 2 yw "Hybu a chefnogi’r galw am gymwysiadau TGCh", wedi’i ariannu drwy’r Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd.
Caffael, dadansoddi a defnyddio gwybodaeth fydd yr allwedd i ysbryd cystadleuol parhaus. Felly bydd angen defnyddio technolegau gwybodaeth a chyfathrebu i’r eithaf er mwyn i’r rhanbarth gyflawni llwyddiant economaidd ar lefel uwch.
Mae hybu’r galw am TGCh yn un elfen o’r trosglwyddiad i Gymdeithas Wybodaeth. Mae’r gallu i fodloni’r galw cynyddol hwnnw drwy ddiwydiant ochr cyflenwi brodorol cryf yn hanfodol hefyd. Mae tri prif symbylydd yn y gwaith o wella cryfder yr ochr gyflenwi - diwydiant cyflenwi effeithiol sy’n bodoli eisoes, mynediad i gyfalaf, a mynediad i sgiliau - mae Mesur 4 yn delio â’r pwynt olaf.
- Gwella gweithgareddau codi ymwybyddiaeth ymhlith busnesau bach a chanolig eu maint;
- Hybu’r galw drwy greu enghreifftiau lleol i ddangos manteision TGCh;
- Cefnogi’r defnydd o TGCh yn y gwaith o ddatblygu datrysiadau i faterion amgylcheddol allweddol.
Beth yw Amcan 2?
Nod rhaglen Amcan 2 yw adfywio ardaloedd sy’n wynebu anawsterau economaidd-gymdeithasol a all achosi lefel uchel o ddiweithdra. Mae ardaloedd Amcan 2 yn fwy cyffredin ledled y DU nag Amcan 1.
Enw’r ardal yng Nghymru sydd wedi’i dynodi fel amcan 2 yw Dwyrain Cymru, ac mae wedi’i rannu’n wardiau etholiadol penodol o fewn y tair sir sydd ar y ffin (Wrecsam, Powys, Sir Fynwy), yn ogystal â Chasnewydd, Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae ganddi economi amrywiol a chymharol lewyrchus o ran cynnyrch, er bod llewyrch mewn rhannau yn sylweddol is na’r cyfartaledd cenedlaethol. Fodd bynnag, rhagwelir posibilrwydd o dyfiant arwyddocaol yn y rhanbarth ar gyfer twristiaeth a datblygiad busnesau bach.
Blaenoriaethau
Tair blaenoriaeth Amcan 2 yw: datblygu busnesau bach a chanolig eu maint sy’n gystadleuol ac yn gynaliadwy; darparu datblygiad gwledig cynaliadwy; ac adfywio cymunedau trefol.
Gwaith Cyfle Cymru gyda rhaglenni Ewropeaidd eraill
Fel menter a ariennir gan Ewrop, mae Cyfle Cymru’n gweithio’n agos gyda nifer o sefydliadau a mentrau ledled yr UE, ac o fewn gwledydd neu ranbarthau penodol.
Mae gan Cyfle Cymru drefniant gyda nifer o’r sefydliadau a’r mentrau hyn i rannu cynnwys eu gwefannau. Rhennir y cynnwys hwn ar wefan Cyfle Cymru drwy ein gwasanaethau i aelodau yn bennaf, gan gynnwys ein rhan Newyddion, a’n cylchlythyr eBost wythnosol.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth bellach am y sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw i daenu newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf, drwy logio yn ein Rhan i Aelodau, yna gwasgu’r botwm Newyddion yna Gwybodaeth newyddion.
Os hoffech ganfod mwy am y ffordd rydym yn gweithio gyda rhaglenni Ewropeaidd eraill, neu eich bod yn perthyn i raglen eich hun ac yn awyddus i gysylltu â ni, yna cofiwch wneud hynny.
Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru - darparu arian strwythurol Ewropeaidd ledled Cymru.
Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd - gwybodaeth am raglen y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd gan yr Undeb Ewropeaidd.
Amcan Un - gwybodaeth am Amcan Un o safle Inforegio yr Undeb Ewropeaidd.
Amcan Dau - gwybodaeth am Amcan 2 gan Inforegio.
|