Mae Prifysgol Cymru, Bangor yn sefydliad academaidd o'r radd flaenaf. Mae yma amrediad eang o wybodaeth a medrau arbenigol ac mae gan y Brifysgol enw da am ddeall a bodloni anghenion busnesau. Yn ogystal â darparu addysgu rhagorol a chynnal ymchwil o safon byd, mae Bangor wedi ymrwymo i weithio gyda busnesau a diwydiannau fel rhan o'i chennad fel sefydliad. Mae Bangor wedi ennill gwobrau am ei gwaith gyda busnesau a byddwn yn gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr mewn cyrff ac asiantaethau sy'n rhannu ein hamcanion o ran datblygu'r economi rhanbarthol.
Cafodd coleg Bangor ei sefydlu ym 1884, ac mae ganddo draddodiad hir o ragoriaeth academaidd sy'n parhau hyd heddiw. Mae dros hanner yr adrannau sydd wedi'u hasesu hyd yn hyn yn yr asesiadau ansawdd addysgu wedi cael eu dyfarnu'n 'ardderchog', sef y dosbarthiad uchaf.