Fersiwn Graffig Isel - WAI lefel AA a Bobby 508
Pwy a beth - amdanom ni, sut y gallwn eich helpu chi Canllawiau ar-lein - Canllawiau manwl ar sut all eFasnach eich helpu chi Busnesau Bach a Chanolig eu Maint yng Nghymru - Newyddion, nodweddion a storïau llwyddiant busnes
Adnoddau - cymorth cynhwysfawr, cyfleusterau chwilio, a mwy Forum
Cyfle Cymru - tudalen cartref
Gwefan a ddatblygir mewn partneriaeth â BT
 English Version Dangos y tudalen yma mewn testun fwy  Gwneud yr tudalen yma yn gyfaddas â phapur Portread A4 Cymorth a'r y we Cysylltu â Chyfle Cymru  Map o'r Wefan  Cliciwch yr linc yma am archwiliad uwch. Am archwiliad syml, defnyddiwch yr bocs testun i'r dde.
Cyfle Cymru
Cysylltiad partner As featured on NewsNow.co.uk


Rhydych chwi yma: Home > Cyfle Cymru > Beth rydym yn ei wneud > Taith Rithwir > Gofal Preswyl

 

Taith Rithwir
Gofal Preswyl

Gofal - merch yn gweithio ar ei chyfrifiadur / Care - lady working on her computer

Proffil y Cwmni

Mae’r Care Centre yn gwmni cyfyngedig, sy’n darparu gwasanaethau gofal sector preifat i bobl ag anableddau dysgu ac ymddygiad heriol. Mae’r Ganolfan yn darparu ar gyfer hyd at 25 o breswylwyr tymor hir a thymor byr ac yn darparu gwasanaethau yn y gymuned i gleientiaid sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain. Ar hyn o bryd, mae’n darparu cyflogaeth amser llawn a rhan amser i 58 o bobl.

Angen Busnes

Mae’r ganolfan yn darparu gofal seibiant yn ogystal â gweithgareddau dysgu strwythuredig yn unol ag anghenion cleientiaid. Mae newidiadau yn rheoliadau gofal y Llywodraeth a dulliau gweinyddu mewnol yn cyflwyno heriau dyddiol. Er enghraifft, mae angen sicrhau bod y tîm rheoli yn ymwybodol o newidiadau deddfwriaethol; eu bod yn dysgu am ddatblygiadau mewn gwasanaethau; ac yn deall sut y gall cleientiaid fanteisio ar fuddiannau ychwanegol o ddefnydd y ganolfan o arfer gorau.

Er mwyn ymateb i’r heriau hyn nododd y prif weinyddwr yr angen i osod gwybodaeth a chofnodion cleientiaid ar system gyfrifiadurol; i gael mynediad i wasanaethau’r Llywodraeth yn electronig; ac i rannu data a gwybodaeth gyda darparwyr gofal eraill.

Datrysiad eFasnach

Gan fod gan y tîm rheoli brofiad cyfyngedig, penderfynodd y cwmni gysylltu â Llygad Busnes, y gwasanaeth cyngor busnes diduedd gan y WDA, i gael help. Darparodd ymgynghorwyr Llygad Busnes wybodaeth lawn am ddau gynllun: Cyfle Cymru a Chynllun Cymhorthdal Band Eang y WDA.

Gwnaeth y cynllun Cymhorthdal Band Eang, sydd hefyd yn darparu gwasanaeth ‘profi cyn prynu’ alluogi’r tîm i weld y manteision gall band eang eu cyflwyno i fenter, cyn cofrestru i gael pecyn. Y pecyn a ddewiswyd ganddynt oedd BT Business Broadband, a oedd yn darparu llen-dân am ddim ac adnoddau ar gyfer rhwydweithio di-wifr hefyd.

Darparodd ymgynghorydd Cyfle Cymru ysgogiad a ffocws iddynt ddatblygu eu hadnoddau Rhyngrwyd. Roedd adroddiad yr ymgynghorydd yn darparu awgrymiadau pellach ar gyfer defnyddio eu cysylltiad band eang, ac i ailddatblygu eu presenoldeb ar y We.

Hyrwyddodd y wefan newydd wasanaethau gofal preswyl a chyfleusterau dysgu strwythurol i gleientiaid presennol a darpar gleientiaid. Fe’i cynlluniwyd hefyd i roi cymorth i’r rhwydwaith cynyddol o gleientiaid a gweithwyr gofal yn y gymuned drwy ddarparu fforwm effeithiol ar gyfer gweithgareddau allgyrch, ac fe’i cynlluniwyd ar gyfer hygyrchedd W3C AAA.

Helpodd Cymorth Gweithredu Cyfle Cymru i ddatblygu ‘canolfan gyswllt’ yn seiliedig ar dechnolegau yn cynnwys Protocol Rhyngrwyd Trosleisio a negesydd chwim. Byddai hyn yn sicrhau bod gan y Ganolfan Gyswllt weithrediad cwsmeriaid cost-effeithiol a deinamig.

Buddiannau Busnes

  • Datrysiad hawdd i’w ddefnyddio a’i uwchraddio, cost effeithiol, wedi’i deilwra’n arbennig.
  • Proses osod ddidrafferth a chymorth parhaus.
  • Mynediad prydlon i Wefannau’r Llywodraeth a chronfeydd data gofal cenedlaethol.
  • Argymhellodd ymgynghorydd o fancwyr y cwmni, HSBC, y dylent ddefnyddio gwasanaethau bancio ar-lein HSBC i edrych ar drafodion, gwneud taliadau a llawer mwy.
  • Caiff yr holl gofnodion eu storio’n electronig a’u diweddaru’n gyflym ac yn hawdd – gan leihau’r gwaith papur gan hanner diwrnod yr wythnos o leiaf.
  • Gwybodaeth a chymorth parhaus i weithwyr gofal a chleientiaid yn y gymuned.
  • Mae arbedion effeithlonrwydd yn eu galluogi i dreulio mwy o amser gwerthfawr gyda’r bobl sy’n derbyn gofal gan ddatblygu ac ehangu’r rhaglenni gofalu a gynigir ymhellach.
  • Rhychwant estynedig yn y farchnad i sicrhau bod darpar fuddiolwyr yn ymwybodol o’r Care Centre.
  • Mwy o gyfleoedd i recriwtio gweithwyr proffesiynol â sgiliau o’r tu allan i’r ardal leol.


 
In order to use this facility you must LOGON.To use this feature you must first login



Rhan-Ariennir y Prosiect gan yr Undeb Ewropeaidd (Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd) Llywodraeth Cynulliad Cymru © 2001-2007 Gwell Busnes Cymru (Daliadau) Cyf
Cyfarwyddiadur Clieint / Telerau ac Amodau/Polisi preifatrwydd Botymau Mynediad Darnau RSS
W3C - Lefel hygyrchedd A. Fersiwn graffig isel lefel hygyrchedd AA a Bobby 508. W3C - Cysandeb tafenni steil rhaedorol Cyswllt Cryno Gwefan Gyfoethog (RSS)