|
Taith Rithwir Siop Feiciau

Proffil y Cwmni
Busnes deilliedig yw Bespoke Bikes a sefydlwyd gan fab perchennog y Bike Shop, ar ôl dyfeisio cynllun beic ymarfer newydd wedi’i dargedu at farchnad defnyddwyr arbenigol.
Sefydlwyd y busnes gerllaw adeilad y Bike Shop ym 1999 a’i weithredu drwy gymorth Swyddogion Datblygu Mentrau Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru.
Angen Busnes
Fel dyfais newydd, mae ymwybyddiaeth gyfyngedig o’r cynnyrch ymysg defnyddwyr targed, ac mae gwerthiannau posibl yn gyfyngedig i’r nifer o feiciau gall y perchennog eu gweithgynhyrchu â llaw.
Yn hanesyddol, roedd y dyfeisiwr yn dibynnu ar hysbysebu mewn cylchgronau arbenigol ond, i oroesi, roedd yn cydnabod bod angen ymagwedd fwy arloesol ond rhad ar y busnes i farchnata’r cynnyrch yn lleol ac yn fyd-eang.
Fel masnachwr unigol, roedd mynd i’r afael â heriau a wynebai o ran cymorth ariannol, sianelau gwerthiannau, rhaglenni marchnata, ymchwil i gynnyrch, dylunio, datblygu a gweithgynhyrchu yn anodd.
Cynghorodd ffrind i’r teulu fod angen cyngor annibynnol ar y busnes os oedd am dyfu a ffynnu, a oedd ar gael drwy wasanaeth Llygad Busnes y WDA. Yn ogystal â chyfeirio’r busnes at Gyfle Cymru i gael cyngor arbenigol ar eFasnach a’r Rhyngrwyd, darparwyd help am ddim ar gynllun busnes hefyd, a chymorth i ehangu i leoliad busnes newydd.
Datrysiad eFasnach
Dangosodd y cynllun busnes fanteision Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu i lwyddiant hirdymor, ac amlygodd fod angen i’r busnes sefydlu presenoldeb llwyddiannus ar y Rhyngrwyd ar frys.
Gyda help Cyfle Cymru, datblygwyd presenoldeb arwyddocaol yn gyflym ar y We gyda chyfleustra siop ar-lein. Er y bu’r defnydd o system rheoli cynnwys lawr ar y wefan o gymorth i gyflymu’r gwaith datblygu, cysylltodd y rheolwr-berchennog ag ELWa i gael help i ddod o hyd i gwrs lleol ar ddylunio gwefannau.
Roedd y rheolwr-berchennog hefyd yn ymwybodol iawn o fand eang, ac roedd wedi cael ei osod yn ei gartref eisoes drwy BT Yahoo. Archebodd BT Broadband ar gyfer y busnes, a chyda help ymgynghorydd Cyfle Cymru, defnyddiodd feddalwedd BT’s Internet Trader Pack Shop i ddatblygu ei siop ar-lein. Gan fod llif arian yn bwysig ar gyfer y busnes ifanc hwn, roedd y tanysgrifiad misol y darparodd BT am Internet Trader Pack Shop yn ddefnyddiol yn hytrach na’i brynu mewn un cyfandaliad.
Ymhlith y cyffyrddiadau olaf roedd golwg 3D a fideos o’r cynnyrch, gan sicrhau bod darpar gwsmeriaid yn gallu gweld popeth yn fanwl ac yn gynhwysfawr.
Buddiannau Busnes
- Model busnes rhad, a ategir gan werthiannau a chyfleusterau marchnata byd-eang.
- Posibiliadau ar-lein i ymchwilio i’r farchnad, nodi darpar gwsmeriaid a chasglu ymatebion cwsmeriaid i nodweddion dylunio newydd yn gyflym ac yn effeithiol.
- Dull dibynadwy, diogel a syml o ddechrau masnachu ar-lein yn gyflym - nid oes angen prynu gwasanaethydd neu feddalwedd oherwydd caiff y gwasanaeth ei gynnal yn llawn gan BT.
- Gorbenion marchnata llai yn sgîl y gallu i hyrwyddo cynnyrch a diweddaru’r llyfryn ar unrhyw bryd i farchnad arbenigol – mae eStore ar agor drwy’r amser.
- Gwasanaeth y gellir ei ehangu – opsiynau hawdd i ehangu ystod y cynnyrch ac amrywio i farchnadoedd perthynol (e.e. rhannau beiciau) gyda’r gwariant lleiaf posibl.
- Cyfleoedd i gynyddu refeniw, lleihau costau gwerthiannau, a gwella gwasanaeth i gwsmeriaid.
|