Fersiwn Graffig Isel - WAI lefel AA a Bobby 508
Pwy a beth - amdanom ni, sut y gallwn eich helpu chi Canllawiau ar-lein - Canllawiau manwl ar sut all eFasnach eich helpu chi Busnesau Bach a Chanolig eu Maint yng Nghymru - Newyddion, nodweddion a storïau llwyddiant busnes
Adnoddau - cymorth cynhwysfawr, cyfleusterau chwilio, a mwy Forum
Cyfle Cymru - tudalen cartref
Gwefan a ddatblygir mewn partneriaeth â BT
 English Version Dangos y tudalen yma mewn testun fwy  Gwneud yr tudalen yma yn gyfaddas â phapur Portread A4 Cymorth a'r y we Cysylltu â Chyfle Cymru  Map o'r Wefan  Cliciwch yr linc yma am archwiliad uwch. Am archwiliad syml, defnyddiwch yr bocs testun i'r dde.
Cyfle Cymru
Cysylltiad partner As featured on NewsNow.co.uk


Rhydych chwi yma: Home > Cyfle Cymru > Beth rydym yn ei wneud > Taith Rithwir > Iechyd a Harddwch

 

Taith Rithwir
Iechyd a Harddwch

Iechyd a Harddwch - dwy ferch yn sgwrsio / Health and Beauty - two girls chatting

Proffil y Cwmni

Mae Lifestyle yn bartneriaeth sy’n cynnwys grw^p o ymarferwyr iechyd, harddwyr a therapyddion hunan-gyflogedig. Gan weithio o’u stiwdio, mae’r partneriaid yn cynnig ystod lawn o driniaethau harddwch, homeopathi a chyflenwol - megis profion alergedd, lleddfu meigryn, tyliniad pen Indiaidd, dull iachau egni Reiki, a thriniaethau anffrwythlondeb - yn ogystal â chyngor dietegol a thyliniad chwaraeon. Mae llawer o’r partneriaid yn parhau i gynnig ymweliadau â’r cartref ac mae nifer yn cynnig triniaethau yn eu meddygfeydd lleol.

Angen Busnes

Roedd y bartneriaeth yn awyddus i ddatblygu’r busnes ymhellach drwy adeiladu ar 4 blynedd o lwyddiant. Yn draddodiadol, cyfeiriwyd cleientiaid newydd i’r Lifestyle Studio ar dafod leferydd - argymhelliad gan ddeintyddion, meddygon a thrinwyr gwallt lleol ac, wrth gwrs, cleientiaid presennol. Arbrofodd y partneriaid â chyhoeddi cylchlythyr ledled Ewrop i’w werthu i ymarferwyr unigol er mwyn iddynt ei addasu’n arbennig cyn ei ddosbarthu ymlaen i’w cleientiaid eu hunain. Fodd bynnag, roedd effeithiolrwydd y broses hon wrth ddatblygu busnes newydd ac ychwanegol yn gyfyngedig.

Datrysiad eFasnach

I fynd i’r afael ag anghenion busnes, mae’r partneriaid wedi datblygu cynllun busnes, gyda help gan wasanaeth cymorth Llygad Busnes y WDA.

Cysylltodd y partneriaid â darparwyr TGCh i gael dyfynbris am gyflenwi, gosod a chynnal rhwydwaith cyfrifiadur personol ar gyfer y Stiwdio.

  • Roedd angen chwe chyfrifiadur pen-glin a gweithfannau, gyda rhwydwaith di-wifr a mynediad Rhyngrwyd band eang.
  • Gwnaethant hefyd integreiddio gwasanaethau bancio dros y We busnes yn uniongyrchol i becyn ariannol Microsoft Money.
  • Ar gyfer gwerthiannau a marchnata ar-lein a chyhoeddi gwybodaeth addysgol - fel yr hyrwyddwyd yn flaenorol drwy’r cylchlythyr - gweithredwyd datrysiad dylunio Gwe hefyd. Trwy hyn, daeth y partneriaid yn fwy ymwybodol o’r We a sut y gellir adeiladu a chynnal tudalennau ar y we. I sicrhau bod y wefan yn cael ei datblygu i’r safonau uchaf ac i sicrhau y byddai’n denu’r amrywiaeth ehangaf posibl o ddarpar gwsmeriaid, gwnaethant ymchwilio’n helaeth ar y We ar gyfer gofynion y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, gwybodaeth aradeileg a defnyddioldeb a lefelau hygyrchedd W3C.

Buddiannau Busnes

  • P’un a fyddant yn gweithio o’r Stiwdio neu yn eu cartrefi, gall pob partner bellach gyfeirio at eu dyddiadur diweddar o apwyntiadau ar-lein a chael mynediad i nodiadau achos cyn ymgynghoriad yn ogystal â diweddaru cofnodion ar ddiwedd triniaeth.
  • Gall cleientiaid drefnu apwyntiadau drwy’r Wefan yn ogystal â phrynu cynnyrch a argymhellwyd.
  • Yn ogystal, gall ymarferwyr cysylltiedig islwytho’r cylchlythyr electronig a’i addasu cyn ei ddosbarthu i’r cleientiaid.
  • Yn yr un modd, drwy’r Wefan, gall cleientiaid ac ymarferwyr cysylltiedig gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau yn y maes homeopathi, therapi cyflenwol, tyliniadau chwaraeon a thriniaethau harddwch.
  • Mae defnydd effeithiol o’r eBost i gyfathrebu â chleientiaid wedi helpu i ffurfio a chynnal a chadw cysylltiadau cadarn â chwsmeriaid.
  • Fel ymarferwyr cymwys, gall y partneriaid hefyd ddefnyddio’r cyfrifiaduron personol i gael mynediad i’r Rhyngrwyd er mwyn meithrin sgiliau a chymwysterau newydd ac, yn y pen draw, datblygu eu dyheadau busnes.

 
In order to use this facility you must LOGON.To use this feature you must first login



Rhan-Ariennir y Prosiect gan yr Undeb Ewropeaidd (Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd) Llywodraeth Cynulliad Cymru © 2001-2007 Gwell Busnes Cymru (Daliadau) Cyf
Cyfarwyddiadur Clieint / Telerau ac Amodau/Polisi preifatrwydd Botymau Mynediad Darnau RSS
W3C - Lefel hygyrchedd A. Fersiwn graffig isel lefel hygyrchedd AA a Bobby 508. W3C - Cysandeb tafenni steil rhaedorol Cyswllt Cryno Gwefan Gyfoethog (RSS)