Fersiwn Graffig Isel - WAI lefel AA a Bobby 508
Pwy a beth - amdanom ni, sut y gallwn eich helpu chi Canllawiau ar-lein - Canllawiau manwl ar sut all eFasnach eich helpu chi Busnesau Bach a Chanolig eu Maint yng Nghymru - Newyddion, nodweddion a storïau llwyddiant busnes
Adnoddau - cymorth cynhwysfawr, cyfleusterau chwilio, a mwy Forum
Cyfle Cymru - tudalen cartref
Gwefan a ddatblygir mewn partneriaeth â BT
 English Version Dangos y tudalen yma mewn testun fwy  Gwneud yr tudalen yma yn gyfaddas â phapur Portread A4 Cymorth a'r y we Cysylltu â Chyfle Cymru  Map o'r Wefan  Cliciwch yr linc yma am archwiliad uwch. Am archwiliad syml, defnyddiwch yr bocs testun i'r dde.
Cyfle Cymru
Cysylltiad partner As featured on NewsNow.co.uk


Rhydych chwi yma: Home > Cyfle Cymru > Beth rydym yn ei wneud > Taith Rithwir > Cydrannau Modurol

 

Taith Rithwir
Cydrannau Modurol

Cydrannau Modurol - dynes yn darllen dros papurau/ Automotive Components - lady reading over papers

Proffil y Cwmni

Bu Edwards Bros yn y busnes moduron ers y 60au ac maent wedi llwyddo i sefydlu cadwyn fach o siopau ar draws y DU a reolir gan y ddau frawd a 26 aelod o staff. Yn 2001, ymunodd eu dau fab ac roedd y ddau yn awyddus iawn i ddatblygu’r busnes. O ganlyniad, penderfynodd y tîm rheoli fabwysiadu dulliau newydd o weithio yn y siop leol a’i ddefnyddio fel glasbrint ar gyfer eu siopau eraill.

Mae’r busnes yn masnachu â llawer o weithgynhyrchwyr cydrannau eraill yn y DU, a chaiff archebion arbenigol eu mewnforio’n aml o Ffrainc, yr Eidal a Siapan. Yn hanesyddol maent wedi dibynnu ar microfiche ar gyfer codau archebu stoc gan osod archebion dyddiol drwy gyfrwng modem i’w prif swyddfa. Yn draddodiadol, maent wedi cadw proses flynyddol o wirio stoc oherwydd nad yw eu cofnodion pwynt gwerthu wedi cynnal data rheoli stoc.

Angen Busnes

Roedd y prif ysgogwyr busnes a nodwyd yn cynnwys yr angen i:

  • cystadlu’n fwy effeithiol â chystadleuwyr yn y DU yn cynnwys siopau DIY a leolir mewn parciau manwerthu
  • ymateb i benderfyniad eu prif gyflenwr i symud tuag at system archebu ar-lein ddiogel a fydd yn rhoi blaenoriaeth i archebion ar y We
  • symud tuag at system gyfrifo dibapur mwy cost effeithiol, gan ddarparu proses dalu ac anfonebu cwbl awtomataidd i’r cwmni
  • mabwysiadu arfer gorau ar draws yr holl siopau

Yn hanfodol roedd y cwmni’n ceisio gweithredu strategaeth reoli cadwyn gyflenwi a fyddai’n helpu’r busnes i lwyddo a thyfu.

Datrysiad eFasnach

Gan fod y ddau fab wedi cael profiad o weithio gyda systemau cyfrifiadurol cyn ymuno â’r cwmni, gwnaethant benderfynu datblygu cynnig wedi’i gostio yn seiliedig ar ddadansoddiad o anghenion busnes y cytunwyd arnynt a thermau ac amodau masnachu a amlinellir gan eu cyflenwr allweddol yn y ddogfen ‘meini prawf dethol’. Yn sgîl siarad â rhaglen Sbardun Cymru y WDA fe’u hysgogwyd i wella’r gadwyn gyflenwi drwy ddefnyddio technolegau’r Rhyngrwyd.

  • Dewisodd y brodyr brydlesu cyfrifiadur personol newydd pwerus gyda meddalwedd swyddfa wedi’i lwytho arno eisoes ac wedi’i becynnu â’r holl ategolion diweddaraf.
  • Gwnaethant gysylltu â chyflenwr EPOS cenedlaethol i osod a chynnal system rheoli gwerthiannau a stoc a oedd yn gysylltiedig â’u cyfrifiadur personol newydd.
  • Gwnaethant weithio gyda’u prif gyflenwyr i gael mynediad i Allrwyd y cwmni – gwefan wedi’i chynllunio i fynd i’r afael ag anghenion cyfathrebu pob aelod o’r gadwyn gyflenwi – ac i gyflwyno archebion yn seiliedig ar y we drwy’r system archebu ar-lein diogel.
  • Un o’r nifer o fanteision ychwanegol na wnaethant eu hystyried yn wreiddiol oedd eu cynllun Pensiwn Rhanddeiliaid y gellid ei weinyddu ar-lein drwy wasanaeth Bancio Busnes dros y Rhyngrwyd HSBC.

Mae’r cwmni wedi cytuno ar gynllun i gyflwyno’r system rheoli gwerthiannau a stoc newydd i bob siop, cyn y bydd y gadwyn ledled y DU yn rhwydweithio’n llawn.

Yn ychwanegol, mae’r cynllun busnes wedi’i ddatblygu ymhellach i gynnwys achlysur lansio gwefan i’w cwsmeriaid eu hun er mwyn iddynt allu gweld ac archebu cydrannau ar-lein.

Buddiannau Busnes

Drwy weithio’n agos â’i gyflenwyr mae’r cwmni wedi llwyddo i:

  • Ymateb i amodau a gofynion y farchnad yn gyflymach ac yn fwy effeithlon.
  • Dileu’r angen am broses wirio stoc â llaw sy’n llafurus a chostus.
  • Gosod archebion o fewn amser real gyda chyflenwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
  • Ymateb yn gyflymach i alwadau cwsmeriaid ac archebion am rannau arbenigol.
  • Rhannu gwybodaeth ar amserlenni cynhyrchu, gofynion prynu yn y dyfodol a lefelau stoc.
  • Lleihau’r broses o gadw stoc (system archebu a chyflenwi dim ond mewn pryd).
  • Gwella effeithlonrwydd gweithredol a lleihau costau.
  • Gwella cysylltiadau â chwsmeriaid a chyflenwyr.
  • Ffurfio cysylltiadau gwaith cryfach.

 
In order to use this facility you must LOGON.To use this feature you must first login



Rhan-Ariennir y Prosiect gan yr Undeb Ewropeaidd (Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd) Llywodraeth Cynulliad Cymru © 2001-2007 Gwell Busnes Cymru (Daliadau) Cyf
Cyfarwyddiadur Clieint / Telerau ac Amodau/Polisi preifatrwydd Botymau Mynediad Darnau RSS
W3C - Lefel hygyrchedd A. Fersiwn graffig isel lefel hygyrchedd AA a Bobby 508. W3C - Cysandeb tafenni steil rhaedorol Cyswllt Cryno Gwefan Gyfoethog (RSS)