|
Taith Rithwir Gweithgynhyrchu

Proffil y Cwmni
Is-gwmni sy’n rhan o gwmni rhyngwladol sy’n arbenigo yn y broses o weithgynhyrchu cydrannau trydanol ar gyfer gweithgynhyrchwyr mawr ar draws y byd yw Mega UK. Mae Mega UK, a sefydlwyd ym 1999, yn cyflogi ychydig o dan 100 o gyflogeion. Mae’r tîm reoli yn aml yn teithio i Ewrop, UDA ac i’r Dwyrain Pell.
Angen Busnes
Yng ngoleuni cystadleuaeth ffyrnig ar draws y byd, cynhaliodd y tîm rheoli adolygiad o gostau’r cwmni, gyda’r nod o nodi effeithlonrwydd ac arbedion cyffredinol.
Nododd yr adolygiad dwf sylweddol yn y defnydd o’r Rhyngrwyd, yn enwedig wrth gymryd a phrosesu archebion. O ganlyniad, roedd angen tendr cystadleuol i ddod o hyd i’r cyflenwr mwyaf cost effeithiol i ategu ei gadwyn gyflenwi a’i strategaeth rheoli cwsmeriaid.
Yn ddelfrydol, roedd y cwmni o’r farn y byddent yn elwa ar benodi un cwmni a fyddai’n darparu pecyn cyflawn – yn hytrach na nifer o gyflenwyr a fyddai’n cynnig y gwasanaethau yr oedd eu hangen fel cydrannau unigol.
Datrysiad eFasnach
Drwy’r broses gystadleuol o gyflwyno tendr, dewisodd y rheolwr TG ddatrysiad ar gyfer cwmnïau sydd eisoes yn elwa ar dechnoleg gwybodaeth ac sydd wrthi’n datblygu ar raddfa gyflym.
Roedd y pecyn, wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion penodol Mega UK yn cynnwys:
- Cynnal y We - galluogi’r cwmni i gynnal a dylunio Gwefan yn fewnol
- System Sganio Firysau Darparwr Gwasanaethau Cymhwyso - i sicrhau bod yr holl negeseuon eBost a ddaw i mewn ac a aiff allan a thudalennau Gwe a gaiff eu llwytho - yn cael eu sganio ar gyfer firysau. Caiff nodwedd y Sganiwr Firysau hefyd ei diweddaru 4 gwaith bob dydd â gwybodaeth ar unrhyw firysau newydd.
- Bellach caiff trafodion ariannol eu prosesu yn llawer cyflymach gan ddefnyddio gwasanaethau bancio dros y Rhyngrwyd HSBC, gan alluogi data i gael ei lwytho i feddalwedd megis Microsoft Excel ar gyfer dadansoddiadau a rhagfynegiadau cyflym.
Buddiannau Busnes
- Cadwyn Gyflenwi a dull Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid gwell ar draws llawer o safleoedd – hyd yn oed yn rhyngwladol.
- Mynediad dibynadwy i’r Rhyngrwyd i fusnesau - dull critigol o brosesu archebion.
- Cwsmeriaid allweddol yn cael eu hannog i osod archebion ar dudalennau diogel ar y We gan wybod y gall y cwmni gael mynediad i fanylion yr archeb yn gyflym ac yn hawdd.
- Gall cyflogeion gael mynediad i ffeiliau a gwybodaeth ar rwydwaith y cwmni tra eu bod i ffwrdd ar fusnes.
- Gall cyflogeion gael mynediad i’w cyfleuster eBost tra eu bod i ffwrdd o’r swyddfa – gan roi’r rhyddid iddynt weithio o gartref hefyd pan fyddant yn teithio ar fusnes.
- Mae Gwefannau datblygedig yn sicrhau y gall darpar gwsmeriaid gael mynediad hawdd i wybodaeth am y cwmni a’i wasanaethau.
- Arbedion cost drwy broses o ddylunio a chynnal y We yn fewnol.
- Arbedion amser o ganlyniad i ostyngiad sylweddol mewn amseroedd llwytho, o 20 munud fesul archeb i ychydig dros 2 funud.
- Effeithlonrwydd gweithredol gwell - yn enwedig mewn perthynas â’r systemau prosesu archebion.
|