|
The ITC
Beth bynnag yw eich busnes, gallwn eich helpu chi
Os mai cyngor ymarferol ar eFasnach sy’n ateb gofynion eich cwmni sydd ei angen arnoch ffoniwch ni. Rydym yn annibynnol ac yn ddiduedd. Beth bynnag yw maint eich busnesau, os yw newydd gael ei sefydlu neu’n sefydliad corfforaethol mawr, gallwch achub y blaen gan ddefnyddio ein gwybodaeth am sut mae busnes a thechnoleg yn cydweithio.
Mae profiad, agwedd ymarferol a gallu ein hymgynghorwyr i roi dysg ar waith yn golygu y gallwn roi cyngor cyflym i chi ar lle i fynd nesaf.
O newidiadau bychain i brosiectau enfawr
Gall eich cam nesaf fod mor syml ag adnabod pa newidiadau bach a fyddai’n gwella effeithlonrwydd a natur gystadleuol eich busnes, heb orfod talu’n ddrud. Fel arall gallai fod yn brosiect enfawr i newid eich proses busnes yn gyfan gwbl a chefnogi seilwaith technoleg.
P’un a ydych yn prynu cyfrifiadur a’i gymwysiadau am y tro cyntaf, yn gweithredu a marchnata gwefan gydag adnoddau talu ar-lein neu’n integreiddio eich systemau cefn swyddfa, Galwadau Ffôn Rhyngrwyd a chysylltiadau band eang, fe’ch cynghorwn a’ch cynorthwyo.
Cyngor gan ymgynghorwyr achrededig
Mae ein holl ymgynghorwyr yn dilyn rhaglen achredu allanol drwyadl, felly gallwn eich sicrhau ein bod yn cymhwyso arfer gorau, fel y gallwch gael y cyngor gorau sydd ar gael:
Cysylltwch â ni
Mae’r ITC wedi bod yn darparu gwasanaeth Cyfle Cymru ers dechrau ei gyfnod peilot a hwy yw eich partner lleol yn Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd, Powys a Wrecsam.
Ffoniwch ni ar
01745 828440
neu eBostiwch ni
info@theitc.co.uk.
Cyfeiriad y Prif Swyddfa:
The ITC, Oak House, Groes Lwyd, Abergele. LL22 7SU
www.theitc.co.uk
|