Rhydych chwi yma: Home > Adnoddau > Ardal yr aelodau
Ardal yr aelodau
Mae Gwefan Cyfle Cymru’n llawn cyngor, gwybodaeth ac adnoddau. Drwy gofrestru, gallwch gael mynediad i lawer mwy o nodweddion a gwasanaethau cyffrous er budd i chi a’ch cwmni.
Cewch gofrestru’n rhad ac am ddim, lle bynnag y bo’ch, a dim ond ychydig funudau a gymer y broses. Mae’r holl wasanaethau a nodir isod ar gael i bob defnyddiwr cofrestredig.
Cynnwys sy’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd
Cylchlythyr: Tua diwedd pob wythnos, mae cylchlythyr eBost Cyfle Cymru yn rhoi crynodeb o’r hyn sydd wedi bod yn digwydd ym myd eFasnach a’r Rhyngrwyd. Mae hefyd yn cynnwys newyddion am Cyfle Cymru ac am raglenni cysylltiedig, digwyddiadau sydd ar y gweill, a llawer mwy wedi’i ysgrifennu mewn modd hawdd i’w ddarllen. Drwy gofrestru, byddwch yn derbyn pob rhifyn o’r cylchlythyr yn awtomatig i’ch cyfeiriad eBost, er y gallwch ddad-danysgrifio ac aildanysgrifio unrhyw bryd y mynnwch.
Gwelog: Mae Gwelog Cyfle Cymru yn ffynhonnell gymunedol o newyddion, gwybodaeth, ystyriaethau ac sylwadau a gaiff ei diweddaru’n rheolaidd. Drwy gofrestru, gall unrhyw un ychwanegu gwybodaeth i’r Welog. Drwy ychwanegu gwybodaeth, bydd y Welog yn parhau’n adnodd a gaiff ei ddefnyddio a’i werthfawrogi gan y gymuned fusnes yng Nghymru ac mewn lleoedd eraill. Mae ein cymuned o ddefnyddwyr yn edrych ymlaen at weld eich cofnod chi ar y Welog!
Newyddion personoledig: Mae ein hadran newyddion personoledig yn ffynhonnell cyhoeddiadau a ddiweddarir yn rheolaidd gan Cyfle Cymru a’n sefydliadau partner. Hefyd, mae’n cynnwys nifer o ffynonellau newyddion allanol, proffesiynol yn cwmpasu materion sy’n ymwneud â’r Rhyngrwyd ac eFasnach a gaiff eu diweddaru bob awr o’r dydd .
Calendr digwyddiadau: Calendr digwyddiadau Cyfle Cymru yw un o’r calendrau digwyddiadau mwyaf cynhwysfawr yn y wlad. Mae’n darparu gwybodaeth lawn ar ddigwyddiadau a ddarperir gan Cyfle Cymru a’n sefydliadau partner, yn ogystal â 50 o sefydliadau eraill, sawl wythnos, ac yn aml, sawl mis ymlaen llaw. Gallwch hefyd deilwra’r modd yr ydych yn edrych ar y calendr digwyddiadau ac yn ei ddefnyddio drwy hidlo digwyddiadau yn ôl lleoliad daearyddol a/neu sector busnes.
Cynnwys a mewnolwg manwl
Proffiliau Sector Busnes: Trafodir y defnydd o eFasnach mewn sectorau busnes penodol yn ein hadran broffiliau. Mae pob sector busnes a gaiff ei broffilio yn cynnwys nifer o erthyglau hynod fanwl, sy’n rhoi manylion am ofynion penodol y sector a sut y gall eFasnach ddarparu cymorth penodol. Caiff yr erthyglau hyn eu hysgrifennu gan y Ganolfan Arloesi eFasnach ac maent yn canolbwyntio ar anghenion penodol yn ogystal â’r cyngor mwy cyffredinol a ddarperir yn ein “Canllawiau ar-lein” sydd ar gael i ddefnyddwyr cyhoeddus.
Astudiaethau Achos: Yn aml, astudiaethau achos yw’r rheswm mwyaf poblogaidd ymhlith busnesau yng Nghymru dros gofrestru i ddefnyddio ein nodweddion ychwanegol. Mae pob astudiaeth achos yn canolbwyntio’n fanwl iawn ar un o gleientiaid penodol Cyfle Cymru, gan roi manylion am eu hanes mewn cysylltiad â’r defnydd o dechnoleg, sut y maent wedi mabwysiadu eFasnach a thechnolegau’r Rhyngrwyd, a’r llwyddiannau masnachol y maent wedi’u cael hyd yma. Caiff yr astudiaethau achos hyn eu hysgrifennu gan gynghorwyr Cyfle Cymru, ac maent hefyd yn rhoi dyfyniadau a gwybodaeth ar y cwmni ei hun. Hefyd, mae gennym adran benodol ar gwmnïau sydd wedi defnyddio technolegau band eang. Os credwch fod ein hanesion llwyddiant yn ddiddorol, rwy’n sicr y byddwch yn cael eich ysbrydoli gan ein hastudiaethau achos.
Cflwr y Genedl: Mae'r arolwg blynyddol yma yn adroddiad perthnasol a chynhwysfawr ar eFasnach a'r defnydd o'r Rhyngrwyd gan busnesau Cymraeg. Mae'n cynnwys helaethrwydd o dablau data a siartiau, sy'n mynd â esboniad trwyadl ar sut mae busnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru yn mabwysiadu eFasnach a thechnolegau TCG.
Archifau
WOWe: Mae ein cylchgrawn eFasnach cenedlaethol chwarterol, WOWe, ar gael i bob defnyddiwr. Drwy gofrestru, gallwch hefyd edrych ar dudalennau unigol yr holl ôl-rifynnau.
Gwasanaethau ychwanegol
Cyfarwyddiadur Cleientiaid Cyfle Cymru: Mae cronfa ddata gyflym ac hawdd i’w defnyddio ar gael i bob defnyddiwr cofrestredig sy’n cynnwys gwybodaeth ar gleientiaid Cyfle Cymru ledled y wlad, gan gynnwys manylion cyswllt ac URL Gwefan. Fel yn achos y calendrau digwyddiadau, gallwch hidlo’r hyn a welwch fesul sir a/neu sector busnes, yn ogystal â chwilio testun yn rhad ac am ddim. Mae’r nodwedd hon yn eich galluogi i ddarganfod pa gwmnïau yn eich ardal sydd wedi dod yn gleientiaid i Cyfle Cymru, oherwydd gallent gynnig manteision penodol a allai helpu i ysgogi perthnasau masnachol lleol.
Briefcase: Efallai y byddwch wedi gweld eicon bach llwyd ar waelod pob tudalen o’r enw “briefcase” personol. Drwy gofrestru ac o ganlyniad, drwy logio i mewn i’r safle, gallwch ‘gasglu’ tudalennau y credwch sy’n ddefnyddiol neu y dymunwch eu darllen yn fanylach yn y dyfodol, a’u storio yn eich “briefcase” personol. O ganlyniad, mae’r cyfleuster hwn yn darparu math o system “Favourites” sy’n eich galluogi i greu eich fersiwn eich hun o Wefan Cyfle Cymru drwy gasglu y tudalennau y dymunwch eu cadw’n unig.
Cofrestru
Er mwyn cael mynediad i’r cyfleusterau hyn, ewch i’r dudalen Cofrestru a llenwch y ffurflen. Ar ôl cofrestru, byddwch yn derbyn eBost yn awtomatig sy’n cynnwys manylion eich cyfrif. Gallwch newid eich cyfrinair neu gael gwared ar eich cyfrif unrhyw bryd y dymunwch wneud hynny.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am gofrestru neu am unrhyw ran arall o wasanaeth Cyfle Cymru, cysylltwch â ni.

|