Fersiwn Graffig Isel - WAI lefel AA a Bobby 508
Pwy a beth - amdanom ni, sut y gallwn eich helpu chi Canllawiau ar-lein - Canllawiau manwl ar sut all eFasnach eich helpu chi Busnesau Bach a Chanolig eu Maint yng Nghymru - Newyddion, nodweddion a storïau llwyddiant busnes
Adnoddau - cymorth cynhwysfawr, cyfleusterau chwilio, a mwy Forum
Cyfle Cymru - tudalen cartref
Gwefan a ddatblygir mewn partneriaeth â BT
 English Version Dangos y tudalen yma mewn testun fwy  Gwneud yr tudalen yma yn gyfaddas â phapur Portread A4 Cymorth a'r y we Cysylltu â Chyfle Cymru  Map o'r Wefan  Cliciwch yr linc yma am archwiliad uwch. Am archwiliad syml, defnyddiwch yr bocs testun i'r dde.
Cyfle Cymru
Cysylltiad partner As featured on NewsNow.co.uk


Rhydych chwi yma: Home > Cyfle Cymru > Beth rydym yn ei wneud > Adolygiadau eFasnach

 

Cyfle Cymru
Adolygiadau eFasnach

Mae rhan gyntaf y gwasanaeth y mae cleientiaid Cyfle Cymru’n ei gael ar ffurf adolygiad eFasnach. Mae’r adolygiad hwn yn rhad ac am ddim i gleientiaid Cyfle Cymru.

Mae adolygiadau’n dechrau gydag ymweliad â’ch busnes, a’r canlyniad yw’r adolygiad a gaiff ei roi i chi yn fuan wedi hynny.

Yn ystod yr ymweliad, bydd eich ymgynghorwr Cyfle Cymru yn trafod anghenion eFasnach eich busnes gyda chi. Ni fydd yn rhaid i chi deithio i unrhyw le – daw eich ymgynghorwr atoch chi, ar ddyddiad ac amser y cytunir arnynt o flaen llaw.Bydd Canolfan Gyswllt Cyfle Cymru’n cysylltu â chi i drefnu’r manylion hyn, ynghyd ag unrhyw fanylion neu anghenion eraill ynglŷn â’ch busnes y gallai fod angen i chi eu darparu cyn ymweliad eich ymgynghorwr.

Gall yr ymweliad gymryd diwrnod cyfan, ond fel arfer bydd yn cymryd tua dwy neu dair awr yn unig.

Er mwyn darparu cyngor mor fanwl â phosib, ac adroddiad mor fanwl â phosib, efallai bydd eich ymgynghorwr yn gofyn i chi ddarparu rhai o’r canlynol:

  • Trosolwg o'ch cwmni, eich dulliau o weithio, a'ch sylfaen o gleientiaid
  • Manylion am gynlluniau busnes yn y dyfodol ac unrhyw broblemau/faterion busnes penodol
  • Gwybodaeth ar y defnydd presennol o eFasnach
  • Unrhyw gynlluniau neu syniadau o ran eich defnydd o eFasnach yn y dyfodol
  • Manylion am eich defnydd presennol o dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu
  • Trafodaethau gyda staff sy'n gyfrifol am gyllid, cynhyrchiant, gweinyddiaeth a systemau cyfrifiadurol
  • Taith o amgylch y cwmni

Yn dilyn yr ymweliad, caiff adroddiad cynhwysfawr ei gynhyrchu gan eich ymgynghorwr, a chaiff ei anfon atoch. Yna, bydd eich ymgynghorwr wrth law i ddelio ag unrhyw gwestiynau neu ymholiadau eraill gennych chi ynglŷn â’r adroddiad, yn ogystal â thrafod unrhyw wasanaethau Cyfle Cymru eraill y gallech fod â diddordeb ynddynt, gan gynnwys Cymorth Gweithredu a Chymorth Cleient a’r posibilrwydd o fod yn Enghraifft o eFasnach.

Bydd yr adroddiad yn darparu:

  • Crynodeb o ganfyddiadau’r ymweliad
  • Argymhellion manwl ar sut y gall eich busnes symud ymlaen drwy wneud defnydd pragmatig o dechnolegau eFasnach
  • Awgrymiadau am wasanaethau eraill Cyfle Cymru a allai fod o ddiddordeb i chi
  • Cyfeiriadau at erthyglau arbenigol ar wefan Cyfle Cymru a fydd yn eich helpu i ddatblygu’ch gwybodaeth am eFasnach
  • Trosolwg o’r hyn y gallech ddod ar ei draws wrth siopa am gynnyrch a gwasanaethau  eFasnach penodol i ddiwallu eich anghenion
  • Manylion cyswllt cyflawn eich ymgynghorwr Cyfle Cymru, er mwyn i chi allu cysylltu ag ef ar unrhyw adeg i ofyn cwestiwn am ganfyddiadau’r adroddiad

Ar y cyfan, bydd yr adroddiad yn darparu golwg annibynnol, arbenigol a diduedd o botensial mabwysiadu eFasnach yn eich cwmni.

Gall busnesau sy’n bwriadu gweithredu ar yr argymhellion a wneir yn yr adroddiad gymryd mantais o Gymorth Gweithredu â chymhorthdal a chael mynediad i Gymorth Cleient a fyddai’n help i brynu cynhyrchion a gwasanaethau y cytunwyd arnynt (fel yr amlygir yn yr adroddiad). Bydd hyn yn trawsnewid yr adroddiad yn rhywbeth ymarferol a defnyddiol ar gyfer y cwmni – a fydd yn helpu i sicrhau y bydd eFasnach datblygedig yn darparu’r buddiannau cadarnhaol mwyaf posibl i’r cwmni.


 
In order to use this facility you must LOGON.To use this feature you must first login



Rhan-Ariennir y Prosiect gan yr Undeb Ewropeaidd (Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd) Llywodraeth Cynulliad Cymru © 2001-2007 Gwell Busnes Cymru (Daliadau) Cyf
Cyfarwyddiadur Clieint / Telerau ac Amodau/Polisi preifatrwydd Botymau Mynediad Darnau RSS
W3C - Lefel hygyrchedd A. Fersiwn graffig isel lefel hygyrchedd AA a Bobby 508. W3C - Cysandeb tafenni steil rhaedorol Cyswllt Cryno Gwefan Gyfoethog (RSS)