Fersiwn Graffig Isel - WAI lefel AA a Bobby 508
Pwy a beth - amdanom ni, sut y gallwn eich helpu chi Canllawiau ar-lein - Canllawiau manwl ar sut all eFasnach eich helpu chi Busnesau Bach a Chanolig eu Maint yng Nghymru - Newyddion, nodweddion a storïau llwyddiant busnes
Adnoddau - cymorth cynhwysfawr, cyfleusterau chwilio, a mwy Forum
Cyfle Cymru - tudalen cartref
Gwefan a ddatblygir mewn partneriaeth â BT
 English Version Dangos y tudalen yma mewn testun fwy  Gwneud yr tudalen yma yn gyfaddas â phapur Portread A4 Cymorth a'r y we Cysylltu â Chyfle Cymru  Map o'r Wefan  Cliciwch yr linc yma am archwiliad uwch. Am archwiliad syml, defnyddiwch yr bocs testun i'r dde.
Cyfle Cymru
Cysylltiad partner As featured on NewsNow.co.uk


Rhydych chwi yma: Home > Cyfle Cymru > Beth rydym yn ei wneud > Cymorth gweithredu

 

Cyfle Cymru
Cymorth gweithredu

Mae Cyfle Cymru’n helpu busnesau bach a chanolig eu maint i bennu sut y gall eFasnach ddatblygu gweledigaeth eu busnes, ond rydym hefyd yn eu helpu i wireddu’r weledigaeth honno. Mae Cymorth Gweithredu’n darparu ymgynghoriaeth arbenigol i gwmnïau drwy’r ymgynghorwr Cyfle Cymru, am bris deniadol iawn.

Gall y gwasanaeth Cymorth Gweithredu roi hwb gwirioneddol i gwmni. Mae wedi’i gynllunio i gynorthwyo cleientiaid wrth weithredu ar yr argymhellion eFasnach a wnaed eisoes gan eu hymgynghorwr Cyfle Cymru.

Os ydych yn ansicr o ran sut i sicrhau bod eFasnach yn gweithio i’ch busnes, bydd Cymorth Gweithredu’n cael gwared ar yr amheuaeth. Bydd eich ymgynghorwr yn eich cynorthwyo i gyflawni nodau eFasnach a bennwyd eisoes ar gyfer eich busnes, a rhyngddoch chi a’r ymgynghorwr gellir cytuno ar ddewis o becyn Cymorth Gweithredu. Mae hwn yn wasanaeth wedi’i deilwra, a bydd y datrysiad yn unigryw i ofynion eich busnes. Mae hyn yn golygu y bydd cyfnod a math y Cymorth Gweithredu’n amrywio gryn dipyn o un busnes i’r llall.

Mae pob rhan o wasanaeth Cyfle Cymru wedi’i chynllunio i gael ei theilwra ar gyfer pob busnes penodol a’i anghenion. Cofiwch, helpu chi a’ch busnes yw unig nod eich ymgynghorwr Cyfle Cymru. Fel arfer, mae’r cymorth yn seiliedig ar wireddu’r argymhellion a wnaed eisoes yn eich adolygiad eFasnach. Cyn i Gymorth Gweithredu ddechrau, bydd eich ymgynghorwr eFasnach yn trafod y cymorth y bydd ei angen ar eich busnes gyda chi, bydd hefyd yn cynllunio ar y cyd â chi sut y caiff y dyddiau cymorth eu defnyddio a’r hyn a gaiff ei gyflawni. Felly, o’r dechrau, byddwch yn gwybod faint fydd y gwasanaeth yn costio a’r hyn y gallwch ei ddisgwyl yn ddychwelyd am eich buddsoddiad.

Dinah Pye - Active Music Services

“Roedd y Cymorth Gweithredu eFasnach a roddwyd i mi gan Cyfle Cymru yn hollol wych, fe’i darparwyd gan bobl alluog a chyflawnwyd yr hyn yr oedd ei angen arnaf yn union. Galluogodd eu cefnogaeth i mi ganolbwyntio ar agweddau cadarnhaol Active Music Services, ac mae rhai datblygiadau cyffrous wedi dod ohono.”
Dinah Pye, Active Music Services, Aberdâr

Codir ffi am Gymorth Gweithredu, ond ceir cymhorthdal sylweddol gan Cyfle Cymru’i hun. Mae hyn yn golygu y gall cleientiaid dderbyn gwasanaethau ymgynghori o safon cystal ag ymgynghorwyr masnachol, ond am bris llai o lawer.

Os oes angen gwybodaeth pellach arnoch ar yr pecyn Cymorth Gweithredu, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

Faint fyddwch yn ei dalu?

Os yw’ch busnes wedi’i leoli ym Mlaenau Gwent, Castell-Nedd Port Talbot, Pen-y-Bont ar Ogwr, Caerffili, Ceredigion, Conwy, Denbighshire, Gwynedd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Torfaen, neu Ynys Mon:

Nifer o ddyddiau cymorth £ (Cynnwys TAW) 
200 
250 
350 
450 
Dros 7 Radd arbennig yn perthnasol, sydd i’w cytuno o flaen llaw â Chyfle Cymru 

Portable Document FormatTaflen - Cyfle Cymru Cymorth Gweithredu (Amcan 1) (PDF, 224k)

Portable Document FormatTaflen - Cyfle Cymru Cymorth Gweithredu (Amcan 1), print bras (PDF, 128k)

Os yw’ch busnes wedi’i leoli ym Mro Morgannwg, Gaerdydd, Casnewydd, Powys, Sir Fynwy, neu Wrecsam:

Number of days support £ including VAT 
£200 
More than 2 Additional £100 per day 

Portable Document FormatTaflen - Cyfle Cymru Cymorth Gweithredu (Amcan 2) (PDF, 177k)

Ar gyfer Caerdydd, Sir Fynwy, Casnewydd, Powys, Bro Morgannwg a Wrecsam: dim ond busnesau sydd wedi’u lleoli mewn rhannau penodol o’r siroedd hyn sy’n gymwys i dderbyn gwasanaethau Cyfle Cymru. Mae croeso i chi gysylltu â ni i gael gwybod a yw eich busnes yn gymwys.


 
In order to use this facility you must LOGON.To use this feature you must first login



Rhan-Ariennir y Prosiect gan yr Undeb Ewropeaidd (Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd) Llywodraeth Cynulliad Cymru © 2001-2007 Gwell Busnes Cymru (Daliadau) Cyf
Cyfarwyddiadur Clieint / Telerau ac Amodau/Polisi preifatrwydd Botymau Mynediad Darnau RSS
W3C - Lefel hygyrchedd A. Fersiwn graffig isel lefel hygyrchedd AA a Bobby 508. W3C - Cysandeb tafenni steil rhaedorol Cyswllt Cryno Gwefan Gyfoethog (RSS)