|
Cyfle Cymru Enghreifftiau o eFasnach
Mae profiad wedi dangos bod busnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru yn rhoi pwys mawr ar yr hyn y mae eu cystadleuwyr wedi’i gyflawni. Maent yn hoffi darllen am waith gweithredu eFasnach mewn busnesau tebyg ledled Cymru gan glywed am eu llwyddiannau a gwrando ar eu methiannau.
Felly, byddwn yn gwahodd nifer o gleientiaid Cyfle Cymru i fod yn Enghreifftiau, a chyhoeddi gwybodaeth fanylach am eu gweithgareddau eFasnach. Bydd y manylion ar gael mewn cyhoeddusrwydd argraffedig yn ogystal ag ar wefan Cyfle Cymru yn adran Storïau eFasnach Llwyddiannus. Mae galw am astudiaethau achos eFasnach busnesau bach a chanolig eu maint bob adeg a sonnir amdanynt yn y wasg, mewn cyhoeddiadau masnach ac mewn prosiectau eFasnach eraill. Fel arfer, mae sylw o’r fath yn gyhoeddusrwydd am ddim a groesewir gan gwmnïau enghreifftiol.
Caiff busnesau eu dewis i fod yn Enghreifftiau am nifer o resymau. Efallai eu bod yn gynrychiadol o sector diwydiant lle y ceir busnesau bach a chanolig eu maint eraill a allai gael budd o weithredu mewn ffordd debyg. Efallai fod y busnesau a ddewisir yn defnyddio datrysiadau eFasnach datblygedig penodol y gellid eu defnyddio mewn busnesau eraill, neu, efallai eu bod yn mynd i’r afael â mater eFasnach penodol megis gwelliannau ym maes rheoli cadwyni cyflenwi, a allai fod o ddiddordeb i fusnesau eraill yng Nghymru.

“Mae’r busnes wedi tyfu mor gyflym eleni fel na allem fod wedi ymdopi heb y cymorth a gawsom gan Cyfle Cymru. Rydym yn cael cymaint o ymholiadau ac archebion a byddai eu gweinyddu yn hunllef heb atebion e-bost safonol a chyfleuster gwirio argaeledd ar-lein. Mae eFasnach wedi ein galluogi i fwrw ati â’r gwaith rydym yn ei fwynhau fwyaf – sef adnewyddu’r bythynnod.” Greg Stevenson, Under the Thatch, Llanbedr-pont-Steffan, Ceredigion
Yn y bôn, yr un fydd lefel y cymorth eFasnach a roddir i gwmnïau Enghreifftiol er efallai y bydd ymgynghorwyr yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd am gyfnod hwy. Caiff manylion y busnes, ei weithgareddau eFasnach ac unrhyw agweddau ar y gwaith gweithredu y mae’r ymgynghorydd eFasnach yn eu hystyried yn ddefnyddiol eu cynnwys mewn astudiaeth achos fanwl. Cedwir gwybodaeth sensitif yn gyfrinachol ar bob adeg a dim ond ar ôl i’r busnes roi caniatâd y caiff yr astudiaeth achos ei chyhoeddi.
Caiff busnesau bach a chanolig eu maint eu henwebu gan eu Hymgynghorwr eFasnach a chytunir arnynt gan Ganolfan Ragoriaeth eFasnach Cyfle Cymru.
Er y gallai’r cyfnod rhwng yr alwad gyntaf at Cyfle Cymru a bod yn gwmni Enghreifftiol ymddangos yn un hir, gall eFasnach wneud gwahaniaeth mawr i fusnes yn eithaf cyflym – felly ewch amdani! Cysylltwch â ni i ddarganfod sut y gallwn eich helpu – nid yw lefel bresennol y defnydd o eFasnach a thechnoleg y Rhyngrwyd yn eich busnes o bwys.
|