|
eFasnach yn dod i’r diwydiant cerddoriaeth Lansiad Llandudno, 2 Medi 2004
Robert Shrigley
Iawn, dywedwch wrthyf eich enw ac o ble rydych yn dod.
Helo. Fy enw i yw Robert Shrigley. Rwy’n byw ym Mae Colwyn, gogledd Cymru.
Iawn – felly beth yw’ch cefndir mewn perthynas â cherddoriaeth ac eFasnach?
Mae gennyf fy albymau fy hun gyda chwmni o’r enw CDBaby.com, yn Oregon. Nhw yw’r dosbarthwyr, a gall pobl wrando ar fy samplau, a phrynu oddi yno. Ar hyn o bryd rwy’n ceisio gweithio’n lleol a gweithio gydag ysgrifenwyr caneuon ac artistiaid lleol eraill a gweld os gallwn ni wneud rhywbeth yng ngogledd Cymru – a hysbysebu fel artistiaid o ogledd Cymru ar y We Fyd Eang.
Yn nhermau eich defnydd o dechnoleg hyd yn hyn, sut gwnaethoch chi ddechrau? Sut cawsoch chi eich denu a pha benderfyniadau a wnaethoch i ddefnyddio pethau fel CDBaby?
Ymunais â’r Gymdeithas Ysgrifenwyr Caneuon Rhyngwladol, yn Limerick, yr Iwerddon. Maent yn anfon llawer o gylchlythyrau atoch, ac o ddarllen am artistiaid eraill a beth maent yn ei wneud, fe soniodd rywun am CDBaby ac Atanata ym Mharis. Dyna lle gychwynnodd pethau, cefais gyngor drwy fod yn aelod o’r Gymdeithas Ysgrifenwyr Caneuon Rhyngwladol. O hynny fe es i ymlaen, cysylltais â CDBaby, mae fy ngherddoriaeth ar eri wefan nawr, a gobeithio bydd hynny’n fy ngwneud yn adnabyddus yn lleol – rhoi cyfle i mi gyfarfod â chi i gyd, ac efallai y caf gefnogaeth a help gan artistiaid eraill a gallwn weithio’n gyda’n gilydd... cael ychydig o lwyddiant, gobeithio.
Ymhen 12 mis, beth hoffech chi ei gyflawni? Ar ôl cyfnod o amser, sut hoffech ddatblygu ymhellach?
Hoffwn gael fy ngwefan fy hun, lle gallaf anfon efallai 5 neu 6 fersiwn o fy nghân, a chael pobl i ddod ataf i a rhoi eu barn – yr hyn maent yn ei gredu, beth ddylid ei newid, yw’r cyflwyniad yn rhy hir, yr 8fed canol, beth bynnag ... a byddaf yn gallu cyfansoddi darn terfynol, gweithio arno, a gweld a oes diddordeb ganddynt i’w brynu neu i’w rannu gydag artistiaid eraill...yn y bôn, bod yn rhan o gymuned.
Yn gyffredinol, beth yw eich barn chi am y cyflwyniadau a’r hyn a ddysgoch heno?
Proffesiynol. Rwyf wedi cael fy nghwmnïau hunangyflogedig fy hun yn y gorffennol drwy ffyrdd eraill o waith, felly rwy’n gyfarwydd â’r math hwn o gyflwyniad. Roedd yn broffesiynol. Mae’n iawn.
A yw wedi’ch ysbrydoli i ddod i ymweld â ni neu ein ffonio ni, i weld sut y gallwch ddefnyddio eFasnach a’r Rhyngrwyd ychydig yn fwy?
Ydy. Rwy’n mynd i gyfarfod ag un o’ch cydweithwyr ar gyfer y ....eFasnach...
... adolygiad eFasnach?
adolygiad eFasnach...a byddwn am gael sgwrs. Bydd rhywun yn dod draw i fy nghartref i gael sgwrs, er mwyn gweld os gallaf gael help ar sut i fynd ati i wneud fy ngwefan fy hun, yn y gobaith o gael busnes yn y dyfodol.
Mae hynny’n wych! Robert, diolch yn fawr iawn i chi.
Robert's album "Everybody needs someone to love" is available to buy on-line at
www.cdbaby.com/cd/shrigley
|