 |
 |
Rhydych chwi yma: Home > Adnoddau > Cysylltwch â Chyfle Cymru > Canolfan Gyswllt
|
| |
|
Canolfan Gyswllt
Mae Canolfan Gyswllt Cyfle Cymru yn rhoi pwynt cyswllt canolog i fusnesau bach a chanolig eu maint ledled Cymru gael gwybodaeth a chyngor am Gyfle Cymru ac eFasnach.

Gallwch gysylltu â ni ar
0845 8500 888
Gall ein staff roi cyngor i chi ar unrhyw agwedd ar y gwasanaeth, rhoi gwybodaeth bellach, ac anfon unrhyw lenyddiaeth.
Gallwch gysylltu â ni rhwng 8.30am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae peiriant ateb ar gael y tu allan i’r oriau hyn. Byddwn yn croesawu ymholiadau yn y Gymraeg neu Saesneg.
Mae’r Ganolfan yn defnyddio’r system gwybodaeth a rheoli cwsmeriaid ddiweddaraf, wedi’i hategu gan staff sydd yn meddu ar sgiliau a hyfforddiant o safon uchel. Mae pob aelod o staff yn ein canolfan gyswllt wedi derbyn hyfforddiant trylwyr er mwyn sicrhau eu bod yn wybodus iawn am sefydlu a rhedeg busnes. Bydd ein staff yn delio â phopeth o ymholiadau cyffredinol am eFasnach a sut y gall helpu eich busnes, i wybodaeth benodol am Gyfle Cymru a threfnu apwyntiad adolygu eFasnach gydag ymgynghorydd.
Gweithgaredd arall a gynhelir gan y Ganolfan yw gwneud gwaith ymchwil a meincnodi faint o bobl sy’n defnyddio eFasnach drwy’r rhanbarth. Mae hyn yn sicrhau y bydd y Fenter yn ymwybodol o’r materion eFasnach diweddaraf sy’n wynebu busnesau bach a chanolig eu maint, tra’n darparu’r hyfforddiant cywir i bob aelod o staff y Ganolfan Gyswllt er mwyn iddynt allu rhoi’r cyngor a’r cymorth sydd ei angen ar fusnesau bach.
|
|

|
 |