Mae eFasnach yn datblygu drwy'r amser a gall fod yn anodd i fusnesau bach a chanolig eu maint bennu ble yn union ar y llwybr datblygol y maent. O Fewn Cyfle Cymru, mae proses â chwe cham i helpu busnesau bach a chanolig eu maint i bennu ble y maent a pha adrannau o'r Gwefan a allai fod o ddiddordeb iddynt. Ar hyn o bryd, gellid dadansoddi hyn fel a ganlyn...
Cam 0 – Heb ddechrau eto
Defnydd cyfyngedig neu ddim defnydd o gwbl o eFasnach, ond efallai bod gennych brofiad o ddefnyddio cyfrifiadur gartref. Cynhwysir y cam hwn er mwyn adlewyrchu’r ffaith bod yna fusnesau yn bodoli nad ydynt yn defnyddio eFasnach o gwbl.
Cam 1 - Defnyddio eBost a’r We
Mae’r busnes wedi prynu un neu fwy o gyfrifiaduron gyda modem a chysylltiad â’r Rhyngrwyd ac yn cael mynediad i wybodaeth a gwasanaethau ar y We. Cyflwynwyd y defnydd o eBost ond nid yw’n cael ei ddefnyddio i’w lawn botensial. Nid oes Gwefan gan y busnes.
Cam 2 – Gwefan sylfaenol
Mae’r busnes yn defnyddio unrhyw gymysgedd o eBost, y We, a’i Wefan ei hun i redeg y cwmni. Gall cleientiaid weld gwybodaeth ar y safle sy’n amlygu natur y busnes ynghyd â sut i gysylltu. Nid yw rhyngweithiad ar-lein yn bosibl ar hyn o bryd.
Cam 3 – Gwefan effeithiol
Mae’r Rhyngrwyd yn cael ei defnyddio fel dull marchnata a chyfathrebu effeithiol. Mae Gwefan ar gyfer gwella rhychwant y broses farchnata a gall y cwsmeriaid a’r cyflenwyr ryngweithio â’r busnes drwy’r safle. Nid oes cysylltiadau ffisegol rhwng unrhyw weithgarwch ar y We â systemau cefn swyddfa cyfredol. Gwneir defnydd effeithlon o’r We i gasglu gwybodaeth o ran cystadleuwyr a darpar gyflenwyr. Defnyddir yr eBost yn eang gyda phartneriaid masnach.
Cam 4 – Siop ar-lein
Mae’r defnydd o eFasnach wedi datblygu i’r man lle mae’r busnes yn cynnig siop lawn gyda chyfleusterau talu neu fasnachu ar-lein eraill. Caiff cam 4 ei rannu’n ddwy ran yn aml, gyda rhai busnesau dim ond yn creu siop ar-lein, heb ddarparu proses integreiddio i’w systemau cefn swyddfa am ba reswm bynnag.
Cam 5 - Integreiddio
Gellir ystyried hyn bron fel datblygiad mewnol oherwydd defnyddir technolegau’r Rhyngrwyd i ymestyn y broses integreiddio. Caiff popeth o siop ar-lein y busnes hyd at weithgynhyrchu a chyflawniad eu tynnu ynghyd ac mae’n bosibl casglu gwybodaeth o bob rhan o’r busnes. Mae hyn yn caniatáu i’r busnes symud tuag at ddefnydd mewnol mwy integredig o eFasnach.
Cam 6 – eFasnach Datblygedig
Gellir ystyried hyn fel eFasnach datblygedig, yn ôl y datblygiadau a geir ar hyn o bryd. Mewn sefyllfa busnes i fusnes gallai’r busnes ymuno â chyfnewidfeydd ar-lein, eFarchnadoedd a gwasanaethau perthnasol, gan ddefnyddio’r Rhyngrwyd i gysylltu â phartneriaid, cyflenwyr a chwsmeriaid busnes. Gallai cwmnïau busnes i fusnes gynnig gwasanaeth personoli i gwsmeriaid, ystyried rhaglenni cyswllt neu ymgyrchoedd marchnata eBost datblygedig a systemau rheoli cwsmeriaid.
Ar yr ysgol eFasnach, nid oed angen i BBChM symud o un cam i’r cam nesaf. Yn dibynnol ar anghenion yr busnes, all camau penodol cael eu neidio wrth i defnyddiau mwy datblygedig o eFasnach cael eu gweithredu.