Fersiwn Graffig Isel - WAI lefel AA a Bobby 508
Pwy a beth - amdanom ni, sut y gallwn eich helpu chi Canllawiau ar-lein - Canllawiau manwl ar sut all eFasnach eich helpu chi Busnesau Bach a Chanolig eu Maint yng Nghymru - Newyddion, nodweddion a storïau llwyddiant busnes
Adnoddau - cymorth cynhwysfawr, cyfleusterau chwilio, a mwy Forum
Cyfle Cymru - tudalen cartref
Gwefan a ddatblygir mewn partneriaeth â BT
 English Version Dangos y tudalen yma mewn testun fwy  Gwneud yr tudalen yma yn gyfaddas â phapur Portread A4 Cymorth a'r y we Cysylltu â Chyfle Cymru  Map o'r Wefan  Cliciwch yr linc yma am archwiliad uwch. Am archwiliad syml, defnyddiwch yr bocs testun i'r dde.
Canllawiau Ar-lein
Cysylltiad partner As featured on NewsNow.co.uk


Rhydych chwi yma: Home > Canllawiau Ar-lein > eFasnach ac eich busnes > Gweithio hyblyg yn hybu eich busnes > Beth yw gweithio hyblyg?



Page 2 of 4   Previous Page .. Gweithio hyblyg yn hybu eich busnes Next Page .. Pwy arall fydd yn elwa?
 

Gweithio hyblyg yn hybu eich busnes

Beth yw gweithio hyblyg?

Y syniad tu ôl gweithio hyblyg yw gwaredu’r hen draddodiad naw tan bump a rhoi rhyddid i bobl a busnesau weithio ble a phryd sy’n addas iddyn nhw. Mae’n ceisio cydbwyso anghenion cyrff ac unigolion, gan bennu beth sydd orau i bawb. Nid oes un ateb syml. Gall fod yn gyfuniad o ddulliau, fydd gyda’i gilydd yn cynnig mwy o hyblygrwydd ac yn cynyddu cynhyrchiant y cwmni.

Nid yw gweithio oriau maith yn cynyddu cynhyrchiant. Yn wir mae pobl y Deyrnas Unedig yn gweithio mwy o oriau na gweddill Ewrop ond mae ein lefelau cynhyrchiant yn is. Felly, nid mater o weithio oriau mawr yw hi, yn hytrach cynyddu cynhyrchiant wrth newid ein dulliau gwaith. A gall gweithio’n hyblyg helpu.

I lawer o bobl mae gweithio hyblyg yn golygu ‘flexitime’ ond mae modd gweithio’n hyblyg mewn amryw ffyrdd, a’u cyfuno mewn ymateb i ofynion cyrff, cwsmeriaid a gweithwyr.

Gallant gynnwys:

  • cywasgu amser
  • rhannu swyddi
  • gweithio gartref
  • cronni oriau
  • amserlen hyblyg
  • cyfnodau ymddeol hyblyg

Sut allai gweithio hyblyg helpu’r busnes?

Mae gweithio hyblyg yn effeithio’r llinell waelod – gydag ymchwil yn dangos fod cwmnïau’n profi cynnydd mewn cynhyrchiant rhwng 15% a 31%. Gall hefyd helpu i ostwng costau – er enghraifft, o fewn swyddfeydd. Yn wir, mewn rhai achosion gall pob gweithiwr cartref llawn amser arbed oddeutu £6,000 y flwyddyn i gwmni.

Bydd gweithwyr hapus yn dda i’ch busnes. Os yn helpu eich gweithwyr i gydbwyso gofynion gwaith a hamdden, byddwch yn gweld effaith bositif ar eu morâl, cynhyrchiant a’r busnes yn gyffredinol. Nid rhywbeth ar gyfer cyrff mawr yn unig yw hwn – cred 59% o gyfarwyddwyr busnesau bach eu bod yn gallu gweithio’n hyblyg yr un mor effeithiol.

Yn ôl astudiaethau diweddar mae cwmnïau sy’n mabwysiadu gweithio hyblyg yn gweld llai o bobl yn colli gwaith oherwydd salwch a’r staff yn gyffredinol yn llai tebygol o newid swyddi. Bydd hefyd yn gostwng amserau cymudo, gan rannu’r amser hwnnw rhwng gofynion gwaith a chartref.

Y dyddiau hyn os am ddenu’r gweithwyr gorau, rhaid dilyn arferion cyflogwyr da – a gallai gweithio’n hyblyg helpu. Byddwch yn gweld cyfraddau absenoldeb yn gostwng ac yn datblygu criw o weithwyr galluog ar gyfer eich busnes.

Ym maes busnes, y fantais wirioneddol yw’r gallu i ragweld newidiadau, ymateb yn gyflym a bod ar gael 24/7 – ac wrth weithio’n hyblyg gallwch wneud hynny.

Previous Page .. Gweithio hyblyg yn hybu eich busnes Next Page .. Pwy arall fydd yn elwa?



Rhan-Ariennir y Prosiect gan yr Undeb Ewropeaidd (Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd) Llywodraeth Cynulliad Cymru © 2001-2007 Gwell Busnes Cymru (Daliadau) Cyf
Cyfarwyddiadur Clieint / Telerau ac Amodau/Polisi preifatrwydd Botymau Mynediad Darnau RSS
W3C - Lefel hygyrchedd A. Fersiwn graffig isel lefel hygyrchedd AA a Bobby 508. W3C - Cysandeb tafenni steil rhaedorol Cyswllt Cryno Gwefan Gyfoethog (RSS)