Fersiwn Graffig Isel - WAI lefel AA a Bobby 508
Pwy a beth - amdanom ni, sut y gallwn eich helpu chi Canllawiau ar-lein - Canllawiau manwl ar sut all eFasnach eich helpu chi Busnesau Bach a Chanolig eu Maint yng Nghymru - Newyddion, nodweddion a storïau llwyddiant busnes
Adnoddau - cymorth cynhwysfawr, cyfleusterau chwilio, a mwy Forum
Cyfle Cymru - tudalen cartref
Gwefan a ddatblygir mewn partneriaeth â BT
 English Version Dangos y tudalen yma mewn testun fwy  Gwneud yr tudalen yma yn gyfaddas â phapur Portread A4 Cymorth a'r y we Cysylltu â Chyfle Cymru  Map o'r Wefan  Cliciwch yr linc yma am archwiliad uwch. Am archwiliad syml, defnyddiwch yr bocs testun i'r dde.
Canllawiau Ar-lein
Cysylltiad partner As featured on NewsNow.co.uk


Rhydych chwi yma: Home > Canllawiau Ar-lein > eFasnach ac eich busnes > Gweithio hyblyg yn hybu eich busnes > Pwy arall fydd yn elwa?



Page 3 of 4   Previous Page .. Beth yw gweithio hyblyg? Next Page .. Sut allai gweithio hyblyg helpu’r busnes?
 

Gweithio hyblyg yn hybu eich busnes

Pwy arall fydd yn elwa?

Eich gweithwyr

Erbyn heddiw mae gan bobl bob math o gyfrifoldebau megis edrych ar ôl plant neu berthnasau h_n. Bydd gweithio’n hyblyg o help mawr iddynt, yn arbennig pobl yn byw mewn cymunedau gwledig. Os allwch helpu gweithwyr i weithio o gartref neu newid amserau dechrau a diwedd gwaith, gall ostwng amserau cymudo. Wrth arbed amser felly bydd yn gostwng costau a’r pwysau beunyddiol ar bobl.

Bydd dileu’r amserlen naw tan bump yn rhoi mwy o opsiynau i’r gweithwyr ac yn darparu elfen o hyblygrwydd yn eu bywydau. Mae’r ffeithiau’n glir:

  • gweithio hyblyg wedi cynyddu lefelau boddhad gwaith gymaint â 7%
  • 37% o ddynion a 34% o ferched yn barod i ildio rhan o’u codiad cyflog nesaf er mwyn gweithio gartref
  • yn ôl un cwmni mawr, mae gweithio hyblyg yn cymell mwy o famau i ddychwelwyd i waith ar ôl cyfnod mamolaeth – 99% o gymharu â 47% ar draws y wlad.

Eich cwsmeriaid

Bydd cwsmeriaid yn sylwi os yw eich gweithwyr yn hapus ac ymroddgar. Bydd siarad gyda rhywun sy’n frwdfrydig yn creu cysylltiad da rhyngddynt a’ch cwmni, ac yn eu gwneud yn fwy tebyg o’ch argymell i eraill.

Yr amgylchedd

Wrth anwesu gweithio hyblyg bydd eich cwmni’n helpu’r amgylchedd - gyda llai o bobl yn teithio i waith yn gostwng tagfeydd traffig ac yn isafu allyriadau carbon deuocsid. Wrth fabwysiadu dulliau gweithio hyblyg rhagwelir bydd y Deyrnas Unedig yn profi gostyngiad o £1.9 biliwn mewn costau tagfeydd traffig erbyn 2010.

Mor hawdd â hynny?

Ni fydd gweithio hyblyg yn siwtio pawb – er enghraifft, ni fydd pob rôl yn addas i’w gwneud o gartref, yn cynnwys rhai swyddi rheoli. Ac ni fydd rhai gweithwyr am weithio o gartref – am ei bod yn well ganddynt gydweithio â phobl eraill gydol yr amser.

Bydd yn haws i rai cyrff nag eraill fabwysiadu dulliau gweithio hyblyg, ond gall derbyn yr her brofi’n werth chweil i bob math a maint o gwmni.

Wynebu’r heriau

Os yn benderfynol o weithio’n hyblyg, efallai bydd angen newid diwylliant eich busnes, gan addasu dulliau rheoli a buddsoddi rhywfaint mewn technoleg. Fodd bynnag, bydd buddsoddiad tymor byr yn arwain at wella cynhyrchiant dros yr hir dymor a gallech ddechrau elwa’n fuan. A bydd defnyddio’r technolegau cyfathrebu diweddaraf ar y cyd â gweithio’n hyblyg yn gwella’r llinell waelod hyd yn oed yn gyflymach!

Previous Page .. Beth yw gweithio hyblyg? Next Page .. Sut allai gweithio hyblyg helpu’r busnes?



Rhan-Ariennir y Prosiect gan yr Undeb Ewropeaidd (Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd) Llywodraeth Cynulliad Cymru © 2001-2007 Gwell Busnes Cymru (Daliadau) Cyf
Cyfarwyddiadur Clieint / Telerau ac Amodau/Polisi preifatrwydd Botymau Mynediad Darnau RSS
W3C - Lefel hygyrchedd A. Fersiwn graffig isel lefel hygyrchedd AA a Bobby 508. W3C - Cysandeb tafenni steil rhaedorol Cyswllt Cryno Gwefan Gyfoethog (RSS)