|
Gweithio hyblyg yn hybu eich busnes
Sut allai gweithio hyblyg helpu’r busnes?
Mae gweithio hyblyg yn effeithio’r llinell waelod – gydag ymchwil yn dangos fod cwmnïau’n profi cynnydd mewn cynhyrchiant rhwng 15% a 31%. Gall hefyd helpu i ostwng costau – er enghraifft, o fewn swyddfeydd. Yn wir, mewn rhai achosion gall pob gweithiwr cartref llawn amser arbed oddeutu £6,000 y flwyddyn i gwmni.
Bydd gweithwyr hapus yn dda i’ch busnes. Os yn helpu eich gweithwyr i gydbwyso gofynion gwaith a hamdden, byddwch yn gweld effaith bositif ar eu morâl, cynhyrchiant a’r busnes yn gyffredinol. Nid rhywbeth ar gyfer cyrff mawr yn unig yw hwn – cred 59% o gyfarwyddwyr busnesau bach eu bod yn gallu gweithio’n hyblyg yr un mor effeithiol.
Yn ôl astudiaethau diweddar mae cwmnïau sy’n mabwysiadu gweithio hyblyg yn gweld llai o bobl yn colli gwaith oherwydd salwch a’r staff yn gyffredinol yn llai tebygol o newid swyddi. Bydd hefyd yn gostwng amserau cymudo, gan rannu’r amser hwnnw rhwng gofynion gwaith a chartref.
Y dyddiau hyn os am ddenu’r gweithwyr gorau, rhaid dilyn arferion cyflogwyr da – a gallai gweithio’n hyblyg helpu. Byddwch yn gweld cyfraddau absenoldeb yn gostwng ac yn datblygu criw o weithwyr galluog ar gyfer eich busnes.
Ym maes busnes, y fantais wirioneddol yw’r gallu i ragweld newidiadau, ymateb yn gyflym a bod ar gael 24/7 – ac wrth weithio’n hyblyg gallwch wneud hynny.
|