|
Twristiaeth y 21ain Ganrif
Twristiaeth yn fusnes mawr
Twristiaeth yw diwydiant mwyaf y byd, yn dilyn tyfiant cyson dros y tri degawd diwethaf. Yn ystod 2005, croesawodd y Deyrnas Unedig 30 miliwn ymwelydd o wledydd tramor, a wariodd oddeutu £14 biliwn yn y wlad. Mae twristiaeth o fewn y Deyrnas Unedig hyd yn oed yn fwy, gyda’r trigolion yn gwario £27 biliwn ar wyliau a theithiau busnes. Yn ogystal bydd trigolion y Deyrnas Unedig yn gwario oddeutu £15 biliwn y flwyddyn wrth fwyta mewn bwytai ac ati. Ar ben hynny mae’r farchnad hamdden yn newid, ynghyd ag agweddau at deithio, gyda thwristiaid yn mynnu mwy a mwy o wasanaethau. Ac wrth gwrs mae teithio o fewn y Deyrnas Unedig yn hanfodol i economi’r wlad gyfan.
Erbyn hyn, mae technoleg yn cael effaith ar sut byddwn yn prynu pecynnau twristiaeth. Amcangyfrifir yr archebwyd 7.9 miliwn o wyliau o fewn y Deyrnas Unedig ar-lein yn 2005, sef 20% o’r cyfanswm. A bydd pobl yn aml yn bwcio pecynnau gwyliau byr ar-lein ar y funud olaf. Ffigur sy’n debyg o godi gyda mwy o bobl yn cael cysylltiad rhyngrwyd – 63% o oedolion Prydain Fawr (29 miliwn). Yn awr, twristiaeth yw’r categori unigol mwyaf o gynnyrch a werthir yn electronig, felly mae’n bwysig i fusnesau twristiaeth sefydlu presenoldeb ar-lein, defnyddio ebost ac elwa’n gyffredinol o fuddion technolegau newydd. Bydd yn golygu hyrwyddo gwasanaethau a chreu ymwybyddiaeth o’r busnes ymhlith miliynau o ddefnyddwyr rhyngrwyd, ac ebost yn hwyluso ymateb yn gyflym i ymholiadau cwsmeriaid.
Mae diwydiant lletygarwch (busnesau bwyd, diodydd a/neu llety) y Deyrnas Unedig yn ffynnu ac yn cyflogi dros 1.8 miliwn. Mae pobl yn gwario £28 biliwn ar fwyta allan, gyda’r sector bwytai (35,000 yn y Deyrnas Unedig) yn cymryd £6 biliwn o’r swm hwnnw, 70% ohonynt yn fusnesau bach o dan reolaeth eu perchennog.
Ar ôl bachu ar gyfleoedd technoleg gwybodaeth, bydd busnesau twristiaeth wedyn yn gallu defnyddio amrediad eang o adnoddau soffistigedig er mwyn diwallu gofynion eu cwsmeriaid. Er enghraifft, teithwyr busnes yn gallu cysylltu â’r we yn eu hystafelloedd a mannau cyhoeddus, tra bod rhai dinasoedd yn darparu rhwydweithiau diwifrau er mwyn galluogi pob ymwelydd i gysylltu â’r rhyngrwyd. Ar ben hynny, mae technolegau newydd yn hwyluso bwcio 24/7, dargyfeirio galwadau i ffonau symudol a Broadband Voice yn gallu darparu ail linell ffôn cost effeithiol.
Mae twristiaeth yn cynrychioli amrediad eang o ddiwydiannau cysylltiedig, yn cynnwys gwestai, bwytai, busnesau manwerthu, trafnidiaeth, asiantau gwyliau, cwmnïau teithio, atyniadau, hamdden, chwaraeon a diwylliant.
Ffeithiau allweddol
- • y sector lletygarwch yn cyflogi 1.8 miliwn
- • yn 2004, aeth trigolion y DU ar 126.6 miliwn taith o un noson neu fwy, gan wario £24.4 biliwn
- • yn 2003, gwnaed 34.3 miliwn taith dros nos i weld ffrindiau ac ati, gan wario £3.4 biliwn
- • yn 2003, gwnaed 22.3 miliwn taith fusnes dros nos yn y DU, gan wario £6.1 biliwn
- • yn 2004, daeth 27.8 miliwn ymwelydd tramor i’r DU gan wario £13 biliwn – yn bennaf o’r Unol Daleithiau, Ffrainc, yr Almaen, Iwerddon a’r Iseldiroedd.
Yr her
Mae hynny’n golygu eu bod yn methu cysylltu â miliynau o ddarpar gwsmeriaid yn y Deyrnas Unedig a gwledydd tramor.
Yr her yw i symbylu pob aelod o’r sector i ddefnyddio technoleg gwybodaeth i’w llawn potensial er mwyn agor eu busnesau i gwsmeriaid newydd. Bydd yn golygu cymell pob darparwr gwasanaeth twristiaeth, bach a mawr, i ddefnyddio technoleg er mwyn gwella profiadau cwsmeriaid ac ymateb i’w hanghenion.
Mae’r diwydiant twristiaeth yn dal yn llawn o filoedd o westai, bwytai a thafarnau annibynnol nad ydynt yn gwneud hyd yn oed y pethau sylfaenol – hynny yw, presenoldeb ar-lein, bwcio ar ebost, gwefannau yn cynnig opsiynau gwestai a bwytai.
Mae rhai bwytai a gwestai wedi codi eu prisiau er mwyn helpu i dalu costau’r technolegau newydd hyn, eraill wedi canfod eu bod yn denu cwsmeriaid newydd ac felly’n talu am eu hunain.
Yn gyffredinol, nid mater o fynd ar-lein a sefydlu gwefan yw’r unig fuddion o ddefnyddio technolegau gwybodaeth. Bydd y buddion mwyaf yn deillio o ddefnyddio adnoddau soffistigedig fel e-fasnach, gweithio’n hyblyg wrth ddefnyddio gwasanaethau cyfathrebu a lluniau symudol – weithiau’n fyw! Yn achos y diwydiant twristiaeth bydd yn golygu mwy o gwsmeriaid, pobl yn ailarchebu a busnesau’n gweithio’n fwy effeithiol.
|