|
Twristiaeth y 21ain Ganrif
Symbylu menter
Mae twristiaeth yn y Deyrnas Unedig yn ddiwydiant o fusnesau bach, ond mae’n un o’r cyflogwyr mwyaf, gyda mwy o weithwyr na’r diwydiannau teithio neu adeiladu.
Er bod grym y rhyngrwyd yn cynyddu’n gyflym, mae defnydd o dechnoleg o fewn y sectorau twristiaeth a hamdden yn amrywio’n fawr. Mae cwmnïau teithio a gwestai mawr yn defnyddio dulliau gweddol soffistigedig, ond yn gyffredinol nid yw gwestai llai’n bachu ar gyfleoedd gwerthu ar-lein a buddion technolegol o gymharu â sectorau busnes eraill. Mae’r methiant hwnnw’n elfen arwyddocaol, oherwydd mae busnesau bach yn hanfodol wrth hyrwyddo cyrchfannau o fewn a thu allan y wlad.
Darperir dewis enfawr o gyfleoedd archebu uniongyrchol gan gwmnïau ar y we, tra bod busnesau a manwerthwyr stryd fawr yn gynyddol yn cynnig cynnyrch a gwasanaethau ar-lein yn ogystal â’u dulliau traddodiadol.
Mae’n gyfnod da i fusnesau twristiaeth ddefnyddio technolegau newydd ac elwa o’r buddion sylweddol o wneud hynny. Erbyn hyn mae band llydan yn cynnig marchnad fyd-eang, gan roi cyfle i gwsmeriaid archebu pob math o gynnyrch a gwasanaethau ar-lein. Ac wrth ddarparu adnoddau e-ddysgu, gall hefyd helpu i daclo diffygion sgiliau o fewn y sector – ar hyn o bryd mae 61% o swyddi rheolwyr heb eu llenwi a 55% o swyddi cogyddion yn anodd eu llenwi.
Ffeithiau allweddol
- 90% o fusnesau twristiaeth y Deyrnas Unedig yn cyflogi 10 neu lai o bobl •
- 130,400 person yn gweithio ym maes twristiaeth yn hunangyflogedig •
- yn 2002, roedd 58% o ddarparwyr llety ar ebost, 45% gyda gwefannau, 2% bwcio ar-lein
- un o bob saith swydd yn y sector twristiaeth – sef un o gyflogwyr mwyaf y Deyrnas Unedig.
Rhoi pobl gyntaf
Er bod 6,300 o asiantau gwyliau yn y Deyrnas Unedig, erbyn hyn mae llawer o bobl yn bwcio teithiau’n uniongyrchol ar y we, gyda phobl rhwng 25 a 44 oed yn fwy tebygol o wneud hynny. Mae cwsmeriaid am archebu eu teithiau mewn amser real ac yn barod i edrych rhywle arall os nad oes modd gwneud hynny.
Erbyn heddiw, mae pobl yn cyfathrebu gyda’i gilydd dros y rhyngrwyd ac ar ffonau symudol – a dyna’r ffordd maent am dderbyn gwybodaeth o’r busnesau byddant yn prynu nwyddau a gwasanaethau ganddynt. Yn gyffredinol mae defnyddwyr yn fwy hyderus wrth brynu ar y rhyngrwyd, er bod dal rhywfaint o bryder am ddiogelwch.
Mae poblogaeth y Deyrnas Unedig yn heneiddio – gyda’r gyfran o bobl o dan 16 yn gostwng a nifer y bobl dros 65 yn cynyddu. Bydd rhaid i’r diwydiant teithio ystyried hynny – mae gan bobl dros 50 lot o arian i wario ac maent yn berchen 80% o gyfoeth y wlad, gwerth £280 biliwn. Maent yn tueddu i gymryd mwy o wyliau, gyda phobl hyn yn dod yn fwy anturus wrth ddewis cyrchfannau. Ond byddant yn dal i wario’n sylweddol ar dwristiaeth o fewn y Deyrnas Unedig.
Yn sicr mae twristiaeth yn newid, gyda chwsmeriaid yn fwy cyfoethog ac yn mynnu mwy o’u gwasanaethau teithio. Yn hytrach nag egwyl yn unig, maent yn edrych am brofiadau newydd a threfniadau amgen. Ac ar ôl cyrraedd maent am gael gwybodaeth leol i’w helpu i fwynhau’r profiad. Mae’r tueddiad yma i fynnu adnoddau mwy soffistigedig yn golygu bydd technoleg yn bwysig iawn os am uchafu’r cyfleoedd sy’n agored i bobl.
Mae BT wedi cydweithio â sawl partner yn y sector twristiaeth, gan eu helpu i ddefnyddio technolegau i hybu eu busnesau. Un enghraifft yw Stratford Unplugged, project band llydan cyntaf y Deyrnas Unedig ar gyfer twristiaid yn ymweld â Stratford upon Avon. Mae ymwelwyr yn gallu mwynhau profiad 21ain ganrif o’r bardd 16eg ganrif wrth ddefnyddio cysylltiadau wi-fi ar draws y dref sy’n eich dilyn o gwmpas ac yn tynnu sylw at fannau o ddiddordeb. Bydd ymwelwyr yn llogi PDAs er mwyn cysylltu â holl adnoddau gwybodaeth yr ardal.
- ˆ mwyafrif o gwsmeriaid twristiaeth o’r uwch grwpiau economaidd gymdeithasol, o dan 55 oed
- 60% o gwsmeriaid y DU yn defnyddio’r we i bennu cyrchfannau gwyliau, gyda nifer llai yn ei ddefnyddio i ddewis llety, efallai am nad yw llawer o ddarparwyr yn cynnal gwefan
- gwariant cyfartalog ar deithio ar-lein wedi codi 20% rhwng 2002 a 2005.
Yn achos London Eye, datblygodd BT Ffeithiau allweddol system archebu ac amseru ar-lein, Rialto, system aml-sianel gwerthu a mynediad sy’n trafod sawl iaith ac arian tramor. Mae’r wefan yn cynnig adnoddau basged siopa i gwsmeriaid er mwyn bwcio pob math o becynnau, yn cynnwys taith ar yr afon, theatr West End a bwytai – o fewn un archeb. Mae BT yn cynnal y system 24/7.
Un cwmni mawr sy’n defnyddio gwasanaeth rheoli tocynnau BT (Rialto) yw Alton Towers. Mae’r gwasanaeth bwcio ar y we yn galluogi ymwelwyr i archebu tocynnau ymlaen llaw ac wedi gostwng y ciwiau i fynd i mewn i’r parc.
Mae defnyddio technoleg i hybu busnes hefyd yn gweithio gyda busnesau bach a chanolig. Er enghraifft, The George Inn, Mere, Wiltshire, tafarn/gwesty wyth ystafell o dan reolaeth Robin Binstead. Mae’n cynnig cysylltiad rhyngrwyd ym mhob ystafell, rhwydwaith diwifrau yn y dafarn ar gyfer pobl leol a dargyfeirio galwadau i ffonau symudol, sy’n rhyddhau rheolwyr o bwysau busnes pan fydd angen!
|