|
Gwahanol Fathau o eFasnach Cyflwyniad Gallai'r cyhoeddusrwydd sylweddol sy'n amgylchynu eFasnach arwain llawer o fusnesau bach a chanolig eu maint i gredu eu bod ar ei hôl hi os nad ydynt yn rhan o'r chwyldro masnachu newydd. Mae llawer o'r cyhoeddusrwydd yn ymwneud â'r storïau llwyddiannus am werthu ar y rhyngrwyd, ond dylai busnesau bach a chanolig eu maint wybod fod mathau eraill o gysylltiadau eFusnes yn bodoli a allai gyflwyno eu manteision eu hunain.
Busnes i Ddefnyddwyr (B2C) Lle y cynhyrchwyd y rhan fwyaf o'r llwyddiant cychwynnol wrth i gwmnïau werthu cynnyrch dethol ar gyfer defnyddwyr i gynulleidfa a oedd yn gyfarwydd â'r Rhyngrwyd, ac a oedd yn barod i brynu ar-lein. Gall busnesau bach a chanolig eu maint hefyd lwyddo yn y maes hwn heb gyfleuster gwerthu ar-lein, yn syml drwy wella'r gwaith o farchnata eu cynnyrch i ddarpar gwsmeriaid. Busnes i Fusnes (B2B) Rhyngweithio rhwng busnesau naill ai mewn cadwyn gyflenwi sefydledig, neu gyda phartneriaid masnachu newydd. Maes na chafodd gymaint o gyhoeddusrwydd â'r gweithgareddau Busnes i Ddefnyddwyr, ond un sydd bellach yn ennill mwy o gydnabyddiaeth ac un sy'n bwysicach i'r rhan fwyaf o fusnesau bach, yn arbennig yn y sector gweithgynhyrchu. Busnes i Weinyddiaeth (B2A) Trydydd categori o fewn eFasnach, sydd yng nghamau cynnar ei ddatblygiad o hyd, lle y mae'r gymuned fusnes yn rhyngweithio'n electronig â sefydliadau yn y sector cyhoeddus. Daw'r gwaith o gyflwyno ceisiadau cynllunio, ffurflenni TAW, treth incwm, neu gofestru patent, oll o fewn y categori hwn ac mae gan gymwysiadau B2A y potensial i ddenu hyd yn oed mwy o gwmniau i fyd masnachau electronig.
|