Fersiwn Graffig Isel - WAI lefel AA a Bobby 508
Pwy a beth - amdanom ni, sut y gallwn eich helpu chi Canllawiau ar-lein - Canllawiau manwl ar sut all eFasnach eich helpu chi Busnesau Bach a Chanolig eu Maint yng Nghymru - Newyddion, nodweddion a storïau llwyddiant busnes
Adnoddau - cymorth cynhwysfawr, cyfleusterau chwilio, a mwy Forum
Cyfle Cymru - tudalen cartref
Gwefan a ddatblygir mewn partneriaeth â BT
 English Version Dangos y tudalen yma mewn testun fwy  Gwneud yr tudalen yma yn gyfaddas â phapur Portread A4 Cymorth a'r y we Cysylltu â Chyfle Cymru  Map o'r Wefan  Cliciwch yr linc yma am archwiliad uwch. Am archwiliad syml, defnyddiwch yr bocs testun i'r dde.
Canllawiau Ar-lein
Cysylltiad partner As featured on NewsNow.co.uk


Rhydych chwi yma: Home > Canllawiau Ar-lein > eFasnach ac eich busnes > Mathau gwahanol o eFasnach > Busnes-i-Fusnes



Page 3 of 4   Previous Page .. Busnes-i-Ddefnyddwyr Next Page .. Busnes-i-Weinyddiaeth
 

Mathau gwahanol o eFasnach
Busnes-i-Fusnes



Fel yr awgryma'r enw, B2B yw'r term a ddefnyddir ar gyfer eFasnach mewn amgylchedd busnes yn unig. Mae'n cwmpasu'r ffyrdd niferus y gellir defnyddio eFasnach i gefnogi un busnes sy'n masnachu ag un arall.

Mae eFasnach B2B yn cael ei llywio o ddwy ochr. Ar y lefel ymarferol, mae busnesau sydd am ddefnyddio technoleg i ddatblygu ffyrdd gwell o weithio a chysylltiadau gyda phartneriaid masnachu ar hyd y gadwyn gyflenwi gyfan. Ym mhegwn arall y sbectrwm mae'r rhai sy'n darparu cynnyrch a gwasanaethau eFasnach sy'n datblygu syniadau a chysyniadau newydd ac sy'n gobeithio y bydd rhai yn llwyddo.

Mae llawer o'r sylw a roddir i B2B yn ymwneud â'r datblygiadau embryonig sy'n dod i'r amlwg, fel e-Farchnadoedd ac e-Gyfnewidfeydd, ond mae'r rhan fwyaf o'r defnydd gwirioneddol o eFasnach ar lefel is yn y gylchred gweithredu eFasnach.

Yn nodweddiadol yn yr amgylchedd B2B, gellir defnyddio eFasnach yn y prosesau canlynol:

  • caffael;

  • cyflawni archebion;

  • rheoli cysylltiadau rhwng partneriaid masnachu.


I lawer o fusnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru, mae eFasnach yn gyfystyr â'r weledigaeth o gadwyni cyflenwi integredig. Er mai'r amcan terfynol yw hwn, yn y tymor byr, gellid defnyddio eFasnach B2B fel dull arwyddocaol o alluogi eu symudiad tuag at fwy o gydweithredu rhwng partneriaid masnachu.

Mae technolegau eFasnach wedi galluogi hyd yn oed y busnesau lleiaf i wella'r prosesau ar gyfer cysylltu â chwsmeriaid. Erbyn hyn gallant ddatblygu gwasanaethau ar gyfer cleientiaid unigol yn hytrach na darparu gwasanaeth safonol. Mae Pentwyn Splicers a leolir ym Mhont-y-pël yn gweithgynhyrchu plethwyr niwmatig ar gyfer marchnad tecstilau'r DU a'r byd. Gwerthuswyd pob agwedd ar eu proses busnes i weld lle y gellid sicrhau'r elw mwyaf. Roedd defnyddio'r We i werthu mwy o gynnyrch yn ystyriaeth gychwynnol, ond cafwyd y buddiannau mwyaf wrth ddarparu gwasanaethau cwsmeriaid a chymorth i'w dosbarthwyr dramor.

Ffordd amgen o ystyried eFasnach B2B yw drwy ei hystyried fel dull a ddefnyddir i:

  • Denu, datblygu, cadw, a meithrin cysylltiadau gyda chwsmeriaid;

  • Symleiddio'r gadwyn gyflenwi a'r prosesau gweithgynhyrchu a chaffael, ac awtomeiddio'r prosesau corfforaethol i ddarparu'r cynnyrch a'r gwasanaethau cywir i gwsmeriaid yn gyflyn am yn gost-effeithiol;

  • Casglu, dadansoddi a rhannu gwybodaeth am gwsmeriaid a gweithrediadau'r cwmnïau, er mwyn gwneud penderfyniadau gwell.



Previous Page .. Busnes-i-Ddefnyddwyr Next Page .. Busnes-i-Weinyddiaeth


© Canolfan Arloesi eFasnach, Prifysgol Caerdydd, 2001-2005


Rhan-Ariennir y Prosiect gan yr Undeb Ewropeaidd (Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd) Llywodraeth Cynulliad Cymru © 2001-2007 Gwell Busnes Cymru (Daliadau) Cyf
Cyfarwyddiadur Clieint / Telerau ac Amodau/Polisi preifatrwydd Botymau Mynediad Darnau RSS
W3C - Lefel hygyrchedd A. Fersiwn graffig isel lefel hygyrchedd AA a Bobby 508. W3C - Cysandeb tafenni steil rhaedorol Cyswllt Cryno Gwefan Gyfoethog (RSS)