Fersiwn Graffig Isel - WAI lefel AA a Bobby 508
Pwy a beth - amdanom ni, sut y gallwn eich helpu chi Canllawiau ar-lein - Canllawiau manwl ar sut all eFasnach eich helpu chi Busnesau Bach a Chanolig eu Maint yng Nghymru - Newyddion, nodweddion a storïau llwyddiant busnes
Adnoddau - cymorth cynhwysfawr, cyfleusterau chwilio, a mwy Forum
Cyfle Cymru - tudalen cartref
Gwefan a ddatblygir mewn partneriaeth â BT
 English Version Dangos y tudalen yma mewn testun fwy  Gwneud yr tudalen yma yn gyfaddas â phapur Portread A4 Cymorth a'r y we Cysylltu â Chyfle Cymru  Map o'r Wefan  Cliciwch yr linc yma am archwiliad uwch. Am archwiliad syml, defnyddiwch yr bocs testun i'r dde.
Canllawiau Ar-lein
Cysylltiad partner As featured on NewsNow.co.uk


Rhydych chwi yma: Home > Canllawiau Ar-lein > eFasnach ac eich busnes > Mathau gwahanol o eFasnach > Busnes-i-Weinyddiaeth



Page 4 of 4   Previous Page .. Busnes-i-Fusnes
 

Mathau gwahanol o eFasnach
Busnes i Weinyddiaeth


B2A yw'r maes eFasnach a ddatblygwyd lleiaf ac mae'n ymwneud â'r ffordd y mae sefydliadau'r sector cyhoeddus, ar lefel ganolog a lleol, yn darparu eu gwasanaethau ar-lein. Mae gan B2A, a elwir hefyd yn eLywodraeth, y potensial i gynyddu'r defnydd a wneir yn y cartref ac ym myd busnesau o eFasnach wrth i wasanaethau traddodiadol gael eu darparu fwyfwy dros y Rhyngrwyd.

Mae llywodraeth y DU yn ymrwymedig i sicrhau bod y wlad hon yn rheng flaen eFasnach ac mae'n hanfodol bod eLywodraeth yn chwarae rhan arwyddocaol wrth gyflawni'r amcan hwn.

Mae pedair egwyddor arweiniol wrth wraidd strategaeth y DU ar gyfer eLywodraeth, sef::

  • Creu gwasanaethau o amgylch dewisiadau dinasyddion;
  • Gwneud y llywodraeth a'i gwasanaethau yn fwy hygyrch;
  • Sicrhau nad yw technoleg newydd yn creu rhaniad digidol rhwng y rhai sydd eisoes â mynediad i'r cyfryngau electronig a'r rhai sydd hebddo;
  • Defnyddio gwybodaeth yn fwy effeithiol.


Mae'r llywodraeth ganolog yn arwain y ffordd gyda'r nod cyffredinol o gael 100% o wasanaethau ar-lein erbyn 2005. Bellach, mae gan 80% o'r cynghorau yn Lloegr eBost cyhoeddus a mynediad i'r rhyngrwyd, gyda 33% o'r awdurdodau yn meddu ar o leiaf tri gwasanaeth y gellir cael mynediad iddynt yn y dull hwn. Mae llawer o gynghorau bellach yn datblygu eu strategaethau eFasnach eu hunain, ond ychydig sy'n meddu ar ymagwedd a integreiddiwyd yn llwyr a ddisgwylir gan sefydliadau o faint cyfatebol ym myd busnes. Mae Andrew Davies, e-Weinidog Cymru, yn datblygu strategaeth ar gyfer e-Lywodraeth, ond ychydig o Awdurdodau Cymru sy'n ymddangos yn rheng flaen y datblygiadau.

Ar hyn o bryd, nid yw eFasnach, naill ai ar ffurf B2C neu B2B, yn berthnasol i bob busnes bach yng Nghymru, oherwydd nad oes rheswm penodol dros ddefnyddio eFasnach. Fodd bynnag, wrth i nifer cynyddol o wasanaethau'r sector cyhoeddus, o ffurflenni treth i geisiadau cynllunio, o geisiadau am atgyweiriadau i dai i adnewyddu eich pasport, gael eu cyflawni ar-lein, bydd y pwysau i newid yn cynyddu hefyd, a bydd gan nifer cynyddol o fusnesau bach a chanolig eu maint reswm dros ystyried symud tuag at arferion masnachu cyfoes.


Previous Page .. Busnes-i-Fusnes


© Canolfan Arloesi eFasnach, Prifysgol Caerdydd, 2001-2005


Rhan-Ariennir y Prosiect gan yr Undeb Ewropeaidd (Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd) Llywodraeth Cynulliad Cymru © 2001-2007 Gwell Busnes Cymru (Daliadau) Cyf
Cyfarwyddiadur Clieint / Telerau ac Amodau/Polisi preifatrwydd Botymau Mynediad Darnau RSS
W3C - Lefel hygyrchedd A. Fersiwn graffig isel lefel hygyrchedd AA a Bobby 508. W3C - Cysandeb tafenni steil rhaedorol Cyswllt Cryno Gwefan Gyfoethog (RSS)