|
Y Ffenomenon dot.com
Bydd llawer o fusnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru wedi darllen storïau "llwyddiannus" gan gwmnïau cychwynnol sydd, ag arian prin ond â syniad arloesol o bosibl, wedi lansio cwmni Rhyngrwyd newydd. Gyda chymorth a chefnogaeth sylweddol gan gyfalafwyr mentro gwelodd cwmnïau o'r fath fod eu gwerth yn codi'n gyflym, ac eithrio'r ffaith y byddai unrhyw un a fyddai'n ymwneud â chwmnïau o'r fath ar eu hennill yn ariannol. Ymddengys fod rhesymeg busnes sylfaenol wedi diflannu!
Daeth cwmnïau a sefydlwyd i ddefnyddio'r Rhyngrwyd fel eu prif lwyfan masnachu yn adnabyddus fel 'dot.coms', term Americanaidd sy'n cyfeirio at y .com a ddaw fel arfer ar ddiwedd cyfeiriad gwefan. Yn ystod 2000, roedd papurau newydd a'r teledu yn frith o storïau yn sôn am gwmnïau dot.com cychwynnol, gyda phobl yn brwydro am gyllid, cwmnïau yn gwneud ac yn colli symiau mawr o arian a chwmnïau yn gwario symiau sylweddol o arian cyfalaf menter ar hysbysebu er mwyn ceisio ennill cwsmeriaid.
Roedd pobl ifanc ag ychydig o brofiad neu ddim profiad o gwbl, ond â syniad diddorol yr oedd modd ei weithredu drwy gyfrwng y Rhyngrwyd, yn llywodraethu'r byd dot.com. Roedd gwleidyddion a'r cyfryngau yn hawlio mai hwn oedd y dyfodol ar gyfer busnesau ac anogasant fwy o bobl i ymuno â'r ffenomenon dot.com.
Gwelodd llawer o fuddsoddwyr gyfle i wneud arian yn gyflym iawn ac aethant ati i ymuno â'r llif a phrynu stociau wrth iddynt ddod ar y farchnad. Chwaraeodd y buddsoddwyr hyn eu rhan yn y ffenomenon dot.com, drwy godi prisiau afrealistig presennol y cyfranddaliadau i brisiau hyd yn oed yn uwch. Roedd yn ymddangos fel pe anwybyddwyd meini prawf buddsoddi cyffredin wrth i fuddsoddwyr fuddsoddi arian yn y sector hwn yn rhannol am eu bod yn ofni peidio â manteisio ar hyn ac yn rhannol drwy drachwant pur, er mai prin oedd y rheiny a oedd yn credu y gallai barhau.
Cymharwyd y ffenomenon dot.com i'r 'gold rush' yng Nghaliffornia. Llwyddodd rhai pobl i wneud ffortiwn ond collodd y rhan fwyaf o bobl a geisiodd greu cyfoeth bopeth a oedd ganddynt. Y bobl a lwyddodd i ennill arian, yn bennaf, oedd y rheiny a oedd yn gwerthu mapiau, darpariaethau, neu alcohol!
Dyna'r sefyllfa gyda dot.coms. Gwnaeth cwmnïau caledwedd a meddalwedd a'r rheiny sy'n cynnig gwasanaethau i farchnad y We elw sylweddol, er eu bod bellach yn wynebu amserau mwy anodd ar gefn marchnad sy'n lleihau, wrth i gwmnïau dot.coms syrthio wrth ymyl y ffordd.
Priodolwyd methiant llawer o gwmnïau i:
- Diffyg "synnwyr" busnes - prin iawn oedd y cwmnïau oedd â rheolwyr profiadol ar waith a allai ddod ag elfen o realaeth i'r hyn a oedd yn digwydd;
- Diffyg gwybodaeth dechnolegol - taflwyd arian at ddatrysiadau technegol heb ddeall yn iawn beth oedd ei angen a goblygiadau'r hyn a allai ddigwydd pe bai nifer yr ymwelwyr a ragwelwyd yn defnyddio'r cyfleusterau ar y Wefan;
- Diffyg proses ariannol drylwyr neu ddull o reoli costau - diben arian oedd ei wario a phrin iawn oedd yr ystyriaeth a roddwyd i reoli costau a chydbwyso'r llyfrau;
- Gwario arian buddsoddwyr yn ofer - yn eironig, dywedwyd y gellid diffinio'r ffenomenon dot.com fel y ffordd gyflymaf o wario arian buddsoddwyr gan gwmni hysbysebu.
O fewn cyfnod gweddol fyr, dirywiodd apêl y term dot.com wrth i gwmnïau fethu ac wrth i fuddsoddiadau cychwynnol uchel ddangos elw prin. Dechreuodd dadansoddwyr broffwydo y byddai llawer o'r cwmnïau hyn yn methu.
- Ni allai'r bwrlwm dot.com barhau a rhagwelwyd y byddai::1 cwmni dot.com allan o 4 yn colli arian o fewn 6 mis;
- y rhan fwyaf yn brin o arian o fewn 15 mis.
Nid yw pob cwmni dot.com wedi methu, ac mae rhai fel Lastminute.com dal i fod mewn busnes ac yn llwyddo.
Ceir llawer o resymau dros fethiant cwmnïau dot.com. Roedd rhai, yn syml, yn rhedeg busnesau Gwe anghynaliadwy tra bod eraill yn cymryd gormod o amser i ddenu digon o gwsmeriaid i wneud y busnes yn ddichonadwy. Mae'r sefyllfa yn gwaethygu i gwmnïau dot.com wrth i fusnesau traddodiadol, sydd wedi cymryd cryn dipyn o amser o bosibl i roi eu strategaeth ar waith, ddechrau eu gweithrediadau eu hunain ar y rhyngrwyd.
Mae'r syndrom ennill arian yn gyflym sy'n gysylltiedig â chwmnïau dot.com wedi meithrin elfen o realaeth. Bydd yna gwmnïau o hyd a fydd yn dechrau busnesau newydd ac arloesol y bydd yn bosibl eu gweithredu drwy gyfrwng y Rhyngrwyd. Mae'r dasg o gael cymorth ariannol bellach yn llawer mwy anodd a bydd yn rhaid cyflwyno achos busnes cryf iawn.
Mae methiant llawer o gwmnïau dot.com yn gwneud i'r cwmnïau brics a morter fod yn amharod i ddefnyddio'r Rhyngrwyd i werthu i ddefnyddwyr, ond bellach mae llawer o'r cwmnïau hyn yn dechrau gweld sut y gall y Rhyngrwyd newid y ffordd y maent yn rhedeg eu busnes mewn gwirionedd. Bu'r drychineb dot.com yn gatalydd a arweiniodd pobl i ddeall a gwerthfawrogi effaith y Rhyngrwyd a'i allu i drawsnewid busnes, a heb y catalydd hwnnw byddai datblygiadau catalydd wedi cymryd llawer mwy o amser.
|