Fersiwn Graffig Isel - WAI lefel AA a Bobby 508
Pwy a beth - amdanom ni, sut y gallwn eich helpu chi Canllawiau ar-lein - Canllawiau manwl ar sut all eFasnach eich helpu chi Busnesau Bach a Chanolig eu Maint yng Nghymru - Newyddion, nodweddion a storïau llwyddiant busnes
Adnoddau - cymorth cynhwysfawr, cyfleusterau chwilio, a mwy Forum
Cyfle Cymru - tudalen cartref
Gwefan a ddatblygir mewn partneriaeth â BT
 English Version Dangos y tudalen yma mewn testun fwy  Gwneud yr tudalen yma yn gyfaddas â phapur Portread A4 Cymorth a'r y we Cysylltu â Chyfle Cymru  Map o'r Wefan  Cliciwch yr linc yma am archwiliad uwch. Am archwiliad syml, defnyddiwch yr bocs testun i'r dde.
Canllawiau Ar-lein
Cysylltiad partner As featured on NewsNow.co.uk


Rhydych chwi yma: Home > Canllawiau Ar-lein > eFasnach ac eich busnes > Ffynhonnell Agored > Cyflwyniad



Page 1 of 4   Next Page .. Pa mor fawr ydy’r mudiad Ffynhonnell Agored?
 

Ffynhonnell Agored
Cyflwyniad

A allai eich busnes elwa ar feddalwedd am ddim o safon? Wrth gwrs y gallai. Ond, beth yw’r fagl? Cyhyd â’ch bod yn weddol gyfarwydd â defnyddio cyfrifiaduron (neu yn adnabod gwe ddatblygwr) nid oes magl. Dyma sut y gallwch arbed costau drwy fanteisio ar fudiad cynyddol a elwir yn feddalwedd ‘Ffynhonnell Agored’.

Ffynhonnell Agored - OsCommerce, OpenOffice, Firefox, Linux

Fel y mae’r enw yn awgrymu, mae meddalwedd Ffynhonnell Agored yn cynnwys cod gwreiddiol sydd ar gael i’r cyhoedd wedi ei gynnwys â’r cynnyrch.  I’r gwrthwyneb, mae meddalwedd fasnachol, megis Microsoft Word, yn feddalwedd ‘ffynhonnell gaeëdig’ – gwarchodir y cod gwreiddiol gan y datblygwyr, ac ni chaiff ei ryddhau. Yn ymarferol golyga hyn fod cynnyrch ffynhonnell gaeëdig yn datblygu ar gyflymder a bennwyd gan y datblygwyr ac nid gan ddefnyddwyr y feddalwedd.

Ydy hyn o bwys?

Ydy. Gyda meddalwedd Ffynhonnell Agored, mae’r cod gwreiddiol ar gael i’w defnyddwyr, felly gall unrhyw un ychwanegu nodweddion newydd i’r feddalwedd. Oherwydd ei natur “agored”, mae’n bosibl sicrhau bod gan y feddalwedd lai o namau gan fod y defnyddwyr a’r datblygwyr yn cydweithio i ganfod namau, eu cywiro a rhyddhau fersiynau newydd o’r feddalwedd.

Pam fyddai unrhyw un yn treulio oriau maith yn datblygu meddalwedd ac yna’n ei rhyddhau am ddim?

Fel arfer cychwynnir prosiectau Ffynhonnell Agored gan grwpiau bach o bobl o anian debyg sydd angen meddalwedd i ddiwallu anghenion gwirioneddol. Ysgogir rhai grwpiau gan yr her dechnegol, a byddai’n well ganddynt ysgrifennu meddalwedd yn hytrach na phrynu cynnyrch parod, tra bod eraill methu’n deg â dod o hyd i gynnyrch masnachol sy’n diwallu eu hangen. Yn gyffredinol, fodd bynnag, po fwyaf yw’r angen am gynnyrch, y mwyaf o bobl fydd yn treulio amser yn gweithio arno – a’r mwyaf llwyddiannus fydd y prosiect.

Fel arfer caiff meddalwedd Ffynhonnell Agored ei datblygu gan rwydwaith o raglenwyr, dylunwyr, profwyr a rheolwyr prosiect, sydd yn aml yn gweithio yn eu hamser hamdden, ond yn cyfathrebu trwy Wefannau megis SourceForge a BerliOS a sefydlwyd yn benodol er mwyn hwyluso’r gwaith o ddatblygu meddalwedd Ffynhonnell Agored.

Next Page .. Pa mor fawr ydy’r mudiad Ffynhonnell Agored?



Rhan-Ariennir y Prosiect gan yr Undeb Ewropeaidd (Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd) Llywodraeth Cynulliad Cymru © 2001-2007 Gwell Busnes Cymru (Daliadau) Cyf
Cyfarwyddiadur Clieint / Telerau ac Amodau/Polisi preifatrwydd Botymau Mynediad Darnau RSS
W3C - Lefel hygyrchedd A. Fersiwn graffig isel lefel hygyrchedd AA a Bobby 508. W3C - Cysandeb tafenni steil rhaedorol Cyswllt Cryno Gwefan Gyfoethog (RSS)