Y Rhyngrwyd yw’r farchnad fwyaf sydd wedi bodoli erioed. Mae ei phoblogrwydd, ei hollbresenoldeb a’i hygyrchedd wedi creu cyfleoedd digyffelyb i bobl, cymunedau, grwpiau diddordebau ac, wrth gwrs, busnesau. Mae’r erthygl hon yn darparu cyfres o gysyniadau ac awgrymiadau i helpu busnesau i gynllunio a datblygu g wasanaethau sy’n ganolog i e-Fasnach er mwyn i’w cynnyrch a’u gwasanaethau fod ar gael i gymaint o ddarpar gwsmeriaid â phosibl.