|
Equal Opportunities
Isod ceir gwybodaeth am gyfleoedd cyfartal a sut y gall eich busnes elwa ar fabwysiadu arfer da yn y maes hwn.
Beth bynnag fo maint eich busnes, mae’r materion hyn yn berthnasol i chi. Dylai’r wybodaeth isod eich helpu i ddeall sut mae cyfleoedd cyfartal yn berthnasol i chi, sut y gall eich busnes elwa trwy roi polisi cyfleoedd cyfartal ar waith, a gyda phwy i gysylltu am fwy o wybodaeth.
Beth ?
Mae’r cysyniad o gyfleoedd cyfartal mor berthnasol nawr ag y bu erioed, ac mae’n cyfeirio at ymagwedd lle y mae gan bawb fynediad cyfartal i amgylchedd neu i fudd; sy’n atal gwahaniaethu anghyfreithlon ar sail hil, rhyw, anabledd, tueddfryd rhywiol a chrefydd neu gred.
Beth mae’r ddeddfwriaeth cyfleoedd cyfartal yn ei gwmpasu ?
Mae’r gyfraith sy’n berthnasol i gyfleoedd cyfartal yn cwmpasu pob agwedd ar gyflogaeth, o recriwtio i ymddeol, colli gwaith neu ddiswyddiad. Gallai hefyd fod yn berthnasol i wasanaethau rydych yn eu darparu, y tendrau rydych yn eu gwahodd, ac i unrhyw drafodion busnes rydych yn ymgymryd â hwy.
Pam bod cyfleoedd cyfatal yn bwysig i mi ?
Mae manteision clir ar gael i fusnesau sy’n hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Gallai sicrhau arfer gorau helpu eich busnes i recriwtio a chadw staff gwerthfawr, ehangu sail eich cwsmeriaid a gwella arloesedd a mynediad i farchnadoedd newydd.
O ble gallaf gael gwybodaeth a chymorth pellach ?
Mae amrywiaeth eang o wybodaeth ar gael i helpu busnesau i ddatblygu polisi cyfleoedd cyfartal. Isod rhestrir ychydig o sefydliadau a all roi cyngor a chymorth i chi. Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach ar Wefan Cyfle Cymru – www.cyflecymru.co.uk
| Support Organisations | | | | | ACAS www.acas.org.uk/ Llinell gymorth 08457 47 47 47 Cydraddoldeb Uniongyrchol ACAS 08456 00 34 44 | Mae ACAS yn anelu at wella sefydliadau a bywyd gwaith trwy gysylltiadau cyflogaeth gwell. Rydym yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf, cyngor annibynnol, hyfforddiant o’r ansawdd uchaf ac rydym yn gweithio gyda chyflogwyr a chyflogeion er mwyn datrys problemau a gwella perfformiad. | | | | Cysylltiadau Cyflogeion CCC www.dti.gov.uk/er/index.htm 020 7215 5000 | Mae’r Gyfarwyddiaeth Cysylltiadau Cyflogeion yn delio gyda chydberthnasau rhwng gweithwyr a’u cyflogwyr, gan gynnwys hawliau unigol yn ogystal â threfniadau cyfunol. | | | | Chwarae Teg www.chwaraeteg.com 029 2047 8900 | Sefydlwyd Chwarae Teg yn 1992 i gefnogi, datblygu ac ehangu rôl merched yn economi Cymru. | Prosiect Cydraddoldeb Busnesau Bach a Chanolig eu Maint www.wda.co.uk/index.cfm/opportunities_for_people/ sme_equality_project/en7691 07796 991281 | Mae Prosiect Cydraddoldeb BbaCh gan y WDA a Chronfa Gymdeithasol Ewrop yn rhoi cymorth i gwmnïau ddatblygu gweithlu amrywiol a chynhyrchiol. | | | | | Darparwyr Gwybodaeth | | | | | Y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol www.cre.gov.uk/wales 02920 729 200 | Yn gweithio tuag at ddileu achosion o ganwahaniaethu a hyrwyddo cyfle cyfartal a chysylltiadau hiliol da ledled Cymru. | | | | Bwrdd yr Iaith Gymraeg www.bwrdd-yr-iaith.org.uk/ 029 2087 8000 | Yn anelu at ei gwneud hi’n haws i bawb ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd. | | | | Anabledd Cymru www.disabilitywales.org/ 029 2088 7325 | Cymdeithas genedlaethol grwpiau anabledd sy’n ymdrechu i sicrhau hawliau, cydraddoldeb a dewis i’r holl bobl anabl yng Nghymru. | | | | RNIB www.rnib.org.uk 029 2045 0440 | Elusen blaenllaw y DU sy’n cynnig gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor i’ i’r sawl sydd â nam ar eu golwg. | | | | RNID Cymru www.rnid.org.uk/ 02920 333 034 | Yn darparu gwybodaeth am yr holl agweddau ar fyddardod a chefnogaeth yn hynny o beth. | | | | Age Positive www.agepositive.gov.uk/ | Mae ymgyrch Age Positive yn hyrwyddo’r manteision sy’n gysylltiedig â chyflogi gweithlu oedran cymysg sy’n cynnwys pobl hŷn a phobl iau, gan ddarparu cyngor a chefnogaeth fel paratoad ar gyfer y ddeddfwriaeth sydd i ddod yn 2006. | | | | Y Comisiwn Cyfle Cyfartal www.eoc.org.uk 029 2034 3552 | Y Comisiwn Cyfle Cyfartal yw’r asiantaeth flaenllaw sy’n gweithio i ddileu achosion o awahaniaethu ar sail rhyw ym Mhrydain yn y 21ain ganrif. |
|