 |
 |
Rhydych chwi yma: Home > Canllawiau Ar-lein > eBost
eBost Erbyn hyn mae’r eBost yn gyfrwng amhrisiadwy ym myd busnes. Yn ogystal â bod yn ddull cyfathrebu defnyddiol ar gyfer cwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid, gall gwasanaethau fel cylchlythyrau ac ymgyrchoedd postio roi ffyrdd hyblyg, personol i chi o roi gwybod i’ch cwsmeriaid am y datblygiadau diweddaraf yn eich busnes. Fel y We a chymwysiadau eraill, mae’r eBost yn un o’r cymwysiadau sydd ar gael drwy’r Rhyngrwyd. Fodd bynnag, mae’n un o’r cymwysiadau mwyaf hyblyg yn ddi os, oherwydd ei fod yn caniatáu cyfathrebu parhaus, personol, yn fyd-eang. Mae’n costio’r un faint i anfon eBost i gant o bobl dros y byd ag ydyw i anfon un eBost i rywun i lawr y ffordd. Er bod eBost yn cael ei ystyried yn gyfrwng gor-syml, mae’n aml yn un o’r dulliau sydd heb ei ddatblygu fwyaf o ran defnydd busnes o eFasnach. Gall ei hyblygrwydd, ei gost isel, a’r ffaith ei fod yn hawdd i’w ddefnyddio ei wneud yn gyfrwng effeithiol iawn ar gyfer marchnata busnesau. Fodd bynnag, fel pob cymhywsiad eFasnach, yr allwedd i’w lwyddiant yw’r defnydd pragmataidd ohono wedi’i gyfuno â dealltwriaeth o’r manteision i fusnes. Gall eich ymgynghorydd Cyfle Cymru roi cyngor clir a phragmataidd i chi am sut y gall eich busnes ddatblygu drwy ddefnyddio’r eBost yn effeithiol.

|
 |