|
Cyflwyniad i'r We Fyd-eang
Y We Fyd-eang, a elwir hefyd y We, yw'r ffordd fwyaf boblogaidd o archwilio'r wybodaeth sydd ar y Rhyngrwyd, y rhwydwaith o rwydweithiau a ddaeth yn rhan o fywyd pob dydd miliynau o bobl ym mhob sector o'r gymuned.
Dechreuodd y cysyniad o'r We Fyd-eang ym mis Mawrth 1989 ac fe'i datblygwyd gan Tim Berners-Lee o'r European Particle Physics Laboratory (CERN). Cynigiodd y prosiect fel dull effeithiol o drosglwyddo ymchwil a syniadau drwy'r sefydliad. Roedd cynnig cychwynnol y prosiect yn amlinellu system syml o ddefnyddio cysyniad a alwyd yn "uwchdestun rhwydweithiol" i drosglwyddo dogfennau ac i gysylltu â'r staff yn y gymuned ffiseg brysur.
Uwchdestun yw'r broses o drefnu gwybodaeth i gydgysylltiadau cysylltiedig, y bydd y defnyddiwr, o bosibl, yn dewis eu gwneud. Gelwir enghraifft o gydgysylltiad o'r fath yn gysylltiad neu'n gysylltiad uwch destun. Mae'r We yn cynnwys swm sylweddol o wybodaeth a gaiff ei chysylltu trwy gyfrwng nifer debyg a nifer fawr o gysylltiadau uwchdestun. Mae hyn yn caniatáu i'r defnyddiwr symud rhwng dogfennau neu wybodaeth ar yr un Wefan neu rhwng Gwefannau, gan ddarparu dull deinamig o gael mynediad i wybodaeth.
Drwy gydol y 1990au cynnar aeth datblygwyr y we ati i weithredu'r cysyniad a chyfrannodd cannoedd o bobl ledled y byd drwy ysgrifennu meddalwedd a dogfennau ar y We, neu drwy addysgu eraill ynglŷn â'r We.
- Erbyn 1994 roedd y We yn cael ei chydnabod ar draws y byd a chynhaliwyd cynhadledd gyntaf y We Fyd-eang yn CERN;
- Drwy gydol 1994, cyhoeddwyd storïau am lwyddiant y We gan y cyfryngau;
- Erbyn diwedd 1994, roedd gan y We 10,000 o wasanaethwyr, yr oedd 2,000 ohonynt yn fasnachol, a 10 miliwn o ddefnyddwyr;
- Erbyn mis Chwefror 1997, cododd nifer y defnyddwyr i 57 miliwn ar draws y byd;
- Erbyn mis Tachwedd 2000 roedd cymaint â 407 miliwn o ddefnyddwyr ar draws y byd.
Erbyn heddiw, mae'r We yn ffynhonnell wybodaeth gynhwysfawr o bob math, y gall pob rhan o'r gymuned gael mynediad iddi a'i defnyddio, o sefydliadau ymchwil a sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat, i bob rhan o'r gymuned fusnes, yn ogystal ag unigolion preifat. Prin iawn yw'r hyn na chaiff ei gynrychioli ar y We Fyd-eang heddiw.
Ymddengys nad oes terfyn ar y defnydd o'r We Fyd-eang. Bob dydd, mae pobl yn darganfod ffyrdd newydd o ddefnyddio'r datblygiad. Bydd rhai yn ei defnyddio i gyhoeddi gwybodaeth am eu cwmni neu am eu diddordebau tra bydd eraill yn ei defnyddio'n gynyddol i gynnal busnes. Caiff cwmnïau eu sefydlu sy'n dibynnu'n llwyr ar y We fel dull o ddarparu a chyfeirir yn aml at y rhain fel dot.coms.
Y gyfran ryngweithiol, graffigol o'r Rhyngrwyd yw'r We Fyd-eang, sy'n adlewyrchu'r ffaith y gall miliynau o ddogfennau neu dudalennau o wybodaeth a gaiff eu storio ar lawer o gyfrifiaduron ledled y byd gynnwys testun, delweddau, sŵn a chlipiau o ffilmiau. Gelwir y cyfrifiaduron sy'n storio dogfennau'r We yn wasanaethwyr y We. Maent yn cynnal meddalwedd arbennig sy'n eich galluogi i gysylltu â gwasanaethydd y We gan edrych ar y dogfennau a gaiff eu storio.
|