Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae byd bancio ar-lein yn aml wedi cyrraedd y tudalennau blaen am y rhesymau anghywir. Mae adroddiadau’r wasg ar sut y llwyddodd Joe Bloggs o Fangor i edrych ar gyfrifon pobl eraill drwy ei gyfrifiadur personol gartref wedi codi cywilydd ar fanciau ac wedi llunio portread negyddol o faes fancio ar-lein. Yr esgeulustod o ran diogelwch sydd bob amser yn cyrraedd y tudalennau blaen, ond mae miloedd ar filoedd o unigolion a busnesau bellach yn defnyddio bancio ar-lein heb unrhyw broblemau. Mae fancio ar-lein yn caniatáu i chi gael mynediad i gyfriflenni, trosglwyddo arian a thalu biliau. Gall y gwasanaeth sicrhau bod busnesau bach a chanolig eu maint yn gallu rheoli eu harian yn well o’u cartrefi, o’u swyddfeydd, neu pan fyddant ar grwydr.