|
ISPs (Darparwyr Gwasanaeth y Rhyngrwyd) a Gwasanaethau Cynnal Cyflwyniad
Mae angen i lawer o gwmnïau bach neu fusnesau bach a chanolig eu maint sy’n mentro i’r byd ar-lein ystyried dewis Darparwr Gwasanaeth y Rhyngrwyd (ISP). Yn ogystal â hyn, os bydd cwmni am greu Gwefan, yna efallai y bydd angen Gwasanaeth Cynnal hefyd. Gall y gwahaniaeth rhwng ISP a Gwasanaeth Cynnal fod yn ddryslyd i fusnes bach a chanolig ei faint, yn enwedig oherwydd y caiff rhai gwasanaethau eu cyfuno yn dibynnu ar y darparwr. Gan fod gwahaniaethau sylfaenol yn y gwasanaethau a gynigir, mae’n well eu trafod fel gwahanol endidau. Erthygl wedi’i diweddaru yw hon sy’n adlewyrchu’r cynnydd yn nifer y busnesau bach a chanolig eu maint sy’n defnyddio cysylltiadau Band eang â’r Rhyngrwyd ymysg pethau eraill.
Beth yw ISP?
Cyn y gall busnes gysylltu â’r Rhyngrwyd, mae’n rhaid iddo gofrestru â chwmni a fydd yn trefnu gwasanaethau o’r fath ar ei gyfer. Gelwir y cwmnïau hyn yn Ddarparwyr Gwasanaeth y Rhyngrwyd (ISPs), sy’n ymddwyn fel pyrth i’r Rhyngrwyd ar gyfer y mwyafrif o fusnesau bach a chanolig eu maint sydd eisiau symud i faes eFasnach.
Yn ddiweddar, bu twf sylweddol yn nifer y cwmnïau sy’n cynnig gwasanaethau ISP yn y DU. Maent yn amrywio o gwmnïau telathrebu mawr, megis BT ac NTL, gwasanaethau wedi’u brandio gan gwmnïau mawr eraill megis Tesco a Virgin yn ogystal â nifer o ddarparwyr gwasanaethau llai. I fusnes bach a chanolig ei faint, mae hyn yn darparu cyfoeth o opsiynau i’w hystyried ond efallai peth dryswch hefyd o ganlyniad i hyn.
Cysylltu â’r Rhyngrwyd trwy gyfrwng ISP
Er mwyn cysylltu â’r Rhyngrwyd o’ch cyfrifiadur trwy gyfrwng ISP, bydd arnoch angen modem a llinell ffôn. Yna, byddwch yn deialu rhif yr ISP, a fydd yn darparu mynediad i’r Rhyngrwyd trwy gyfrwng eu cyfrifiaduron (sydd wedi’u cysylltu trwy’r amser â’r Rhyngrwyd). Dyma’r dull symlaf o gael mynediad i’r Rhyngrwyd a phe baech yn prynu modem newydd at y diben hwn, byddai’n darparu mynediad o hyd at 56kbps (kilobits yr eiliad) i chi.

Mae Ffigur 1 yn dangos sefyllfa gysylltu, gyda chyfrifiadur yn cysylltu â’r Rhyngrwyd trwy gyfrwng gwasanaethydd ISP.
Bydd nifer o gwmnïau, yn enwedig y rhai sydd angen llinell ffôn ychwanegol yn defnyddio ISDN (Rhwydwaith Digidol Gwasanaethau Integredig) i gysylltu â’r Rhyngrwyd trwy ISP. BT yw’r darparwyr llinell ISDN arferol a gaiff ei gyflunio mewn modd tebyg i linell analog gonfensiynol (a elwir hefyd yn PSTN – Rhwydwaith Ffôn Swits Cyhoeddus neu POTS – Hen System Ffôn Arferol) ond y darperir dwy sianel fel rhan o’r cyfluniad. Y sefyllfa fwyaf cyffredin ar gyfer ISDN yw defnyddio un o’r sianeli ar gyfer mynediad i’r Rhyngrwyd gyda mynediad o hyd at 64kbps a’r llinell arall ar gyfer ffôn neu ffacs. Mae’n bosibl cyfuno neu drawsyrru’r ddwy sianel ISDN ynghyd er mwyn darparu 128kbps er y gall hyn greu goblygiadau o ran cost h.y. telir costau dwy alwad. Hefyd, mae’r modem sydd ei angen ar gyfer cysylltiad ISDN yn wahanol i fodem analog sy’n rhywbeth y dylid ei nodi cyn prynu.
Mae mynediad Band eang i ISP yn rhywbeth y mae llawer o fusnesau bach a chanolig eu maint yn ei ystyried yn enwedig ADSL (Llinell Danysgrifio Ddigidol Anghymesur) pan fydd cyfnewidfa ffôn sy’n gwasanaethu ardal yn gallu defnyddio ADSL. Mae Band eang yn darparu cysylltiad ‘parhaus’ â’r Rhyngrwyd trwy gyfrwng ISP ac ADSL yw’r ffurf fwyaf poblogaidd o gael mynediad i’r Rhyngrwyd y mae busnes bach a chanolig ei faint yn debygol o’i ddewis. Mae gan ADSL wasanaeth lefel mynediad sy’n darparu cyflymderau llwytho o hyd at 512kbps (y gellid ei ehangu i 2Mbps) a chyflymderau uwchlwytho o hyd at 256kbps gan ddefnyddio eich llinell ffôn bresennol heb effeithio ar alwadau ffôn arferol. Gall y mwyafrif o fusnesau bach a chanolig eu maint fforddio cost ADSL ar y cyd â gwasanaethau eraill â phrisiau tebyg a gynigir gan ddarparwyr Cable lle y bo hynny’n bosibl. Os nad yw’n bosibl cael mynediad ADSL neu fynediad Cable, mae mynediad trwy gyfrwng Lloeren yn ddewis mwy costus sy’n cynnig cyflymderau mynediad tebyg. Dau fath o wasanaeth ychwanegol sy’n werth eu crybwyll yw mynediad Llinellau ar Brydles a mynediad Band Eang Di-wifr er eu bod yn llai tebygol o gael eu defnyddio gan fusnesau bach a chanolig eu maint. Mae sawl opsiwn llinellau ar brydles costus ar gael gan ddarparwyr telathrebu a allai ddarparu cysylltiad ‘parhaus’ â’r Rhyngrwyd lle nad oes opsiynau eraill ar gael. Erbyn hyn, mae nifer o fentrau lleol neu a leolir yn y Ddinas ar gael i ddarparu mynediad Band Eang Di-wifr. Mae’n bosibl, er yn annhebygol ar hyn o bryd, eich bod yn disgyn i’r categori, ond bydd y math hwn o wasanaeth yn cynyddu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Fel gyda mynediad Analog neu ISDN, mae angen math o fodem neu ddyfais gylchynu er mwyn darparu’r cysylltiad rhwng ISP a’ch lleoliad.
|