|
ISPs (Darparwyr Gwasanaeth y Rhyngrwyd) a Gwasanaethau Cynnal Beth yw Gwasanaeth Cynnal?
Mae angen Gwasanaeth Cynnal neu Gwmni Cynnal pan fydd busnes angen presenoldeb ar y Rhyngrwyd er mwyn cynnal eu Gwefan. Fel y nodwyd yn flaenorol, fel arfer, gall ISPs gynnal Gwefannau ond os nad oes ganddynt wasanaeth Cynnal busnes craidd, mae’n debygol na fydd nifer o’r cyfleusterau sydd eu hangen. Y nodweddion arferol a gânt eu darparu gan Wasanaeth Cynnal yw:
Enwau parth
Bydd Gwasanaeth Cynnal yn eich darparu â’r gallu i gofrestru a chynnal un neu fwy o barthau yn ogystal â’r opsiwn o drosglwyddo enw(au) parth o leoliad arall os y’i cofrestrwyd yn flaenorol. Mae’n bwysig mai’r Cwmni neu’r cyswllt o fewn y cwmni yw’r sawl a gofrestrodd yr enw parth ond fel arfer, daw’r Gwasanaeth Cynnal yn gyswllt ar y rhan hwnnw’r o’r cofrestru. Ceir gwybodaeth ychwanegol: Cofrestrwch eich enw parth eich hun.
Cyfrifon eBost a Blaenyrru negeseuon eBost
Bydd y rhan fwyaf o Wasanaethau Cynnal yn darparu cyfeiriadau/cyfrifon eBost. Felly unwaith y bydd gennych enw parth, gallwch fanteisio ar hyn mewn cysylltiad ag eBost h.y. bod â chyfeiriadau eBost megis info@companyname.co.uk. Fodd bynnag, efallai mai dim ond y gallu i flaen-yrru negeseuon eBost y bydd rhai Gwasanaethau Cynnal yn eu darparu sydd ychydig yn wahanol a byddai’n golygu y byddai negeseuon a gânt eu hanfon at info@companyname.co.uk yn cael eu cyflunio i gael eu blaen-yrru at gyfeiriad eBost arall sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio, efallai trwy eich ISP.
Casgliad o Offer Ar-lein
Ceir amrywiaeth o offer neu sgriptiau (neu allu i gynnal sgriptiau ychwanegol) y bydd Gwasanaethau Cynnal yn eu darparu megis y gallu i gael grwpiau o ddefnyddwyr caeëdig, cyfleusterau chwilio, ymatebion awtomatig a ffurflenni ar Wefan yn ogystal â’r swyddogaeth i gynnal cyfleusterau mwy datblygedig megis eGatalogau. Yn aml, mae angen i sgriptiau CGI (Rhyngwyneb Porth Cyffredin) gynnal cymwysiadau eGatalog ac offer deinamig eraill ac mae ar Wefannau a ddatblygwyd gan ddefnyddio Microsoft Frontpage angen y defnydd o fynediad ar-lein i gronfeydd data trwy gyfrwng ASP (Tudalennau Gwasanaethydd Gweithredol) a PHP/MySQL neu debyg ar rai cymwysiadau Gwe. Mae’n bwysig sicrhau y caiff y swyddogaethau sydd eu hangen ar gyfer eich Gwefan/presenoldeb eu hategu gan eich Gwasanaeth Cynnal cyn dod yn rhan o gytundeb gwasanaeth.
Ystadegau Gwefan
Dylai pob Gwasanaeth Cynnal allu darparu mynediad i ffeiliau log ymwelwyr â’ch Gwefan a bydd nifer yn darparu ystadegau ystyrlon o’r wybodaeth hon er mwyn ei gwneud yn haws i’w dreulio. Gall y wybodaeth hon fod yn ddefnyddiol iawn ar gyfer marchnata ar y We a mesur effeithiolrwydd agweddau ar eich Gwefan.
Tystysgrifau Digidol
Y ffordd fwyaf cyffredin o greu cyswllt diogel rhwng porwr y We ymwelydd a’ch Gwefan trwy gyfrwng Gwasanaeth Cynnal yw defnyddio Tystysgrif Ddigidol neu Dystysgrif SSL (Haen Soced Ddiogel) trwy gyfrwng eich cyfrif Cynnal. Gellir prynu Tystysgrif Ddigidol trwy ddarparwyr trydydd parti neu drwy rai Gwasanaethau Cynnal ac yna’u cyflunio er mwyn creu’r cyswllt diogel hwn. Mae Tystysgrifau Digidol yn gyffredin mewn Gwefannau diogel ac ar gymwysiadau gwerthu Ar-lein.
Gwasanaethydd eich hun
Ar gyfer cymwysiadau Gwe mwy, mae’n bosibl i’r Gwasanaethau Cynnal gynnal gwasanaethydd un pwrpas o fewn eu seilwaith.
Wrth ddewis Gwasanaeth Cynnal, mae’n bwysig y caiff gofynion cynnal cyfredol Gwefan a gofynion a ragwelir ar gyfer y dyfodol eu hategu er mwyn sicrhau na fydd angen newidiadau diangen yn ddiweddarach.
|