|
ISPs (Darparwyr Gwasanaeth y Rhyngrwyd) a Gwasanaethau Cynnal Materion Cyffredinol i’w Hystyried wrth ddewis ISP a Gwasanaeth Cynnal
Mae’n bwysig darganfod ISP a Gwasanaeth Cynnal sy’n diwallu eich anghenion ond hefyd dylid cadw mewn cof bod gwasanaethau cyfunol yn bodoli er y gall gwasanaethau ar wahân fod yn fwy manteisiol yn aml. Yn ogystal â’r wybodaeth uchod, ceir nifer o faterion cyffredinol sy’n bwysig i’w hystyried cyn cwblhau unrhyw benderfyniadau:
- Pa mor bwysig yw cymorth? A ydych angen cymorth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos? A allwch chi ffonio neu anfon eBost at bersonél cymorth? Bydd y rhan fwyaf o ISP a Gwasanaethau Cynnal yn cynnig cymorth ar-lein trwy gyfrwng Cwestiynau a Ofynnir yn Aml, weithiau grŵp newyddion hyd yn oed, a all eich helpu i ddod o hyd i ateb i broblem y gallech chwilio amdano yn gymharol hawdd. A fydd cymorth yn rhad ac am ddim ac yn ddiderfyn, neu a ydych yn talu i ddefnyddio rhif ffôn cyfradd premiwm neu a oes terfyn ar y swm o gymorth sydd ar gael?
- Geirdaon – am ba hyd y mae’r Darparwr Gwasanaeth wedi bod mewn busnes, ac a ydynt yn ddibynadwy? A ydynt yn bodloni anghenion cleientiaid eraill? Mae’n bwysig cael geirdaon, gan y bydd hyn yn eich galluogi i ddarganfod cyfoeth o wybodaeth amdanynt.
- Beth sy’n digwydd os na fydd y gwasanaeth yn gweithio? Pa mor hir â gymer i ddatrys y broblem? A allwch chi siarad â staff technegol a all roi’r wybodaeth gywir i chi ac a oes ganddynt strategaeth wrth gefn i adfer y gwasanaeth cyn gynted ag sy’n bosibl?
- A fyddwch yn rhwym i gontract hirdymor a sut fyddwch yn derbyn eich biliau? Os teimlwch na all Darparwr y Gwasanaeth ddiwallu eich anghenion busnes mwyach, beth fydd yn digwydd os fyddwch eisiau symud yn gyflym i un arall? A fyddant yn eich rhyddhau o’u gwasanaeth yn gyflym ac yn hawdd os dymunwch?
- Pa Systemau Gweithredu y maent yn eu defnyddio? Bydd hyn yn eich helpu pan fyddwch yn datblygu eich gwefan.
Telerau ac Amodau
Fel gydag unrhyw gytundeb gwasanaeth, mae’n bwysig darllen y Telerau a’r Amodau. Weithiau, mae ISPs a Gwasanaethau Cynnal yn cynnwys cymalau penodol sy’n cyfeirio at gyfyngu ar y defnydd o’r system, pyrth wedi’u blocio ar wasanaethydd y We, ad-daliadau, ansawdd gwasanaeth, cyfyngiadau o ran ystod, a chymalau posibl eraill a allai effeithio arnoch. Gall rai o’r rhain fod yn gymharol safonol ond mae’n werth gwneud yn siŵr cyn mynd yn eich blaen.
Adnoddau ISP a’r Gwasanaethau Cynnal
Os ydych wedi dewis darparwyr y We y mae gennych ddiddordeb ynddo, sut ydych yn canfod mwy amdanynt? Gallech brynu cylchgrawn sy’n ymwneud â’r Rhyngrwyd gan werthwr papurau newydd – mae Internet Magazine ac Internet Works ymhlith y cylchgronau mwyaf poblogaidd ac maent yn cynnwys adolygiadau o nifer o ddarparwyr gwasanaethau yn y DU. Mae’r cylchgronau hyn yn cyhoeddi tabl sy’n adolygu ISP yn fisol, sy’n cynnwys profion perfformiad.
Gallech hefyd ddefnyddio’r cyswllt rhyngrwyd canlynol i edrych ar wefan a dargedwyd yn benodol ISP reviews. Mae’r Wefan hon yn darparu newyddion, rhestrau, adolygiadau a fforymau, ar lawer o ISPs yn y DU; mae’n ffynhonnell ddefnyddiol i’ch helpu gyda’ch ymchwil am ISP.
Ar y llaw arall, gallech roi cynnig ar sef Gwefan Cymdeithas Darparwyr Gwasanaeth y Rhyngrwyd, sy’n cynnwys rhestr o aelodau cyfredol. Fodd bynnag, mae’n Wefan ar gyfer yr ISPs, ond nid yw’n cynnig cyngor ar sut i wneud cwyn yn erbyn aelod o’r gymdeithas. Yn bwysicach, gallech siarad â busnesau bach a chanolig eu maint eraill sy’n defnyddio eFasnach a gofyn iddynt pwy y maent yn ei ddefnyddio, ac os yw eu ISP yn dda neu’n wael. Gofynnwch a oes ganddynt unrhyw broblemau, a pha mor ddefnyddiol yw’r cymorth y maent wedi’i dderbyn. Mae adnoddau ychwanegol sy’n ymwneud yn fwy penodol â’r gwasanaeth Cynnal yn cynnwys UK Tophosts a The Web Host Industry Review.
|