 |
 |
Rhydych chwi yma: Home > Canllawiau Ar-lein > Cyfathrebiad y Rhyngrwyd ag electronig > Technolegau EDI > Beth mae'r Gallu i Ddefnyddio EDI yn ei Olygu?
|
| Page 1 of 5
|  |
| |
|
Trosolwg o Dechnolegau EDI Beth mae'r Gallu i Ddefnyddio EDI yn ei Olygu?
Defnyddir EDI, sef Rhyngnewid Data yn Electronig yn eang o hyd o fewn diwydiant, ac er y ceir datblygiadau sy'n ymwneud â'r We, y Rhyngrwyd ac XML, (Iaith Nodi Estynnol), mae proses EDI glasurol a ddefnyddiwyd gan gwmnïau yn y DU ers y 15 mlynedd diwethaf yn opsiwn eFasnach y byddai'n rhaid i fusnesau bach a chanolig eu maint ei fabwysiadu o bosibl o hyd. Mae'r erthygl hon yn rhoi trosolwg cyffredinol o'r technolegau EDI sy'n berthnasol i'r dull hwn o fasnachu'n electronig.
I allu defnyddio EDI mae angen nifer o gydrannau technolegol. Yn syml, bydd angen meddalwedd EDI addas, y gallu i gysylltu â rhwydwaith cyfathrebu addas, a'r gallu i brosesu negeseuon electronig safonol a ddefnyddir gan eich partner masnachu. Dylai unrhyw bartner masnachu cydwybodol gynnig cymorth a chyngor, er nad dyma'r achos o hyd. Yr hyn sydd angen ei gofio yw'r ffaith nad yw mabwysiadu proses EDI yn debyg i osod peiriant ffacs. Unwaith y bydd gennych beiriant ffacs, gall unrhyw un arall â chyfleuster ffacsio anfon gwybodaeth atoch. Hwyrach na fyddai datrysiad EDI, yn cynnwys meddalwedd, rhwydwaith, a'r negeseuon safonol, y byddwch yn eu defnyddio ar gyfer un cwsmer, yn diwallu anghenion cwsmer arall.
Mae'r tair adran nesaf yn ystyried cydrannau technolegol EDI ychydig yn fwy manwl.
|
|
|
|  |
|

|
 |