|
Trosolwg o Dechnolegau EDI Meddalwedd EDI
Bellach, ystyrir bod systemau cyfrifiadurol, boed yn feicrogyfrifiaduron, yn finigyfrifiaduron, neu'n brif gyfrifiaduron, yn rhan hanfodol o'r rhan fwyaf o weithrediadau masnachu. Caiff llawer o'r data ar gyfer systemau o'r fath ei fewnosod â llaw, cyn iddo gael ei brosesu, a'i ysgrifennu, yn dilyn hynny, ar ddogfennau allbwn megis anfonebau, archebion, nodiadau cydnabyddiaeth a dosbarthu. Yna caiff y dogfennau hyn, fel arfer, eu dosbarthu drwy gyfrwng y gwasanaethau post.
Gydag EDI, yn hytrach nag anfon y wybodaeth gyfrifiadurol i beiriant argraffu, caiff ei gadw ar ffurf electronig a bydd y dull y caiff y "ddogfen electronig" ei threfnu yn dibynnu ar y pecynnau meddalwedd amrywiol a gaiff eu defnyddio. Yn dilyn hynny, caiff y ddogfen electronig hon ei thrawsnewid yn neges EDI gytûn wedi'i fformatio, gan ei gwneud yn addas i'w throsglwyddo i bartner masnachu, drwy'r rhwydwaith EDI. Pan gaiff ei derbyn, caiff y wybodaeth ei dadgodio o'r fformat safonol EDI cytûn a'i drawsnewid i fformat sy'n addas ar gyfer system gyfrifiadurol y derbyniwr. Yna bydd y data yn barod i gael ei brosesu gan feddalwedd gymhwyso briodol. Fodd bynnag, rhaid dweud, o fewn llawer o osodiadau cychwynnol gan fusnesau bach a chanolig eu maint, caiff y neges EDI a dderbynnir ei hargrafffu.
Yn syml, mae meddalwedd EDI yn rhoi'r gallu i drawsnewid i ddull safonol cytûn y neges EDI a ddefnyddir ynghyd â thrawsnewid o'r dull hwnnw, ac mae hefyd yn darparu'r broses o ryngwynebu â'r rhwydwaith cyfathrebu EDI. Gall llawer o'r pecynnau sydd ar gael ddelio â safonau gwahanol, negeseuon gwahanol, a chysylltu â rhwydweithiau cyfathrebu gwahanol. Rydych yn dechrau gyda dwy neu dair neges wahanol, a drefnir yn ôl dull safonol cytûn, ac yn gwneud defnydd o un rhwydwaith. Wrth i'ch anghenion EDI ehangu, bydd angen i chi brynu deunydd ymarferol ychwanegol, y gellir, fel arfer, ei ychwanegu at y feddalwedd wreiddiol. Mae'r gallu i ychwanegu ymarferoldeb yn rhywbeth y dylai unrhyw newydd-ddyfodiad i EDI ei ystyried wrth brynu meddalwedd.
|