|
Defnyddio Gwelogiau mewn busnes
Gwefannau sy’n galluogi dull o gyhoeddi ac arddangos cynnwys yn gronolegol yw gwelogiau. Yn draddodiadol, buont yn ddull poblogaidd i unigolion gyhoeddi eu cynnwys eu hunain (eu meddyliau a’r safbwyntiau eu hunain, er enghraifft), ond erbyn hyn mae busnesau yn mabwysiadu pwer Gwelogiau, oherwydd gallant weld eu manteision o ran pa mor hawdd ydynt i’w defnyddio a’u fformat arddangos.
Ni fwriedir i Welogiau gymryd lle Gwefannau presennol. Maent yn darparu swyddogaeth ychwanegol. Os oes gennych Wefan (neu os ydych yn ystyried sefydlu un) a’ch bod yn dymuno ystyried cyflwyno Gwelog i mewn iddi, efallai y byddwch am ystyried dewis meddalwedd Gwelog y gellir ei deilwra i gydweddu â gweddill eich safle.
Strwythur gwelogiau
Cyhoeddir cynnwys gwelog gan feddalwedd Gwelog. Lleolir y meddalwedd fel arfer ar wasanaethydd y We yn rhywle; cewch fynediad i ddulliau cyhoeddi ac arddangos Gwelog drwy borwr safonol y We.
Mae’r meddalwedd yn gweithredu mewn dau fodd arddangos:
- Arddangos nifer y cofnodion diweddaraf ar y Gwelog, wedi’u harddangos ar un dudalen hir.
- Arddangos un cofnod unigol ar y Gwelog.
Wrth edrych ar hafan y Gwelog, byddai’r defnyddiwr fel arfer yn gweld sefyllfa 1. Er enghraifft, byddent yn edrych ar y 15 cofnod Gwelog diweddaraf. Yn y rhan fwyaf o feddalwedd Gwelog, byddai pob cofnod yn cynnwys troednodyn, sy’n cynnwys enw’r awdur, y dyddiad a’r amser y cynhwyswyd y cofnod, a chyswllt er mwyn i’r defnyddiwr allu gweld y cofnod hwnnw’n unig (sefyllfa 2 uchod). Gelwir y cyswllt hwn, sy’n galluogi’r defnyddiwr i weld un cofnod ar wahân i weddill y cofnodion Gwelog, yn permalink - sef cyswllt parhaus i un cofnod Gwelog.
Diben y permalink yw galluogi pobl eraill - yn aml, awduron Gwelogiau eraill - i gysylltu’n uniongyrchol ag un cofnod o’r safle eu hunain.
Yn achos cysylltu Gwelogiau at ei gilydd drwy safbwyntiau, gadewch i ni ddefnyddio un enghraifft lle y mae Arwen a Dylan ill dau yn ysgrifennu Gwelogiau. Mae ei chofnod Gwelog yn darllen:

Deuwn yn ôl at "Tudalennau’r we sydd wedi cysylltu â’r erthygl hon" yn nes ymlaen.
Ar ôl i Arwen gyhoeddi’r cofnod hwn ar ei Gwelog, fe’i darllenwyd yn dilyn hynny gan ei ffrind Dylan. Felly, ysgrifennodd Dylan ar ei Welog ef:

Yn yr enghraifft uchod, mae Dylan wedi cynnwys cyswllt i gofnod gwreiddiol Arwen, yn uniongyrchol yn y testun. Fel arfer mae gwelogiau naill ai’n cynnwys cysylltiadau uniongyrchol yn y testun y mae’r cofnod yn cyfeirio ato (fel y gwna’r enghraifft hon) neu fel cyswllt oddi tano.
Gadewch i ni fynd yn ôl at erthygl wreiddiol Arwen. Mae rhywfaint o feddalwedd Gwelog yn cynnwys yr hyn a elwir yn ddata cyfeirio HTTP - mewn geiriau eraill, rhestr awtomatig o ba dudalennau ar y We y mae’r Rhyngrwyd wedi’u cysylltu â’r cofnod arbennig hwnnw. Felly, gadewch i ni ddarllen erthygl Gwelog Arwen ar ôl i Dylan gyflwyno ei ymateb:

Gan fod hwn yn nodwedd awtomataidd o rai meddalwedd, gallai fod mater ynglyn â chymeriad yn gysylltiedig â hyn. Os yw Dylan wir yn casáu y siop yna gallai fod wedi ysgrifennu rhywbeth a oedd yn llawer mwy beirniadol, y gallai meddalwedd Arwen fod wedi’i arddangos a’i nodi, oni fyddai Arwen wedi’i ganfod yn ddigon cynnar.
O ganlyniad, nid yw pwer Gwelogiau yn ymwneud â’r ffordd y maent yn caniatáu ar gyfer cynnwys sy’n seiliedig ar safbwyntiau mewn dull hygyrch yn unig, ond maent hefyd yn annog llawer o gysylltu rhwng Gwelogiau eu hunain. Mae hyn yn datgelu pwer y We fel cyfrwng gwybodaeth rhyng-gysylltiedig, uwch destun.
|