Fersiwn Graffig Isel - WAI lefel AA a Bobby 508
Pwy a beth - amdanom ni, sut y gallwn eich helpu chi Canllawiau ar-lein - Canllawiau manwl ar sut all eFasnach eich helpu chi Busnesau Bach a Chanolig eu Maint yng Nghymru - Newyddion, nodweddion a storïau llwyddiant busnes
Adnoddau - cymorth cynhwysfawr, cyfleusterau chwilio, a mwy Forum
Cyfle Cymru - tudalen cartref
Gwefan a ddatblygir mewn partneriaeth â BT
 English Version Dangos y tudalen yma mewn testun fwy  Gwneud yr tudalen yma yn gyfaddas â phapur Portread A4 Cymorth a'r y we Cysylltu â Chyfle Cymru  Map o'r Wefan  Cliciwch yr linc yma am archwiliad uwch. Am archwiliad syml, defnyddiwch yr bocs testun i'r dde.
Canllawiau Ar-lein
Cysylltiad partner As featured on NewsNow.co.uk


Rhydych chwi yma: Home > Canllawiau Ar-lein > Cyfathrebiad y Rhyngrwyd ag electronig > Dosbarthwch eich caneuon ar-lein > Cyflwyniad



Page 1 of 4   Next Page .. Gwneud pethau eich hunan
 

Dosbarthwch eich caneuon ar-lein

Mae dosbarthu cerddoriaeth dros y rhyngrwyd yn fusnes mawr bellach ac mae’n parhau i dyfu.

Dosbarthwch eich caneuon ar-lein

Dechreuwyd hyn oll gan wasanaethau megis y Napster gwreiddiol a oedd yn galluogi defnyddwyr i lawrlwytho caneuon yn anghyfreithlon o gasgliadau cerddoriaeth pobl eraill. Bellach mae’n ffordd o fyw i lawer o bobl sy’n hoff o gerddoriaeth, yn enwedig y genhedlaeth iau, sydd â dealltwriaeth well o dechnoleg.

Mae miliynau o ffeiliau cerddoriaeth wedi cael eu cyfnewid a’u rhannu gan bobl ers y dyddiau cynnar o rannu ffeiliau. Gan amlaf nid yw pobl yn meddwl p’un a yw hyn yn gyfreithlon ai peidio, ac er bod y diwydiant cerddoriaeth wedi bod yn barod iawn i ddweud nad oedd yn cymeradwyo lladrata cerddoriaeth ar-lein, bu braidd yn araf i fanteisio ar y cyfle masnachol yr oedd y Rhyngrwyd a chysylltu cyflymach yn ei gynnig iddynt.

Yn eironig, roedd yn rhaid i Apple - un o’r prif gwmnïau ym maes cyfrifiaduron - ddangos i gwmnïau mawr y diwydiant cerddoriaeth y gallai gwerthu a dosbarthu cerddoriaeth dros y Rhyngrwyd weithio. Drwy greu math o hawlfraint ddigidol ar gyfer caneuon a lawrlwythir, llwyddodd Apple (sy’n galw’i hun yn gwmni cyfrifiadurol â phwys ar ‘ffordd o fyw’) i berswadio nifer o’r prif labeli recordio i ganiatáu i’w cerddoriaeth gael ei gwerthu ar-lein drwy iTunes Music Store. Bydd cyfyngiadau defnyddio ar y caneuon a brynir, o ran sawl copi CDR y gallwch ei wneud ohonynt, neu i sawl cyfrifiadur y gallwch eu trosglwyddo. Hefyd, ceir cyfyngiadau o ran nifer y dyfeisiau symudol y gallwch drosglwyddo’r caneuon iddynt. (mae’r cyfyngiadau hyn yn gyffredin i bron bob platfform lawrlwytho, gyda rhai eithriadau).

Drwy gyfuno’n ddeheuig â chwaraewr cyfryngau iTunes a’r iPod, sy’n enwog erbyn hyn, daeth siop iTunes yn llwyddiant ymhlith y cyhoedd a oedd yn prynu recordiau yn America, gwerthwyd mwy na 100 miliwn o lawrlwythiadau cerddoriaeth ym mlwyddyn gyntaf y gwasanaeth. Flwyddyn neu ddwy yn ddiweddarach, ac mae siopau iTunes wedi agor ar draws Ewrop (gan gynnwys yn y DU), ac mae corfforaethau mawr eraill, nad ydynt yn ymwuneud â cherddoriaeth megis Coke, Microsoft, Tesco a’r Napster, sydd bellach yn gyfreithlon, oll wedi sefydlu siopau er mwyn ceisio sicrhau cyfran o’r farchnad sydd newydd goroni Outkast fel yr artistiaid cyntaf erioed i werthu digon o lawrlwythiadau ennill gwobr ‘Platinum’.

Felly, mae’r oes dosbarthu cerddoriaeth dros y rhyngrwyd yn prysur nesáu, ond sut y gallwch fynd ati i roi eich cerddoriaeth ar-lein?

Next Page .. Gwneud pethau eich hunan



Rhan-Ariennir y Prosiect gan yr Undeb Ewropeaidd (Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd) Llywodraeth Cynulliad Cymru © 2001-2007 Gwell Busnes Cymru (Daliadau) Cyf
Cyfarwyddiadur Clieint / Telerau ac Amodau/Polisi preifatrwydd Botymau Mynediad Darnau RSS
W3C - Lefel hygyrchedd A. Fersiwn graffig isel lefel hygyrchedd AA a Bobby 508. W3C - Cysandeb tafenni steil rhaedorol Cyswllt Cryno Gwefan Gyfoethog (RSS)