 |
 |
Rhydych chwi yma: Home > Canllawiau Ar-lein > Gwerthu ar-lein > e-Farchnadoedd > Cyflwyniad
|
| Page 1 of 3
|  |
| |
|
eFarchnadoedd Cyflwyniad i eFarchnadoedd
eFarchnad yw'r dull o gyfnewid ar-lein lle y daw sefydliadau a'u cymunedau at ei gilydd i gynnal masnach, i gael mynediad i gynnwys, ac i gydweithio er mwyn gwella perfformiad busnes. Mae'r enwau eraill ar gyfer eFarchnadoedd yn cynnwys: Dulliau cyfnewid B2B (Busnes i Fusnes), a chanolfannau masnachu ar-lein.
Cymwysiadau gwasanaeth yw eFarchnadoedd, sy'n cysylltu prynwyr a gwerthwyr â'i gilydd dros y Rhyngrwyd. Bydd e-Farchnad lwyddiannus yn ffurfio torf o brynwyr a gwerthwyr, gan greu sianeli newydd i gyflenwyr allu gwerthu nwyddau a gwasanaethau, a symleiddio'r broses gaffael i brynwyr. Fel arfer, mae e-Farchnadoedd yn cynnwys meddalwedd a gaiff ei gweithredu ar eiddo'r cwsmer, neu o fewn amgylchedd a gynhelir.
Yn syml, gwefan yw eFarchnad lle y gall nifer o gyflenwyr a phrynwyr gynnal trafodion busnes drwy gyfrwng y Rhyngrwyd.
Y Tri Dull Cyffredinol o Gyfnewid:
- O dan reolaeth y Prynwr
- O dan reolaeth y Cyflenwr
- Cyfnewid yn Annibynnol
|
|
|
|  |
|

|
 |