 |
 |
Rhydych chwi yma: Home > Canllawiau Ar-lein > eFasnach ac eich busnes > Materion Busnes eFasnach > Eich Cynllun eFusnes > Edrych y Tu Mewn i'r Busnes
|
| Page 3 of 11
|  |
 |
| |
Datblygu Eich Cynllun eFasnach Eich Hun
Edrych y Tu Mewn i'r Busnes
Rhan bwysig o ddatblygu cynllun busnes eFasnach yw deall pa fusnes rydych yn rhan ohono,
a beth yw'r gwerth gwirioneddol a gynigiwch i'ch cwsmeriaid? Gallai hyn ymddangos yn gwestiwn elfennol gan fod yr ateb yn
ymddangos yn ddigon amlwg i'ch dallu "Beth ydw i wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd!" Fodd bynnag, mae eFasnach yn newid dulliau busnesau o weithio, a gallai hyn ofyn am
newid cyfeiriad neu ailstrwythuro llwyr, i unioni'r busnes gyda'r cyfleoedd a'r manteision
a gynigir gan eFasnach. Bydd mabwysiadu dulliau eFasnach yn dod â thechnoleg
newydd i'ch busnes, gan wneud y cyfnod yn un delfrydol i ailgynllunio prosesau ac arferion
gwaith eich busnes i gael y budd mwyaf posibl. Golyga hyn bod angen i chi archwilio'r
ffyrdd traddodiadol a'r hoff ffyrdd o weithio, a gweld sut y gall eFasnach eich galluogi
i dorri rheolau eich busnes. Ystyriwch sut y gallwch fod yn ddyfeisgar, yn fwy effeithlon,
a sut i leihau costau, neu ddarparu gwerth a gwasanaeth gwell i'ch cwsmeriaid
meithrin y berthynas â'r cwsmer.
Gall defnyddio eFasnach i awtomeiddio a chyflymu prosesau busnes fod yn ateb rhannol, ond
os bydd y prosesau, o safbwynt eFasnach, yn ddiffygiol yn y bôn, dylid eu dileu a
gosod rhai newydd yn eu lle. Hwyrach y bydd angen creu newidiadau sylfaenol i elwa ar
eFasnach.
Gallai parhau i ddefnyddio arferion gwaith hen ffasiwn neu rai nad ydynt yn grefftus iawn
sy'n creu llawer o waith, olygu bod nerth gwerth eich busnes yn cael ei golli i
gystadleuaeth, costau neu anfodlonrwydd cwsmeriaid. Os bydd swyddogaethau swyddi penodol
yn peidio â bodoli, dylech ail-hyfforddi neu ail-leoli staff mewn meysydd eraill, i
gefnogi dulliau eFasnach. Mae gwneud dim yn debygol o fod yn risg mwy a fydd yn creu
problem fwy yn y dyfodol agos.
|
|
|
|  |
 |
|

|
 |