 |
 |
Rhydych chwi yma: Home > Canllawiau Ar-lein > eFasnach ac eich busnes > Materion Busnes eFasnach > Eich Cynllun eFusnes > Beth yw Galluoedd Craidd Eich Busnes?
|
| Page 4 of 11
|  |
 |
| |
Datblygu Eich Cynllun eFasnach Eich Hun
Beth yw Galluoedd Craidd Eich Busnes?
Rhowch gynnig ar ysgrifennu'r atebion i'r cwestiynau canlynol. Os byddant yn anodd i'w
hateb, siaradwch â'ch cwsmeriaid gorau dylent allu ddweud wrthych!
- Pa anghenion, gofynion, neu ddyheadau y mae'r hyn a gynigiwch yn eu bodloni, neu ba
broblemau y mae'n eu datrys? Nodwch y ffactor "Sut y byddaf yn elwa ar eFasnach?" sy'n cymell eich cwsmeriaid i brynu o'r hyn a gynigiwch chi.
- Pam bod pobl yn prynu o'ch busnes? Os ydych yn gwerthu'r un cynnyrch neu wasanaeth â chystadleuydd, pam bod eich
cwsmeriaid yn dewis eich busnes chi?
- Beth sy'n gwneud yr hyn sydd gan eich busnes i'w gynnig yn wahanol? Rhestrwch eich Pwyntiau Gwerthu Unigryw ac unrhyw gynnyrch a gwasanaeth arall sy'n cynnig
gwahaniaethau.
Dylai adolygu eich atebion i'r uchod eich galluogi i nodi'r gwerth y mae eich busnes yn ei gynnig i'ch cwsmeriaid. Mae'n ddigon posibl mai nid y cynnyrch
neu'r gwasanaeth uniongyrchol a gynigir fydd eich gwir werth, ond rhywbeth arall fel gwasanaeth neu gymorth cwsmeriaid, gwybodaeth arbenigol,
lleoliad, amgylchedd, marchnata, cyflwyniad, neu'r ffaith bod pobl yn mwynhau cynnal
busnes gyda chi!
Ar ôl enwi nifer o nodweddion sy'n gwneud eich busnes yn wahanol, allwch chi eu
hehangu er mwyn iddynt wneud eich busnes yn fwy gwahanol? Fel arall, allwch chi greu
cynnyrch a gwasanaethau ar ffurf pecynnau newydd, gan eu cymysgu a'u paru hyd yn oed gyda
chynigion trydedd bartïon, i greu gwerth i'r cwsmer sy'n fwy na swm y rhannau?
|
|
|
|  |
 |
|

|
 |