Mae ymchwil wedi dangos bod cwsmeriaid a defnyddwyr yn siopa ar-lein am y pum rheswm canlynol (rhestrwyd yn ôl pwysigrwydd):
Cyfleuster a Rhwyddineb Defnydd. Gall defnyddwyr siopa, yn llythrennol, yn eu dillad isaf am 3 am, o unrhyw leoliad, gan ddefnyddio cysylltiad â'r Rhyngrwyd.
Amrywiaeth a Mwy o Ddewis. Gall defnyddwyr gymharu a chyferbynnu cynnych yn gyflymach.
Arbed Costau. Caiff rhai cwsmeriaid fargeinion hyd yn oed ar ôl talu am gostau dosbarthu ychwanegol.
Anhysbysrwydd. Gall cwsmeriaid brynu cynnyrch amheus neu gynnyrch sy'n achos embaras drwy beidio â datgelu pwy ydynt mewn gwirionedd.
Dim Pwysau o ran Gwerthiant. Gall cwsmeriaid sy'n casáu dynion gwerthu osgoi'r profiad yn gyfan gwbl. Mae'r broses o siopa ar y Rhyngrwyd yn ei gwneud yn hawdd i fynd oddi ar y lein i feddwl am gynnyrch arbennig.
Mae ymchwil hefyd wedi dangos bod cwsmeriaid a defnyddwyr yn edrych am y tri pheth hyn pan fyddant yn siopa ar lein:
Gwybodaeth fanwl am y cynnyrch ei hun
Cymharu prisiau
Gwybodaeth fanwl am y gwerthwr.
Cysylltwch â Y Ganolfan Alw neu ffoniwch fy rhif personol i neu anfonwch neges eBost at Cyfle Cymru YN AWR i gael manteision a buddiannau eFasnach ar gyfer eich