|
Canllaw syml i Dân-furiau (Firewalls) ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint Tân-furiau poblogaidd
Nid yw Cyfle Cymru wedi cynnal arolwg o gynnyrch tân-furiau ond nodwyd nifer tra’n gweithio ar yr erthygl hon. Maent yn cynnwys:
Zone Alarm Pro
ymddengys ei fod yn dân-fur meddalwedd poblogaidd sy’n amrywio o $49.95 am drwydded defnyddiwr unigol i $1,823 am drwydded 50 defnyddiwr.
www.zonelabs.com
SonicWALL PRO 100
tân-fur yn seiliedig ar galedwedd wedi’i anelu at fusnesau bach a chanolig eu maint sydd angen tân-furiau rhwydwaith. Mae’r pris yn amrywio o £1000 i £1300.
Rhaid cysylltu SonicWALL Pro 100 rhwng eich rhwydwaith personol a’ch canfyddwr llwybr Rhyngrwyd, yna cyflunio’r cynnyrch oddi ar sgrîn porwr y we.
www.sonicwall.com
Tân fur personol McAfee.com
tân-fur meddalwedd sy’n diogelu Cyfrifiaduron Personol unigol sydd wedi’u cysylltu i’r Rhyngrwyd. Mae’n costio £21.95 i’w osod ar bob cyfrifiadur personol, ac ar ôl iddo gael ei osod bydd yn dechrau diogelu eich cyfrifiadur rhag ymwelwyr digroeso.
www.mcafee.co.uk
SnapGear
cynnig tân-furiau sydd yn seiliedig ar meddalwedd sydd wedi ei anelu at busnesau bach a chanolig eu maint.
www.nowdistribution.co.uk
SofaWare
Tân-furiau’n seiliedig ar galedwedd yw Safe@Home a Safe@Office sy’n cael eu gosod rhwng eich cyfrifiaduron personol a’ch Modem, felly gallwch eu defnyddio i ddiogelu eich rhwydwaith cartref neu gyfrifiadur personol unigol.
Mae’r atebion hyn ar gyfer modemau cyflymder uchel yn unig. Maent yn costio rhwng $299 a $599, yn dibynnu ar faint o nodau yr ydych am i’ch tân-fur ddarparu.
Mae angen cysylltu eich dyfais Safe@Home/Office i’ch modem cyflymder uchel ar un llaw, ac i’ch cyfrifiadur (neu gyfrifiaduron) personol ar y llaw arall er mwyn ei osod. Mae’r cyflunio’n digwydd ar ryngwyneb rheoli’r We Sofaware, sy’n hawdd i’w ddefnyddio.
www.sofaware.com
Canllaw i dân-furiau
Mae’r wefan hon yn darparu cysylltiadau i adolygiadau o lawer o’r tân-furiau mwyaf poblogaidd.
www.firewallguide.com/software.htm
|