|
Canllaw syml i Dân-furiau (Firewalls) ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint Crynodeb Wrth i fusnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru wneud mwy o ddefnydd o eFasnach gan ddefnyddio cysylltiadau mwy soffistigedig rhwng eu cyfrifiaduron eu hunain a’r Rhyngrwyd yn benodol (h.y. cysylltiadau Rhyngrwyd Band llydan), mae’n rhaid iddynt roi mwy o sylw i ddiogelu eu systemau rhag ymosodiad o’r tu allan. Dim ond rhwydweithiau swyddfa oedd yn cysylltu i’r Rhyngrwyd oedd yn defnyddio tân-furiau yn draddodiadol. Fodd bynnag gyda’r cynnydd mewn cysylltiadau ‘parhaus’ i’r Rhyngrwyd fel DSL (Llinell Tanysgrifiwr Digidol) neu Fodem Cabl, mae cyfrifiaduron unigol sydd wedi’u cysylltu i’r Rhyngrwyd hefyd yn defnyddio tân-furiau. Yn gyffredinol, mae tân-furiau caledwedd wedi’u hanelu at ddiogelu rhwydweithiau swyddfa sy’n cysylltu i’r Rhyngrwyd. Mae tân-furiau meddalwedd wedi’u hanelu at un, dau neu fwy o gyfrifiaduron personol sy’n cysylltu trwy un peiriant trwy gyfrwng Cysylltiad Rhyngrwyd wedi’i rannu neu system arall debyg. Gall tân-furiau fod yn rhan werthfawr o gynllun diogelwch sefydliad. Fodd bynnag , mae rhai ymosodiadau na all tân-fur gynnig diogelwch rhagddynt, yn benodol ymosodiadau gan neu wedi’u cynorthwyo gan bobl fewnol, hynny yw eich staff chi.
|