|
Cyflwyniad i Ddiogelu rhag Firysau 
Er nad yw diogelu rhag firysau yn faes sy’n gwbl gysylltiedig ag eFasnach, mae’r erthygl fer hon yn darparu trosolwg defnyddiol o sut y gall busnesau bach a chanolig eu maint ddiogelu eu hunain rhag firysau. Mae firysau wedi dod yn fygythiad cynyddol i fusnesau bach a chanolig eu maint o ganlyniad i nifer gynyddol y bobl sy’n defnyddio cyfrifiaduron ac yn rheoli gwybodaeth ar gyfrifiaduron. Caiff firysau, a drosglwyddir fel arfer drwy’r cyfryngau symudol (e.e. disgiau hyblyg), eu lledaenu yn gynyddol drwy atodiadau eBost a ffeiliau a lwythir oddi ar y Rhyngrwyd. Gall busnesau bach a chanolig eu maint ddiogelu systemau rhag effaith firysau drwy fuddsoddi mewn meddalwedd gwrth-firws a llwytho’r dechnoleg ddiweddaraf yn rheolaidd oddi wrth werthwyr meddalwedd gwrth-firws. Beth yw firws? Rhaglen gyfrifiadurol a gynlluniwyd i gael mynediad i’ch system gyfrifiadurol yn gudd, a heintio eich ffeiliau, yw firws cyfrifiadurol. Gall effaith firws amrywio o achosi problemau eithaf dibwys fel mynd â gofod ffeiliau, neu arafu cyflymdra prosesu i arddangos neges ar y sgrîn. Gall rhai firysau hyd yn oed ddifrodi, dileu neu drosglwyddo ffeiliau. Yn dechnegol, nid firysau yw rhaglenni maleisus eraill, fel ‘worms’ a Trojan horses’, ond fel arfer, cânt yr un canlyniadau ac, fel firysau, maent wedi’u cynllunio i beri difrod i’ch system neu eich rhwydweithiau. Sut ydych chi’n dal firws? Y prif ffyrdd y bydd firws yn cael mynediad i’ch system yw drwy ffeiliau a ychwanegir at y system o gyfryngau y gellir eu dileu - fel disgiau hyblyg neu ddisgiau ZIP - ac o lwytho oddi ar y Rhyngrwyd. Gellir dal firysau hefyd drwy agor atodiad i neges eBost, ond nid drwy negeseuon eBost testun plaen. Gan mai rhaglen yw firws, mae’n rhaid iddo gael ei redeg i ddod yn weithgar, felly, ni chaiff firws a anfonir fel atodiad i neges eBost ei ryddhau hyd nes y byddwch yn ei redeg - drwy agor yr atodiad (drwy glicio arno ddwywaith fel arfer). Un opsiwn ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint er mwyn osgoi’r math hwn o firws yw peidio ag agor atodiadau sydd naill ai’n ffeiliau gweithredadwy (sydd â’r estyniad .exe neu .com) neu ffeiliau data ar gyfer rhaglenni sy’n cynnwys cyfleusterau ysgrifennu macro (fel cyfresi swyddfeydd). Fodd bynnag, dewis amgen mwy ymarferol yw prynu meddalwedd diogelu rhag firysau, a’i defnyddio i wirio unrhyw atodiadau a dderbynnir ar gyfer firysau cyn eu hagor.
|