Rhydych chwi yma: Home > BBChM yng Nghymru
BBChM yng Nghymru Busnesau bach a Chanolig eu Maint
Mae’r adran hon o Wefan Cyfle Cymru yn cynnwys y newyddion eFasnach diweddaraf, a newyddion a chyngor ar gyfer - ac ynglŷn â - busnesau bach yng Nghymru.
Mae Cyfle Cymru wedi helpu miloedd o fusnesau i ddatblygu drwy ddatblygiadau eFasnach pragmataidd. Efallai bydd gennych ddiddordeb mewn darllen am sut y bu i rai o’n busnesau lwyddo.
Mae’r adran Hanes llwyddiant eFasnach yn adrodd hanesion nifer o’r busnesau llwyddiannus ac amrywiol hyn, sut y bu Cyfle Cymru o gymorth iddynt, a’r llwyddiannau hyd yn hyn. Gobeithiwn y gall hanesion cwmnïau eraill eich ysbrydoli chi ac ennyn eich diddordeb mewn cael gwybod mwy am sut y gall eich busnes ddatblygu. Cysylltwch â ni os hoffech gael mwy o wybodaeth am sut y gall Cyfle Cymru eich helpu.
Bob mis, byddwn yn dewis un o gleientiaid Cyfle Cymru ac yn bwrw golwg ar eu cyflawniadau arbennig ym maes eFasnach a datblygu busnes. Y cleient a ddewisir fydd Cwmni’r Mis – beth am gael golwg i weld pwy yw cwmni’r mis ar hyn o bryd?
Gallwch hefyd ddarllen y newyddion diweddaraf yn yr adran Newyddion eFasnach. Mae’n cynnwys ein crynodeb wythnosol o ddatblygiadau ar Welóg Cyfle Cymru, rhifyn diweddaraf ein cylchgrawn, gallwch weld a gwrando ar y newyddion technoleg ddiweddaraf, darllen ein hadroddiad blynyddol ar y defnydd o eFasnach gan fusnesau yng Nghymru – Cyflwr y Genedl – a llawer mwy. Drwy gofrestru ar ein safle, cewch fynediad i swyddogaethau ychwanegol perthnasol.
Nid oes rhaid i chi fod yn gwmni technoleg uchel, uchelgeisiol er mwyn elwa ar ddatblygiadau pragmataidd ym maes eFasnach. Gall Cyfle Cymru eich helpu chi i fanteisio i’r eithaf ar y buddiannau posibl.

|